Â鶹Éç

Geraint H Jenkins

Geraint H Jenkins

Golygydd Cof Cenedl

Y mae'r Athro Geraint H Jenkins yn frodor o Benparcau, Aberystwyth ac yn awr yn byw ym Mlaen-plwyf Ceredigion.

Fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn 1993.

Cyn hynny yr oedd yn Athro ac yn Bennaeth Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Y mae wedi cyhoeddi dros 30 o lyfrau a thros gant o erthyglau ar amrywiol bynciau.

Y mae wedi cyhoeddi'n arbennig o helaeth ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar a'r cyfnod modern.

Yn gredwr cryf mewn prosiectau ymchwil cydweithredol, y mae'n olygydd tair cyfres - Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg, Diwylliant Gweledol Cymru a Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru - a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru.

Y mae wedi ysgrifennu gweithiau arobryn ar Gymru yn y cyfnod modern cynnar, ar grefydd a llenyddiaeth ac ef yw golygydd Cof Cenedl: Ysgrifau ar Hanes Cymru.

Rhwng 1993 a 2007 bu'n Gadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ac fe'i hetholwyd yn Gymrawd gan yr Academi Brydeinig yn 2002 ac y mae ar hyn o bryd yn aelod o Gyngor yr Academi Brydeinig.

Y mae hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru, Abertawe.

Mae wedi darlledu am chwaraeon yn ogystal a phynciau hanesyddol ac ymhlith ei ddiddordebau eraill mae cerddoriaeth a garddio.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.