麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
麻豆社 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cofio
Michael D Jones


'Y cenedlaetholwr mwyaf ers Owain Glyndwr'

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 27, 2002

Dadorchuddiwyd cofeb ddydd Sadwrn ar wal y ty lle cafodd ei eni i Gymro a ddisgrifwyd gan Gwenallt fel "y cenedlaetholwr mwyaf ar 么l Owain Glyndwr".

Yr oedd Michael D. Jones yn un o Gymry mwyaf blaenllaw y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar gyfer dadorchuddio'r gofeb iddo ar fur ty Yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn yr oedd dau o'i orwyrion, Eluned Bere o'r Barri a'r Dr Arturo Roberts o New Jersey yr Unol Daleithiau.

Eirian Wyn LewisTrefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas Cymru-Ariannin gyda chyn gadeirydd y Gymdeithas, Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, ymhlith y siaradwyr mewn cyfarfod yn Yr Hen Gapel cyn y dadorchuddio.

Eglurodd fod Michael Daniel Jones ymhlith y rhai a ymgyrchodd fwyaf i sefydlu gwladfa Gymraeg ym Mhatagonia yn dilyn ei brofiadau yn yr Unol Daleithiau lle gwelodd allfudwyr o Gymru yn colli eu hiaith a'u gafael at eu traddodiadau mewn ychydig iawn o amser.

Dadleuodd ef mai'r unig ateb fyddai sefydlu gwladfa rywle lle nad oedd unrhyw ddylanwadau na bygythiadau estron.

Ei greadigaeth fawr
"Pan hwyliodd y Mimosa o Lerpwl yn 1865 nid oedd neb wedi llafurio yn fwy caled na Michael D. Jones ac ni ellir s么n am y Wladfa heb grybwyll ei enw achos dyna oedd ei greadigaeth fawr," meddai Eirian Wyn Lewis.

Talodd deyrnged hefyd i briod Michael D. Jones gan ei disgrifio fel dynes o ddeall uwch na'r cyffredin a fu'n gynhaliaeth ac yn gefn a alluogodd iddo sefydlu'r Wladfa yn wyneb cyhuddiadau gan ei wrthwynebwyr o Batagoneiddio.

Arturo Roberts ac Eluned BereCyfeiriodd y Dr Arturo Roberts, sydd yn olygydd y newyddiadur Cymreig Ninnau yng Ngogledd America at "y parch a'r edmygedd" oedd gan y fintai gyntaf a hwyliodd i Batagonia tuag at Michael D. Jones.

Meddai'r Dr Roberts: "Mae'r Wladfa wedi dod yn boblogaidd ers dathlu'r canmlwyddiant yn 1965, yn enwedig ymysg y Cymry Cymraeg ond credaf nad pawb sydd yn deall mesur llwyddiant y fenter.

Gallu a nerth y Cymry

"Ond i un sydd yn edrych o'r ochr arall o'r Iwerydd, nid yn unig o fewn y Wladfa ei hun, ond hefyd o ogledd America - lle gwelwyd llawer menter gyffelyb sydd wedi mynd yn angof - mae llwyddiant y Wladfa yn rhyfeddol," meddai gan ychwanegu fod y ffordd y cynlluniwyd ac y cyflawnwyd y freuddwyd "yn fesur o allu a nerth y genedl Gymreig."

Y gofeb"Yn y Wladfa ac yn nelfrydau a gwaith ac aberth a bywyd Michael D. Jones mae yna neges i Gymru, neges nad yw'n ddigon adnabyddus ac sydd eisiau ei chyflwyno yn rymus ac sydd yn fwy pwysig heddiw nag a fu erioed," meddai.

Y geiriau a ddefnyddir i'w ddisgrifio ar y gofeb yw: Gwerinwr, Gwladgarwr, Gweledydd.

Yn siarad gyda 麻豆社 Cymru'r Byd wedi'r dadorchuddio dywedodd Eluned Bere i'w mam drosglwyddo iddi lawer atgofion am Michael D. Jones gan iddi dreulio llawer o amser ar ei aelwyd ef a'i wraig.

Tair cenhedlaethTalodd Mrs Bere, hithau, deyrnged hael i'r modd y cynhaliwyd Michael D Jones gan ei wraig.

"Yr oedd gan Mam feddwl mawr ohono ac fe fyddai hi yn s么n am ei hiwmor mawr ar yr aelwyd yn ystod cyfnodau anodd iawn. Yr oedd Mam wedi gweld y gofid preifat ar y aelwyd y tu 么l i ddrysau cae毛dig."



Bedd Michael d. Jones a'i dad ym mynwent Yr Hen GapelYm mhresenoldeb teulu Eluned Bere yr oedd tair cenhedlaeth o'r olyniaeth yn cael ei chynrychioli, Eluned a'i meibion Gwyn a Gareth ac Iwan Lly^r Bere, Nel Siriol Bere ac Elis Bere y plant.

Y ty capel



Ewch i ddarllen hanes Michael D. Jones.









Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy