- Y Sêr: Catherien Zeta-Jones, Justin Bartha, Megan Byrne, Andrew Cherry,Art Garfunkel a Joanna Gleason
- Cyfarwyddo: Bart Freundlich.
- Sgrifennu: Bart Freundlich.
- Hyd: 94 munud
Cariad i Catherine
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Mae na snobyddiaeth mawr ymhlith beirniaid ffilm sy'n deddfu fod y rhan fwyaf o ffilmiau am ferched yn haeddu disgrifiad dilornus y "chick-flick" ac felly'n haeddu llai o sêr am fod o "lai o sylwedd".
Ymhell cyn iddi agor yma, darllenais bethau go druenus am The Rebound - rom-com ddiweddara Catherine Zeta-Jones - a rhaid dweud ro'n i'n reit anfodlon wrth fynd i'w gweld yn pan agorodd hi dros y penwythnos.
Diddanu
Ond, er ei bod ymhell o fod yn glasur, mae The Rebound yn cynnwys digon o elfennau ffafriol i'n diddanu am ei hawr a hanner, gan gynnwys perfformiad naturiol iawn gan y Gymraes garismatig.
Yn wahanol i nifer o ffilmiau tebyg, sefydlir y stori sylfaenol yn syth bin, wrth i'r fam brysur Sandy Foster (Cartherine Zeta-Jones) fynd â'r plant i fyw yn Efrog Newydd ar ôl darganfod bod ei gŵr yn cael affêr.
Ar yr un pryd, dilynwn stori Aram Finklestein (Justin Bartha, priodfab The Hangover yn 2009) - dyn tipyn iau sy newydd ysgaru oddi wrth ei wraig Ffrengig, ac sydd wedi symud nôl gyda'i rieni Iddewig (Art Garfunkel a Joanna Gleason), sy'n gegrwth ei fod yn gweithio mewn caffi serch ei radd da.
Fel pob ffilm ramantus gwerth ei halen, mae'r meet-cute rhwng y ddau »å¾±±¹´Ç°ù³¦Ã©±ð yn digwydd yn y caffi dan sylw, ac yn fuan ar ôl hynny, caiff Aram ei berswadio i garco'r plantos tra bo Sandy yn diodde dêt trychinebus â chiropodydd cawslyd.
Gan godi cywilydd mawr ar ei rieni, daw Aram yn Manny llawn amser i'r plantos tra bo Sandy yn dychwelyd i weithio ac ymhen hir a hwyr mae rhamant rhyngddynt.
Y 'broblem' ydy fod Sandy bymtheng mlynedd yn hÅ·n nag Aram ac er nad yw'r actorion yn edrych yn rhy wahanol o ran oed - gyda Catherine yma'n ymddangos yn fwy naturiol dlws nag erioed o'r blaen - ymddengys fod hyn yn ddigon o argyfwng i'n tywys i ran olaf sy'n anffodus o felodramatig a fformiwlaig.
Ysgafnder hyfryd
Tan hynny, fodd bynnag, am ddwy ran o dair o'r ffilm, mae The Rebound yn ffilm ag iddi ysgafnder hyfryd, diolch i berfformiadau disglair gan Megan Byrne ac Andrew Cherry, fel y plant bach hynod ciwt, a sgript ffraeth sy'n sboncio rhwng y savvy a'r swreal.
Mae'r diolch am hyn yn bennaf i brofiad y sgwennwr-gyfarwyddwr Bart Freundlich, sy'n briod â'i Gougar ei hun- y seren bengoch Julianne Moore, sy' ddeng mlynedd yn hŷn nag ef.
Personol a newydd
Mae rhannau o'r ffilm yn sicr yn teimlo'n bersonol, a newydd iawn, i film-geek sydd wedi profi pob argyfwng carwriaethol posib - o'r ffrindie gorau sy'n ymserchu â'i gilydd yn When Harry Met Sally, i ddau ddieithryn sy'n syrthio mewn cariad dros yr e-bost yn You've Got Mail hyd at effeithiau OCD ar egin ramant Jack Nicholson a Helen Hunt yn As Good As It Gets.
Mae'n wir nad yw pob rom-com gystal â'i gilydd ond peth cwbl nawddoglyd yw dyfarnu pob un yn warthus ar sail rhagfarn rywiol.
Fely, os da chi'n chwilio am rywbeth i herio'r ymennydd, da chi ewch i weld Inception - ond os am bach o sbort efo Catherine Zeta-Jones , ewch i weld The Rebound yn lluoedd.