麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
麻豆社 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Michael D. Jones Hanes
Michael D Jones


'Y cenedlaetholwr mwyaf ers Owain Glyndwr' meddai Gwenallt

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 27, 2002

Yn fwy na neb arall Michael D. Jones sy'n cael ei ystyried yn dad y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Ond go brin i neb freuddwydio y byddai iddo le mor amlwg yn hanes Cymru pan gychwynnodd ar ei swydd gyntaf yn brentis mewn siop yn Wrecsam.

Ond dydi hi ddim yn syndod nad arhosodd un a chanddo feddwl mor aflonydd yno ond ychydig fisoedd.

Erbyn yr oedd yn 17 oed yr oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Caerfyrddin gyda meistrolaeth dros Ladin a Groeg ers yn 12 oed!

Oddi yno aeth i Goleg Highbury yn Llundain gan arbenigo mewn Astudiaethau Beiblaidd.

Ond wedi gorffen yno gwrthododd wahoddiad gan ddwy o eglwysi mwyaf Llundain i fod yn weinidog arnynt gan ddewis mynd i'r Unol Daleithiau i astudio gwerinlywodraeth a chaethwasaeth

Yr oedd ei chwaer yno'n barod ers yn 15 oed. Yn athrawes daeth yn ail wraig i lywodraethwr Talaith Ohio, William Bebb.

Ordeinwyd Michael D Jones yn weinidog yn Cincinnati yn y dalaith honno yn 1848.

Cyfuniad o rinweddau

Yn 么l R. Bryn Williams, prif hanesydd y Wladfa Gymraeg, "yr oedd ei gymeriad yn gyfuniad o amryw rinweddau cyferbyniol, a rhai o'r rhinweddau hynny weithiau'n troi'n fagl iddo"

Nid oes amheuaeth ei fod yn ddyn penderfynol iawn unwaith iddo roi ei feddwl ar rywbeth - hyd yn oed yn ei garu!


Wrth gyfeirio at ei lythyrau caru dywed R. Bryn Williams yn ei lyfr am hanes y Wladfa:

"Y peth amlycaf ynddynt efallai yw grym ewyllys. Er pob rhwystr mynnodd gael y ferch yn wraig iddo cyn pen blwyddyn. Ysgrifennai ati'n ddyddiol weithiau, gan ail-adrodd yr un ymresymiad bron air am air, ac nid oedd dim a allai atal ei benderfyniad," meddai.

Dycnwch a dyfalbarhad

Ychwanega iddo amlygu y nodwedd hon "gydol ei fywyd" ac yr oedd y dycnwch a'r dyfalbarhad hwnnw yn rhywbeth y bu'r gwladfawyr cynnar drwyddynt draw ei fawr angen wrth filwrio yn erbyn yr holl anawsterau a'u hwynebai ym Mhatagonia.

Mae R. Bryn Williams yn cyfeirio hefyd at ei allu meddyliol eithriadol.

"Gallai ymresymu'n gadarn, gallai fygwth a bod yn gignoeth ei watwareg, ond gallai hefyd berswadio'n daer. Syndod i mi oedd canfod llawer o hiwmor yn y llythyrau," meddai gan ei grynhoi, fel hyn;

Heb ddawn trin arian

"Gwr galluog a chryf o ewyllys a meddwl, ac eto'n un hawdd iawn ei garu. Yn wir yr oedd llawer o symylrwydd y plentyn ynddo."

Yn ei feddwl ei hun dywed R. Bryn Williams ei fod o'r farn ei fod yn un deheuig wrth drin arian ond mai'r gwrthwyneb oedd yn wir.

"Mynnai ymhel 芒 mortgages a Joint Stock Companies a bod ar fyrddau masnachol, a hynny yn ei arwain i dlodi a thrybini."

Bu'n ffodus, felly, fod ei wraig yn ddynes gyfoethog.

Ymroddiad i'r iaith

Pa bynnag gymhlethodau a gwrthgyferbyniadau eraill a fodolai un peth cwbl sicr a disyfl ydoedd ei ymroddiad i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg - er eto gwelir olion croesdynnu yma gan mai yn Saesneg y sgrifennai ei lythyrau caru!

Gwisgai ddillad o frethyn Cymreig ac esgidiau o ledr lleol ac yr oedd yn ddywediad cyffredin mai ond y botymau ar ei ddillad oedd o'r tu allan i Gymru!

Dywedodd Gwenallt amdano: "Cymro pennaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg; y cenedlaetholwr mwyaf ar ôl Owain Glyndwr."

Y gwladgarwch hwn a'i harweiniodd i fod yn bennaf lladmerydd yr ymgyrch i ymfudo a sefydlu gwladfa newydd Gymraeg ym Mhatagonia bell lle gallai'r Cymru fyw eu hiaith a'u traddodiadau yn ddirwystr.


Ond fel gyda'i ymhel ag arian ni welai y darlun cyflawn yma ychwaith neu ni fyddai byth wedi hysio'i gydwladwyr i'r fath le diffaith, mor anghynefin ac mor anodd ei drin.

Hyd yn oed heddiw mae'r olygfa gyntaf yn gras a digroeso; ni allwn ond dychmygu sut yr ymddangosai i'r Cymry cyntaf hynny a geisiodd wneud eu marc yno cyn i na system ddyfrio na dim gael ei chynllunio.

Fodd bynnag, mae'n arwydd o'r parch a oedd iddo na ddaeth ef erioed dan feirniadaeth y gwladfawyr er gwaethaf eu holl drafferthion.

Yr un rheswm dros ddewis Patagonia oedd y gred nad oedd gan unrhyw lywodraeth arall hawl ar y lle - ond heb ystyried mai'r rheswm am hynny, efallai, oedd ei fod mor anghyfannedd.

Am ei freuddwyd dywedodd Michael D. Jones:
"Bydd yno gapel, ysgol a senedd a'r hen iaith fydd cyfrwng addoli, masnach, gwyddoniaeth, addysg a llywodraeth. Gwnaiff cenedl gryf a hunangynhaliol dyfu mewn gwladfa Gymreig."

Er i'r Cymru agor y tir gyda'u system ddyfrio arloesol ei agor i eraill a wnaethant ac er i gymdeithas Gymraeg gref fodoli yno am gyfnod dinasyddion yr Ariannin yw'r bobl erbyn hyn a'r Gymraeg ond ar dafodau nifer fechan o bobl,

Tan yn ddiweddar, cyfyngwyd Cymreigrwydd i enwau lleoedd a strydoedd ac i gapeli sydd wedi goroesi gyda'r Sbaeneg yn iaith gyntaf byw bob dydd y bobl a'r Gymraeg yn fwy o hynodrwydd nac yn iaith at iws bob dydd.

Fodd bynnag gydag ymwybyddiaeth newydd mewn gwreiddiau gwelwyd cryn adfywiad dros y blynyddoedd diwethaf a hwnnw'n adfywiad ymhlith pobl ifainc y Wladfa.

Ffrae golegol

Yn ystod ei gyfnod yn ymgyrchu dros y Wladfa yr oedd Michael D. Jones yng nghanol ffrae arall hefyd yn rhinwedd ei swydd yn olynydd ei dad yn brifathro Coleg y Bala.

Bu'n gryn sgarmes rhyngddo ef a charfan dan arweiniad John Thomas o Lerpwl pwy yn union a ddylai fod yn rhedeg y coleg gyda Michael D. Jones mwy radical yn dadlau mai hawl ei danysgrifwyr ydoedd ond Thomas am roi'r rheolaerth yn nwylo cynrychiolwyr a benodwyd gan yr eglwysi yng Nghymru.

Y ty lle y'i ganwydAr un cyfnod fe'i diswyddwyd ond wedi i'r ddwy ochr ddod at ei gilydd cafodd aros ar y staff ond ymddiswyddodd yn 1892 gan greu coleg arall ym Mangor - Coleg Bala-Bangor

Yn ddyn o egwyddorion a daliadau cryfion nid oedd Michael D. Jones heb ei synnwyr digrifwch ychwaith a gwelir arwyddion o'i hiwmor yn ei lythyrau caru er enghraifft.

Erbyn hyn mae Bodiwan, ccgartref y bu Michael D. Jones yn byw ynddo yn Y Bala wedi cael ei gynnig yn safle i amgueddfa am y Wladfa a'i sylfaenydd.

Dadorchuddio cofeb









Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy