麻豆社

The Twilight Saga- Eclipse

Golygfa o'r ffilm

14 Gorffennaf 2010

12aDwy seren allan o bump

  • Y S锚r: Kristen Stewart, Robert Pattinson, Taylor Lautner, Bryce Dallas Howard.
  • Cyfarwyddo: David Slade.
  • Sgrifennu: Melissa Rosenberg o'r nofel Eclipse gan Stephanie Meyer.
  • Hyd: 123 munud

Lawr y 'Twilight'

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Roeddwn i'n disgwyl pethe mawr gan Eclipse, y drydedd ffilm yn y gyfres boblogaidd Twilight.

Er nad ydw i wedi darllen yr un o'r nofelau gwreiddiol gan Stephanie Meyer, cefais fy mherswadio i wylio'r ddwy ffilm gyntaf gan ffrind sy' di gwirioni 芒'r ffenomenon ffantas茂ol am ferch ifanc sydd 芒'i chalon yn rhwyg rhwng fampir a blaidd.

Teg dweud imi gael fy nhrawsblannu'n syth yn 么l i fy arddegau cynnar a deall i'r dim pam fod Robert Pattinson a Taylor Lautner yn meddianu cymaint o le ar waliau merched ifainc -ac ifanc eu hysbryd- a Kristen Stewart yn cynnig ap锚l alternatif i Miley's a Li-Lo's LA.

Ro'n i'n gwybod i ddisgwyl rhagor o ddelweddau dramatig o goetiroedd talaith Washington i gyfeiliant trac sain trydanol gan Muse, UNKLE, Beck a Bat For Lashes, yn ogystal 芒 golygfeydd llawn tensiwn tra bo'r triawd yn ceisio datrys cyfres o farwolaethau erchyll yn ninas gyfagos Seattle.

Fy niflasu

Ond doeddwn i ddim wedi rhagweld y cawn fy niflasu'n llwyr gan ffilm hollol ddifflach, sy'n deall dim am ddatblygiad stori na chymeriad.

Ers diwedd y ffilm ddwetha, New Moon, ry ni'n gwybod fod Bella - unig blentyn yr heddwas Charlie Swan - wedi'i mopio'n l芒n 芒'r fampir llysieuol, Edward Cullen ac wedi ymrwymo i ymuno ag ef mewn ebargofiant trwy gael ei brathu ganddo 'r么l graddio o'r ysgol leol, a hynny serch ei theimladau cryfion at ei chyfaill bore oes - ac aelod o'r llwyth o Indiaid lleol - Jacob Black.

Yn anffodus, er gwaetha ymdrechion arwrol y cyfarwyddwr David Slade i guddio crysau T Taylor Lautner er mwyn cael cyflwyno Jacob yn hanner noeth ar hyd y ffilm, dydy Eclipse ddim yn taenu unrhyw oleuni pellach ar drallod y triawd ond yn ein gadael yn union lle'r oeddem o'r blaen gyda Bella yn dal heb ei brathu a'r bechgyn yn diodde o ddos ddybryd o an-nwyd.

Ffydd

Dwi'n deall mai ffydd yr awdures sydd wrth wraidd y rhamant rhwystredig. Fel Mormon, mae Stephanie Meyer yn un o gefnogwyr amlyca'r mudiad True Love Waits - a dydw i ddim am feirniadu'i daliadau cryfion, na'i synnwyr craff wrth gynnal y tensiwn a chael ei darllenwyr i ddychwelyd am ragor dro ar 么l tro.

Ond erbyn hyn, mae'n saff dweud mai dyma'r triongl serch mwya sgw芒r a welodd y sinema erioed.

Gan wybod mai darllenwyr y gyfres yw'r gynulleidfa graidd mae'r cynhyrchwyr yn anwybyddu unrhyw un sydd y tu allan i'r cwlt ac yn anghofio bod angen ein hatgoffa o rinweddau'n harwyr a gwendidau'r gelynion sydd am darfu ar eu heddwch.

Bu ffws mawr pan gyhoeddwyd y byddai Bryce Dallas Howard yn cymryd lle Rachelle Lefevre fel y fampires Victoria - bombshell bengoch sydd yma'n dychwelyd i ddial ar Edward am ladd ei chariad hithau.

Ond prin bod ganddi hi, a'i byddin o fampirod newydd-anedig, unrhyw beth i wneud, dim ond llenwi amser tra bo Jacob ac Edward yn dysgu fod undeb mewn nerth tra'n brwydro dros achos da.

Pa achos yw hwnnw tybed? Wel, achub croen Bella Swan unwaith yn rhagor.

Os gall unrhyw un fy ngoleuo pam mae'r ddau hync mor daer dros yr emo bach diflas , pl卯s anfonwch air.

Y dynion

Er i mi - yn fy nyfarniad o New Moon - awgrymu y byddai Bella'n well heb ddynion sy'n mynnu dewis rhyngddynt ac yn treulio bach mwy o amser yn dysgu hoffi'i hun yn hytrach na syrthio am suicide-chic dragywydd, rhaid dweud imi uniaethu dipyn mwy 芒'r dynion y tro hwn.

Dim rhyfedd, mewn gwirionedd, gan fod y ffilm yn byrlymu o densiwn homo-erotig, gydag un olygfa lesmeiriol mewn pabell yn dwyn Brokeback Mountain i g么f!

Yn wir, os na fydd y cynhyrchwyr yn ofalus bydd Twi-Hards y byd yn cefnu ar y Bella bwdlyd ac yn mynnu saga wahanol am oes y famp a'r blaidd.

Rhywbeth dipyn difyrrach

A s么n am saga wahanol, rhagflaenwyd Eclipse gan drailer dipyn difyrrach yn hyrwyddo'r dilyniant i The Girl With the Dragon Tattoo sef The Girl Who Kicked the Hornet's Nest a fydd allan cyn hir.

Mae'r Ferch fondigrybwyll - Lisabeth Salander - yn arwres a hanner ac yn gymeriad cymhleth ond cwbl gredadwy. Trueni mawr na ellid dweud yr un peth am Ms Swan.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.