Â鶹Éç

Tachwedd 2010

02 Rhagfyr 2010

Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau a werthodd orau yn ystod mis Tachwedd 2010

Y llyfr gyda'i luniau trawiadol gan yr actor Matthew Rhys sydd ar ben rhestr mis Tachwedd o werthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae'r llyfr dwyieithog Cymraeg a Saesneg, , Patagonia - Croesi'r Paith yn rhoi hanes Rhys ag eraill yn ail greu taith y gwladfawyr cynnar ar draws y peithdir anghroesawus nes cyrraedd yr hyn a alwyd ganddynt yn Gwm Hyfryd lle mae trefi Trevelin ac Esquel heddiw.

Mae'r lluniau yn wirioneddol drawiadol a'r llyfr yn dilyn rhaglen a ddarklkledwyd ar S4C am y fenter.

Fel mae'n digwydd, actor a diddanwr arall sy'n drydydd ar y rhestr. Ifan Gruffydd y ffermwr o Geredigion gyda'i gyfrol Pwy Faga Ddefaid.

O'i flaen ef ar y rhestr y mae cyfrol ysgafn arall, Hiwmor Pregethwr gan y Parchedig Goronwy Evans, Llambed, yn y gyfres Ti'n Jocan.

Gyda chymaint ohonyn nhw o gwmpas nid yw'n syndod bod tri hunangofiant ac un lled hunangofiant ar y rhestr, Felix Aubel, Hugh Griffith, Annette Bryn Parry a Peter Hughes Griffiths.

Er mor agos yw hi at y Nadolig mae'n syndod braidd mai dim ond un nofel sydd yna, a honno yw Creigiau Aberdaron gan Gareth F Williams.

Dyma'r rhestr gyflawn:

Gwerthwyr gorau Tachwedd

  1. Patagonia - Croesi'r Paith /Crossing the Plain, Matthew Rhys (Gwasg Gomer) 9781848511972 £19.99
  2. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pregethwr, Goronwy Evans (Y Lolfa) 9781847712837 £3.95
  3. Pwy Faga Ddefed? Ifan Gruffydd (Y Lolfa) 9781847712899 £4.95
  4. Bywyd ar Ddu a Gwyn - Hunangofiant Annette Bryn Parri, Annette Bryn Parri (Y Lolfa) 9781847712776 £9.95
  5. Fy Ffordd fy Hunan - Hunangofiant Felix Aubel
  6. Hugh Griffith , Hywel Gwynfryn (Gwasg Gomer) 9781848512832 £9.99
  7. Creigiau Aberdaron, Gareth F. Williams (Gwasg Gwynedd) 9780860742685 £8.95
  8. O Lwyfan i Lwyfan - Hunangofiant Peter Hughes Griffiths, Peter Hughes Griffiths (Y Lolfa) 9781847712806 £9.95
  9. Nain/Mam-gu (Gwasg Gwynedd) 9780860742678 £5.95
  10. Lladd Duw, Dewi Prysor (Y Lolfa) 9781847712820 £9.95

Llyfrau Plant

  1. Llyfr Bach Stori'r Nadolig, Maggie Barfield (Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859946640 £2.99
  2. Llythyr Arbennig Siôn Corn, Josephine Collins (Gwasg Gomer) 9781848512252 £7.99
  3. Hwiangerddi, Elin Meek (Gwasg Gomer) 9781848511231 £8.99
  4. Diwrnod Ben...digedig, Michael Morpurgo (Gwasg Gomer) 9781848512528 £5.99
  5. Fy Llyfr Mawr Glas am Bopeth, Chez Picthall (Gwasg Gomer) 9781848511897 £4.99
  6. Tair Dafad Fach, Rob Lewis (Gwasg Gomer) 9781848511903 £5.99
  7. Nadolig Llawen/Merry Christmas, Glyn Saunders Jones a Gill Saunders Jones (Atebol) 9781907004193 £3.99
  8. Peppa Pinc: Peppa'n Mynd i Wersylla (Rily Publications) 9781904357452 £3.99
  9. Peppa Pinc: Llyfrgell Fach Storïau Tylwyth Teg (Rily Publications) 9781904357469 £4.99
  10. Un Noson Oer, M. Christina Butler (Gwasg Gomer) 9781843238089 £4.99
>

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.