Â鶹Éç

The Girl with the Dragon Tattoo

Noomi Rapace

22 Mawrth 2010

18Pedair   seren

  • Y Sêr: Noomi Rapace, Michael Niqvist, Peter Harber, Lena Endre.
  • Cyfarwyddo: Neils Arden Opley.
  • Sgrifennu: Addasiad sgript Nicolaj Arcel a Rasmus Heisterberg o nofel Stieg Larsson.
  • Hyd: 153 munud

Y fenyw orau

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Anghofiwch am y cynnwrf a grëwyd gan Avatar a chyfres Twilight - addasiad sinematig The Girl with the Dragon Tattoo ydy'r ffilm yr ydw i 'di bod yn awchu amdani ers darllen y nofel - a'r ddwy sy'n ei dilyn hi- y llynedd.

Ac ar ôl profi llwyddiant ysgubol mewn sinemâu ledled Ewrop mae hi yma yng Nghymru o'r diwedd a minnau'n falch iawn o gael riportio iddi fod werth yr aros.

Busnes drwg

I'r rhai hynny nad ydynt yn gyfarwydd â ffenomenon lenyddol y diweddar Stieg Larsson mae'r gyfres yn dilyn hanes Mikael Blomkvist - golygydd y cylchgrawn adain-chwith, Millenium, sy'n ymchwilio i ddrwgweithredoedd ym myd busnes Sweden - a'i berthynas â chreadures bur anghyffredin o'r enw Lisabeth Salander - y ferch â'r tatŵ bondigrybwyll.

Mae'r ffilm - sy'n seiliedig ar nofel gynta'r saga Swedaidd - yn dechrau gyda Mikael Blomkvist yn cael ei ddedfrydu i dri mis o garchar am gyhoeddi erthygl enllibus am un o ddiwydianwyr mwya'r wlad, Hans-Erik Wennerstrom.

> Ond cyn iddo wynebu ei gyfnod dan glo, derbynia Blomqvist wahoddiad gan elyn penna Wennerstrom, y biliwnydd oedrannus Henrik Vanger, i ymchwilio i hanes ei deulu yntau; yn benodol, i farwolaeth anesboniadwy ei wyres Harriett ddeugain mlynedd ynghynt, yn y gobaith o ddatrys y dirgelwch unwaith ac am byth.

Ac yntau'n ysu i ddianc rhag cyhoeddusrwydd ei achos llys yn Stockholm, mae'r cynnig o loches ar ynys Hedeby - pencadlys ymerodraeth teulu Vanger - yn un deniadol iawn.

Dan wyliadwriaeth

>Ond ymhen dim darganfu'r ditectif amatur ei fod ef - a'i waith ymchwil - dan wyliadwriaeth rhywun llawer iawn craffach nag ef a Lisabeth Salander yw honno.

Heb ddatgelu gormod am yr arwres enigmatig hon mae hi'n athrylith wrth ei chyfrifiadur ond yn anobeithiol gyda phobol, diolch i fagwraeth gymhleth sy'n golygu ei bod hi dan warchodaeth y Wladwriaeth, a 'sglyf o'r radd flaena - cyfreithiwr o'r enw Nils Bjurman.

Unwaith y daw Blomkvist a Salander ynghyd i archwilio'r achau, darganfyddwn yn union pam mai teitl gwreiddiol y nofel a'r ffilm yw Dynion sy'n Casau Merched ac mae'r gwirioneddau a ddatgelir yn rhai dychrynllyd.

>A'r hyn sydd hyd yn oed yn fwy dychrynllyd yw'r ffaith i Stieg Larsson - oedd yn adnabyddus yn Sweden am ei newyddiaduraeth ymgyrchol cyn ei farwolaeth disymwth cyn cyhoeddi'r drioleg - seilio'i greadigaethau llenyddol ar hanesion go iawn, a bod llwyddiant rhyngwladol y nofelau wedi codi cwestiynau mawrion am gyfrinachau cenedl sy'n ymfalchïo yn ei statws fel cydwybod y byd.

Gwneud cyfiawnder

Fy mhrif obaith i wrth fynd i weld y ffilm oedd y byddai'r cynhyrchwyr yn gwneud cyfiawnder â natur epig nofel sy'n plethu sawl stori gymhleth a rhaid dweud iddynt lwyddo'n rhyfeddol i gynnwys bron iawn bopeth - a hynny'n egluro hyd sylweddol y ffilm.

Hefyd, o gofio fod y stori'n delio â phrif gymeriad sy'n hacwraig o fri cefais fy siomi ar yr ochr orau gan ymdriniaeth slic a soffistigedig y cyfarwyddwr Neils Arden Opley o'r golygfeydd cyfrifiadurol niferus.

A sôn am yr hacwraig honno, mae'n debyg mai ofn mwya'r llyfrbryfaid llym oedd y cai'r actores anghywir ei chastio fel Lisbaeth Salander sy'n un o'r cymeriadau benywaidd mwyaf gwreiddiol yn hanes llenyddiaeth.

Gallaf gadarnhau, fel un o selogion Salander, fod Noomi Rapace yn ddewis perffaith fel yr arwres eofn sy'n byw ar yr ymylon ac, yn wir, gellir dweud yr un peth am Michael Nykvist - yr actor sy'n chwarae'r newyddiadurwr hamddenol sy'n llwyddo, rhywsut, i ennill ei hymddiriedaeth.

Yr un peth na wnaeth daro deuddeg i mi oedd na chynhwyswyd y llinyn tenau ond dyngedfennol sy'n ein harwain at y gyfrol (a'r ffilm) nesa, sef, The Girl Who Played With Fire.

Mân bwynt efallai, ac o bosib un na fyddai'n cynnig y diweddglo pendant angenrheidiol hwnnw sy'n rhaid wrtho mewn ffilm - yn enwedig felly i'r rheiny sydd heb ddarllen y nofelau.

Rhwng dau feddwl

Fel arfer, os ydw i wedi fy mhlesio'n arw gan ffilm - yn enwedig un sydd dros ddwyawr a hanner o hyd - mi wnâi siarsio eraill i fynd i'w gweld ar unwaith ond yn yr achos hwn rhaid cyfadde' mod i wedi fy rhwygo'n llwyr rhwng argymell y ffilm hon i bawb a pharhau i genhadu dros y nofelau gwych i'r anffodusion hynny sy dal heb eu profi.

O gofio y bydd yn rhaid aros cryn dipyn cyn gweld yr addasiad nesa ar y sgrîn fawr, beth am roi cyfle i'r ffilm gynta hon, a phwy a ŵyr, efallai y tro nesa i chi sylwi ar gloriau trawiadol y gyfres yn eich siop lyfrau leol, y cewch eich hysbrydoli i ddarganfod rhagor am hanes a dyfodol un o'r cymeriadau benywaidd gorau a grëwyd erioed.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.