Â鶹Éç

Inception

20 Gorffennaf 2010

12Pedair seren allan o bump

  • Y Sêr: Leornado DiCaprio, Ellen Page, Tom Hardy, Joseph Gordon-Levitt, Marion Cotillard, Michael Caine, Cillian Murphy, Tom Berenger, Pete Postlethwaite.
  • Cyfarwyddo: Christopher Nolan.
  • Sgrifennu: Christopher Nolan.
  • Hyd: 149 munud

Rhwng cwsg ac effro

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Mae na un maes sy'n fy niflasu'n llwyr, dadansoddi breuddwydion. Pan glywais bod antur newydd Christopher Nolan (Batman Begins, The Dark Knight) yn ymhél â straeon swreal 'rhen Huwcyn cwsg', rhaid cyfadde imi feddwl ddwywaith cyn ei phrofi.

Ond. diolch byth, fe es i weld Inception - un o'r cynyrchiadau gorau imi'i gweld ers tro.

Mae'r ffilm- sydd wedi'i gosod yn y dyfodol agos, lle mae un syniad da werth ffortiwn- yn dilyn Dom Cobb (Leornado DiCaprio), ysbeiliwr ymenyddol sy'n arbenigwr ar ddwyn cyfrinachau trwy gyfrwng breuddwydion.

Mae e'n gweithio'n bennaf yn y maes ysbîo corfforaethol a chyfarfyddwn ag e gynta mewn byd afreal pan yw ar ganol breuddwyd dyn o'r enw Saito - penaeth i gwmni ynni Siapaneaidd - yng nghwmni ei gydweithiwr ffyddlon, Arthur (Joseph Gordon-Levitt).

Yn anffodus, rhaid i'r ddau ddihuno'n gynnar o'r freuddwyd pan ddaw saboteur synhwyrus i sbwylio'r 'sbeilo.

Daw'n amlwg mai cyn-wraig Cobb yw'r Mal faleisus hon (Marion Cotillard) - presenoldeb cyson yn ei isymwybod ers iddi farw'n ddiweddar dan amgylchiadau amheus, a deallwn fod Cobb ar ffo am i'r awdurdodau Americanaidd gredu iddo'i llofruddio hi.

Pan ddeffra Saito o'i freuddwyd yntau, daw'r hun-helwyr i ddeall mai prawf oedd y cyfan gan fod y CEO yn awyddus iddynt gyflawni gorchwyl gymhleth.

Plannu syniad

Yn hytrach na dwyn cyfrinachau o ymennydd y gelyn, mae e am iddyn nhw blannu syniad ym meddwl ei brif gystadleuydd - Robert Fisher Jr (Cillian Murphy), mab y diwydiannwr Maurice Fisher (Pete Postlethwaite), sydd ar ei wely angau.

Os llwyddant i ateb yr her hon, bydd Fisher ar dân am danselio monopoli ei gwmni ei hun a chaiff Cobb ddychwelyd adre at ei blant gyda phob cyhuddiad yn ei erbyn wedi'u gollwng.

Y cam nesa, wrth gwrs, ydy ffurfio criw o ddrwgweithredwyr dethol a dyfeisgar a dyma lle mae'r cynhyrchiad yn troi'n llond trol o hwyl tra'n teithio i Kyoto, Paris a Mombassa i ffeindio'r pumawd perffaith, sy'n cynnwys y cemegydd Yusuf ( Dileep Rao) , yr herwgipiwr hunaniaeth hynod garismatig , Eames (Tom Hardy) a'r pensaer cysyniadol Ariadne (Ellen Page) - protegée tad Cobb, Miles (Michael Caine), sy'n gyfrifol am gynllunio bydoedd amrywiol yr ymennydd.

Yr unig ffordd o fachu ar freuddwydion Fisher yw ymuno ag ef ar daith awyren i LA, sy'n caniatáu'r deg awr angenrheidiol i blymio i ddyfnderoedd ei isymwybod a hau'r hun hedyn.

Gyda phopeth yn ei le, mae hanner ola'r ffilm yn datblygu'n ddrysfa ddyfeisgar wrth i'r cyfarwyddwr ein tywys ar hyd labyrinth mewn tri dimensiwn gan fod angen i'r posse dreiddio'r tu hwnt i'r brif freuddwyd a chyrraedd yr id trwy ddwy haenen bellach.

Yr hyn a brofwn am gyfnod ydy breuddwyd o fewn breuddwyd o fewn breuddwyd.

Afraid dweud, nid dyma'r blocbyster i adael eich ymennydd wrth y popcorn a'r pic n mix!

Ydy, mae'n hawdd colli pob synnwyr o'r hyn sy'n real a'r hyn sy'n afreal ond dyma, yn wir, ydy prif thema'r ffilm, wrth gwestiynu effaith galar dwys ar y gwrth arwr Cobb a hefyd chwarae gyda dealltwriaeth y gwyliwr o un o gonfensiynau amlyca'r byd ffilm.

Swrealaeth y sinema

Mewn un olygfa ddadlennol, cawn ein hatgoffa o swrealaeth y sinema, pan ofynna Cobb i Ariadne a ydy hi'n cofio sut y cyrhaeddodd hi ganol ei breuddwyd. Dydy hi ddim ac mae'r ffaith nad yw hynny wedi'i tharo hi o'r blaen yn ei haflonyddu hi - a ninnau hefyd - wrth sylweddoli ein bod yn derbyn y broses olygyddol, gyda'i thoriadau destlus, yn ddi-gwestiwn.

Fel clasur cynharach y cyfawrywddwr, Memento, dyma ffilm sy'n cynrhychioli pôs clyfar sy'n gorffen â throad amwys ac yn aros yn y cof am yn hir.

Yn naturiol, mae'r ffilm wedi rhannu'r gynulleidfa yn ddwy garfan amlwg, gyda rhai'n cynhuddo Nolan o fod yn geidwad y gimmick ac eraill yn ei edmygu am ei ddyfeisgarwch wrth herio'r gynulleidfa a'r cyfrwng ffilm ei hun.

Ar un wedd, mae'r ffilm yn cynrychioli nonsens llwyr. Wedi'r cyfan pam ddylem ni gydymdeimlo â helfa i warchod buddiannau diwydiannol un gath dew ar draul un arall?

Ond yn yr un modd ag y mwynheais The Matrix ar droad y Mileniwm, mae Inception yn ffilm sy'n herio'n cysyniadau ni o beth yw realaeth, ac yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen yn y maes effeithiau arbennig.

Yn naturiol mae byd annelwig breuddwydion yn caniatáu i'r cyfarwyddwr fynd dros ben llestri'n llwyr, a chefais fy syfrdanu gan eangder y weledigaeth dan sylw, sy'n ymgorffori pensaernïaeth epig a rhyngwladol.

Mae iddi hefyd gast difyr iawn, gyda Tom Hardy yn arbennig o ddisglair gan adeiladu ar ei ymgorfforiad o Charles Bronson y llynedd ac yn codi ei broffil ymhellach ar gyfer ei ffilm fawr nesa - Mad Max yn 2011.

Cam naturiol

Yn achos Leornado Di Caprio mae Inception yn cynrychioli cam naturiol ymlaen o'i astudiaethau diweddar o gymeriadau dynol, dwys, sy dan bwysau emosiynol mawr yn The Departed, Revolutionary Road a Shutter Island.

Mae'r actor bachgennaidd wedi aeddfedu cryn dipyn wrth daclo themâu'n ymwneud â hunaniaeth, gorffwylledd a'r argyfwng gwacter ystyr. Yma, mae e'n taclo galar yn anrhydeddus.

Mae Scorsese yn llygad ei le - dyma actor o bwys, sy'n haeddu'r heip.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.