Mae cyfres o lyfrau a fu'n hynod o bblogaidd dros y pum mlynedd diwethaf am anturiaethau dau chwaraewr rygbi wedi ei dirwyn i ben.
Myrddin ap Dafydd oedd oedd awdur y llyfr cyntaf yn y gyfres Mewnwr a Maswr ond pasiodd y bêl i Gareth William Jones a sgrifennodd y saith llyfr arall ar gyfer plant 10 i 12 oed.
Newydd ei chyhoeddi mae'r wythfed nofel - a'r olaf - Gwisgo'r Crys Coch.
Mae'r gyfres yn dilyn helyntion dau frawd yn eu harddegau, Llion a LlÅ·r, ar y meysydd rygbi a'u ffrindiau sy'n cael eu hyfforddi gan dad y ddau, Ifor Madog.
Cyhoeddir y gyfres gan Wasg Carreg Gwalch "Myrddin ap Dafydd gafodd y syniad am y gyfres yn y lle cyntaf a Myrddin ysgrifennodd y gyntaf sef Brwydr y Brodyr a gyhoeddwyd ym mis Mai 2004," meddai Gareth William Jones sy'n byw yn Bow Street ger Aberystwyth.
"Er mai rhoi difyrrwch gyda helyntion anturus yw prif amcan y nofelau, wrth gwrs, dwi hefyd wedi gyflwyno ambell i thema i'r darllenwyr ifanc gnoi cil arnynt," ychwanegodd. Yn Dau Ddewis er enghraifft - y nofel gyntaf iddo ei hysgrifennu - rhaid i'r bechgyn ddewis rhwng eu teyrngarwch i'w cyfeillion a'u huchelgais personol.
"Yn y nesaf, Siom, Syndod a Sws rwy'n trafod wynebu siom a delio â'r siom honno," meddai.
"Wedyn, yn Tân ar Groen bwlio drwy ffôn symudol oedd y thema ac yn Ffrainc Amdani dyletswydd tuag at rieni ydi'r thema," meddai.
Yn y nofel olaf, Gwisgo'r Crys Coch yn ogystal a chyflwyno doniolwch a hwyl chwarae rygbi mae'n trafod cadw cyfrinach a'r pwysau mae hynny'n ei achosi.
"Mi fydd hi'n chwith troi cefn ar Llion a LlÅ·r a'u ffrindiau, Tractor, Milgi a Combein ac mae hi'n biti meddwl na chawn ni byth wybod os bydd carwriaeth Llion ac Angharad na charwriaeth LlÅ·r a Megan yn blodeuo ond mae'n bryd symud ymlaen," meddai.
Cyn y Nadolig cyhoeddodd nofel i ferched, Caru Nodyn y bu ymateb rhyfeddol iddi meddai gyda llythyrau gwerthfawrogol oddi wrth ddarllenwyr ifanc.
"Ac yn wyneb y llwyddiant hwn hoffwn sgrifennu nofel debyg iddi eto yn y dyfodol - ond y prosiect nesaf yw nofel am blentyn yn chwarae golff!" meddai.
Dywedodd Gei fod yn gobeithio cyhoeddi honno mewn pryd i ddathlu dyfodiad Cwpan Ryder i Gymru.