Adolygiad Glyn Evans o Cof Cenedl XXIV: Ysgrifau ar Hanes Cymru. Golygydd, Geraint H. Jenkins. Gwasg Gomer. £8.99.
Ers dros ugain mlynedd bu cyhoeddi cyfrolau y gyfres Cof Cenedl yn gyfraniad o bwys i'r ymdriniaeth o hanes Cymru.
Dan olygyddiaeth yr Athro Geraint H Jenkins cyhoeddwyd 24 o gyfrolau i gyd - ond gyda'r bedwaredd ar hugain a welodd olau dydd ddechrau 2009 daeth y gyfres nodedig hon i ben.
Yr oedd yn nodedig pe na byddai ond am y ffaith na chafwyd dros y blynyddoedd yr un gair croes neu sylw anffafriol iddi. Dim ond canmoliaeth i'r syniad ac i'r cyfraniadau.
Yr oedd yn llenwi bwlch ac fe werthfawrogwyd hynny gan adolygwyr, ysgolheigion a darllenwyr yn ddiwahân.
Ond gyda chyhoeddiad Geraint Jenkins yn y gyfrol ddiweddaraf wele'r bwlch yn ôl unwaith eto:
"Gan fy mod yn ymddeol o'r byd academaidd, yr wyf wedi penderfynu dirwyn Cof Cenedl i ben," meddai.
"Y pedwerydd rhifyn ar hugain hwn, felly, fydd yr olaf un yn y gyfres hon.
Gwaith tra phwysig
"Rwy'n mawr obeithio bod y gyfres wedi cyrraedd ei nod o apelio at ddarllenwyr cyffredin yn ogystal â haneswyr dysgedig a myfyrwyr ifainc, a bod yr ysgrifau a gyhoeddwyd ynddi wedi dangos bod dehongli amrywiol weddau ar ein hanes yn Gymraeg yn waith tra phwysig i ni fel pobl.
"Fel y dywedwyd lawer gwaith, cof cenedl yw ei hanes ac ni allwn fforddio colli'r cof sy'n cynnal ein hunaniaethau fel Cymry," meddai.
Dywed mai ei obaith yn awr yw y daw "rhywun iau na mi" i gymryd yr awenau a llenwi'r bwlch a adewir nid yn unig gan y gyfres hon ond hefyd cyfres arall o gyfrolau blynyddol gan wasg Gomer ar ddiwylliant Cymraeg cymoedd y de dan olygyddiaeth Hywel Teifi Edwards.
"Y mae Hywel a minnau'n dal i gredu na all cenedl ddeall ei phresennol na rhagweld ei dyfodol heb ymdrwytho'n llwyr yn ei gorffennol a bod gan y gair printiedig ran allweddol bwysig i'w chwarae yn yr ymdrech barhaus i gryfhau a chyfoethogi ymdeimlad cenedlaethol ein pobl," meddai Geraint Jenkins.
Go brin y byddai neb yn anghytuno â chyfarwyddwr cyhoeddi Gwasg Gomer, Mairwen Prys Jones, pan ddywedodd:
"Gwnaeth Cof Cenedl gyfraniad enfawr i'n hymwybyddiaeth ni fel Cymry Cymraeg o'n tras a'n hetifeddiaeth. Mae ein dyled ninnau fel cenedl yn fawr i waith caboledig a chydwybodol Geraint H Jenkins ar hyd y blynyddoedd."
Poblogaidd ac ysgolheigaidd
Siŵr o fod mai rhinwedd pennaf y gyfres oedd ei llwyddiant yn cyfuno y 'poblogaidd' ac ysgolheictod awdurdodol gyda chyfraniadau wedi mynd i'r afael â phynciau mor amrywiol ag agweddau o hanes Llywelyn ein Llyw olaf i hanes poblogrwydd seiclo yng Nghymru yn nyddiau cynnar y beic a Rhyfel y Malvinas!
Adlewyrchir yr amrywiaeth hynod hwnnw yn y gyfrol olaf hon lle mae'r Dr Andrew Edwards o Brifysgol Bangor yn trafod dan y teitl, Te Parti Mwncïod rwyg, anghytgord a datblygiad polisi Llafur ar ddatganoli rhwng 1966 a 1979.
Erthygl dreiddgar sy'n dangos sut y daeth swyddogaeth a gweithgarwch y Blaid Lafur yn gliriach dros y blynyddoedd.
"Wrth i glwyfau'r gorffennol ddechrau gwella, gellir trafod y mater yn fwy cytbwys a deallus," meddai gan awgrymu mai'r hyn sy'n rheitiach erbyn hyn yw datgelu diffygion y rhai a geisiodd ennill cefnogaeth i ddatganoli yn '79 yn hytrach na rhoi'r pwyslais "ar y sawl a wrthwynebodd ddatganoli."
Pais o frethyn
Mewn cyferbyniad llwyr mae Alaw Mai Jones o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn trafod "tecstiliau'r Cymry yn yr Oesoedd Canol" gan gycvhwyn gydag un o ddilladau enwocaf llenyddiaeth Gymraeg, Pais Dinogad a ddisgrifir gan gan fardd o'r seithfed ganrif.
Gan dynnu sylw at y berthynas rhwng y gair brith a brethyn dywed Alaw Mai Jones:
"Yr oedd sawl ystyr i'r ansoddair 'brith', wrth gwrs, a gall ddisgrifio lliw neu wead brethyn neu hyd yn oed liwiau'r arfwisgoedd wedi eu 'staenio' â gwaed y gelyn, a oedd yn creu delwedd ddramatig iawn."
Lladd yn Nolgellau
Llofruddiaeth filain mam ddibriod a dienyddiad y llofrudd o Gymro yn 1877 yw testun un o ffyddloniaid y gyfres, Hywel Teifi Edwards, yn Cyflafan Dolgellau lle dywed:
"Ers helynt 'Brad y Llyfrau Gleision' bu'r Gymru Anghydffurfiol, Gymraeg ei hiaith, yn niwrotig ei hymboeni am ei graen yng ngolwg y byd...
"Daethai brad 'o'r tu mewn' i sigo'r genedl i'w sail a'i gwneud bron yn amhosibl trafod y 'weithred fall' yn gall."
Dengys Hywel Teifi sut y cleisiwyd y syniad o 'Gymru lân Cymru lonydd' gan y drosedd ysgeler ym Meirionnydd.
Ac yn y gyfrol mae llun o'r llofrudd a'i grogwr!
Pynciau eraill
Pynciau eraill sy'n cael eu trafod yn y gyfrol olaf yw,
- Dylanwad y Beibl ar Gymru yn y cyfnod modern cynnar gan Eryn M White o Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth.
- Llenyddiaeth Streic Fawr Chwarel y Penrhyn gan Gwen Angharad Gruffudd, ymchwilydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.
- Siôn Rhydderch a'i waith gan A Cynfael Lake o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe.
Mae'r gyfrol yn cynnwys hefyd fynegai i ysgrifau cyfrolau XXI - XXIV.