Â鶹Éç

Matthew Rhys - Patagonia

Clawr y llyfr

26 Tachwedd 2010

  • Adolygiad Elvey MacDonald o Patagonia - Crossing the Plain / Croesi'r Paith gan Matthew Rhys. Gomer Press, Ceredigion. £19.99.

Cyfrol arall eto am Batagonia, meddech chi. Digon o sôn am ymdrech a methiant, dioddefaint a digalondid, am wyntoedd cryfion, llwch ac undonedd.

GwÅ·r y 'camp'

Ie, fe gewch hyn i gyd yn y gyfrol hon hefyd, ond ddim cweit fel y byddech chi'n ei ddisgwyl nac yn yr un cyd-destun.

A ydych chi wedi darllen rhywdro o'r blaen am hoffter gwŷr y 'paith' ('camp', benthyciad o'r Sbaeneg 'campo' yw enw'r Gwladfawyr arno) o'u cyllyll? Am eu gallu i newid pedolau mewn ychydig eiliadau, am allu cyfareddol y ddefod o yfed mate i atal amser, am farchogaeth am saith awr cyn cinio, gorffwys am ugain munud, ac ail ddechrau eto nes iddi nosi ddydd ar ôl dydd am fis cyfan nes bod eich cyhyrau'n gwegian?

Neu am effeithiau hypnotig syllu ar ben-ôl ceffyl am oriau benbwygilydd?

Dyma'r arlwy sydd gan Matthew Rhys ar eich cyfer yma. Hynny, a llawer mwy.

Ehangu gorwelion

Er gwaetha'r trafferthion enbyd a wynebodd y gwladfawyr yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn Nyffryn Camwy (neu, efallai, o'u herwydd), ni fu rhai ohonynt yn hir cyn dechrau chwilio am ffyrdd o ehangu eu gorwelion.

O 1871 ymlaen, mentrodd arloeswyr fel Lewis Jones, Edwin Cynrig Roberts, John Daniel Evans ac, yn enwedig, John 'Murray' Thomas, i archwilio'r 'berfeddwlad' - bob taith yn ennill profiad oedd yn gymorth i fentro ymhellach ar yr un nesaf ac ymestyn y ffiniau.

Erbyn y 1880au roeddent wedi llwyddo i grwydro ac adnabod nodweddion tua hanner y rhanbarth eang oedd yn gartref iddynt, a chyrhaeddwyd o fewn taith diwrnod i'r gadwyn hiraf o fynyddoedd yn y byd yn 1884.

Arwain mintai

Ym 1885 anfonwyd J M Thomas yn gennad drostynt at y Rhaglaw Fontana, newydd-ddyfodiad i'r rhanbarth, i'w wahodd i arwain mintai o wladfawyr ar daith ymchwil i'r Andes, rhanbarth y gwyddent amdani o leiaf ers darllen y tro cyntaf am Batagonia.

Hwyrfrydig iawn fu'r Rhaglaw ond, wedi synhwyro brwdfrydedd y fintai a deall eu bod wedi casglu digon o arian i gyllido'r daith, cytunodd â'u cais.

Roedd 19 Cymro ac un Archentwr o Gymro yn y fintai, yn ogystal â chwech Archentwr arall, dau Almaenwr ac un gŵr o'r Taleithiau Unedig.

Naw ar hugain i gyd. Rhoddwyd yr enw Los Rifleros (Y Reifflwyr) arnynt oherwydd eu bod yn cario bob o reiffl Remington i amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau tybiedig y brodorion.

Nid hon oedd y daith archwilio gyntaf, felly, er yr argraff a roddir yma, fel mewn ambell gyhoeddiad arall, ond hi oedd yr un â gyrhaeddodd bellaf, a hi fu'n gyfrifol am ddod o hyd i'r cwm hyfryd a fyddai'n fuan wedyn yn gartref i ail wladfa Gymreig Patagonia - neu Colonia 16 de Octubre, fel y bedyddiwyd hi gan y Rhaglaw.

Coffau'r fenter

Dyna'r cefndir i'r daith a gynhaliwyd yn 2005 gan Gymdeithas y Reifflwyr - sy'n cynnwys disgynyddion rhai o'r arloeswyr - i goffáu 120 mlwyddiant eu menter arwrol. Y tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn llawn ers hynny.

Wedi llawer o 'bledio ac ymbil', llwyddodd yr awdur i gael ei dderbyn i'w rhengoedd. Roedd pob marchog yn cynrychioli un o'r Reifflwyr gwreiddiol a Matthew Rhys gafodd y fraint 'o fod yn' Robert Jones, Bedol (sef yr unig wladfawr brodorol ar y daith wreiddiol).

Gwirioneddol hardd

Mae'r gyfrol hon yn gofnod ffotograffig wirioneddol hardd o'r daith ac o'r ymlafnio dyddiol â'r tirwedd a'r elfennau, gyda bron i 50 llun tudalen lawn a nifer sylweddol o rai llai.

Y cyfan o ansawdd uchel a llawer ohonynt yn hudol eu naws. Cyfoethogir hi gan ragair tairieithog yr ardderchog Ricardo Irianni, cyfaill a chymwynaswr i'r awdur fel ag i sawl un arall.

Petase Matthew Rhys yn gorfod rhoi'r gorau i'w yrfa hynod lwyddiannus fel actor, dichon y medrai ennill yr un enwogrwydd fel ffotograffydd.

Yn addas iawn mewn cyfrol sy'n edrych fel ffilm gowbois, cynnil yw'r testun - teilwng o arddull Clint Eastwood - a byr iawn yw'r ugain pennod (ynteu ai capsiynau hirion ydynt?) - ond ni ellir amau medr yr awdur i grynhoi'r stori'n llwyddiannus i ychydig linellau, gan gyfleu caledi'r daith (a hwyluswyd iddynt hwy gan y cogyddion oedd yn aros amdanynt mewn mannau strategol, a gan ffermydd y 'paith' a gynigiai loches iddynt ambell noson - manteision nad oedd ar gael i'w rhagflaenwyr).

O gofio ei fod yn pwysleisio mawredd yr eangderau a hyd annherfynol yr hirdaith a droediasant - a hynny'n llythrennol yn achos Ronal Eibion (ynganer Eifion) Davies, gan iddo gerdded bob cam o'r 600 kilomedr! - annisgwyl oedd y cyfeiriad at "dalaith fechan Chubut" - tiriogaeth sy'n cyfateb yn fras i un ynys Prydain Fawr.

Y dynion caletaf

Tystia'r awdur mai ei gymdeithion oedd y dynion caletaf iddo'u cyfarfod erioed. Gan mod i'n adnabod rhai ohonynt ac yn gwybod am rai eraill, ni feiddiaf anghytuno.

Roeddwn i hefyd yn meddwl yn uchel o Trevor Williams, a dydw i ddim yn synnu fod Matthew yn hoff ohono (t.46) nac o'i weld yn cyflwyno'r gyfrol i'w gof. Roedd o'n ŵr addfwyn, diniwed, diymhongar.

Medraf gydymdeimlo hefyd â thristwch Matthew pan aeth yr ymdrech fawr yn drech nag esgyrn y bytholwyrdd Vincent Evans (t.16).

Fel yw'r ffasiwn ym myd cyhoeddi'r dyddiau hyn, nid yw'r gyfrol hon yn rhydd o fân frychau: gosodwyd acen ddiangen yn 'mate' (t.39 a phob tro arall y mae'r gair yn ymddangos) a'i hepgor yn '´Ú²¹³¦Ã³²Ô (t.3)'; 'alpargatas' yw'r sillafiad cywir (t.47); marchogwyd am 65 kilomedr mewn diwrnod 'often' yn y fersiwn Saesneg (t.28) ond 'weithiau' medd yr un Gymraeg; ac mae enghraifft neu ddwy o gamsillafu neu gamosod llythrennau i'w gweld hefyd.

Cywiro ffeithiau

O wybod am safonau uchel yr awdur, tybiaf na fydd yn teimlo'n fodlon o'u gweld a gwaith hawdd fydd eu cywiro cyn yr ailargraffiad, fel y gellid gyda'r ffeithiau canlynol:

Nid o Rawson (t.7) ond o ardal greigiog pen eitha'r dyffryn uchaf y cychwynnodd mintai 1885 ac yno y ffarweliodd eu teuluoedd â hwy;

Nid yn nyffryn Camwy y gwelir y tirwedd lleuadol (t.62) ond yng nghanol y camp/paith; Ac mae'r adeilad yn y llun o'r awdur a Nia Roberts yn edrych yn debyg iawn i gapel Glan Alaw (t.88).

I gloi, mae gen i ddau gwestiwn:
Yn gyntaf, gan nad yw fersiwn Sbaeneg y Rhagair yn cynnwys teitl gwreiddiol La Cité Antique gan Fustel de Coulanges, pa ddiben cynnwys y cyfieithiad Sbaeneg yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg?

Yn ail, ond llawer pwysicach, beth yw'r cyfiawnhad dros y penderfyniad golygyddol i osod y testun Cymraeg yn ail i'r un Saesneg?

Hollti blew, medde chi? Dydw i ddim yn meddwl. Ond rwy'n sicr na fydd hyn oll yn tynnu dim oddi ar fwynhad y darllenwyr niferus fydd mor ffodus â chael y cyfle i droi at y gyfrol werthfawr hon dro ar ôl tro ac yn ei thrysori.
Elvey MacDonald


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.