Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llusern
Russell Jones: llun S4C 'Natur yw'r cyfan'
Dyn ieir a garddio S4C yn sôn am ei gred grefyddol
Yn un o gyfranwyr mwyaf poblogaidd S4C ar hyn o bryd bu'r garddwr Russell Jones yn trafod ei ddaliadau crefyddol ar un o raglenni Â鶹Éç Radio Cymru yn ddiweddar.

Gyda'i ddiddordeb mewn pethau mor amrywiol a ieir, hwyaid, gweu, garddio a cherdd dant tyfodd Russell Jones mewn poblogrwydd ers iddo ymddangos yn rheolaidd ar y rhaglen Byw yn yr Ardd ar S4C.

Ac ef oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl Mai 7, 2009 pryd cafodd ei holi am ei ddaliadau crefyddol a'i gred.



Dywedodd y byddai'n mynd i'r capel pan yn blentyn ond bod ei ddiddordeb fwy yn y canu nag yn yr addoliad.

"[Roeddwn] yn mwynhau y canu yn fwy nag oeddwn i'n mwynhau beth oedd y capel yn ei feddwl a rhyw bethau felly - dydw i ddim yn gweld ystyr y peth fy hun," meddai gan ddisgrifio'r hyn a ddigwyddai yno fel "addoli'r seiling".

"Mae eisiau i bobl droi ac addoli'r ddaear - o fanno rydym ni gyd wedi dod ac i fano yr yda ni gyd yn mynd yn ôl hefyd," meddai.

Ychwanegodd na ellid "pinpointio" bodolaeth i beth mor syml a phwy greodd y cyfan.

"Mae o'n fwy na rhywbeth y gall rhywun ei ddeall ac mae'n bechod ei roi i lawr i rywbeth felly. Dwi'n lecio hud y peth - ei fod yn rhywbeth mystical," meddai.

"Os da chi'n edrych i mewn ormod ella byddwch yn [cael eich] siomi, ynde. Menthyg y ddaear yda ni dwi'n meddwl," ychwanegodd.
Pan ofynnodd Beti George; "Ond oddi wrth bwy?" atebodd;
"Mae'r ddaear yma ynde."

"Ond pwy'i creodd hi?" holodd Beti George.
"Wel, dydw i ddim yn meddwl bod neb wedi'i greu. Mae'n bechod ei roi i lawr i rywun wedi ei greu. Wedi creu ei hun mae o yn y bydysawd ac ella bod yna fyd arall o gwmpas y lle rywle yn y gofod - does neb yn gwybod nagoes," meddai.
Beti: "Ond mae yna ryw bwer yn rhywle?"

Russell: "Natur ynde . Mae'n byw ei hun ac rydym ni fod i ddysgu oddi wrth natur ac i fyw efo fo. Mae'n bechod ei roi i lawr i rywun wedi ei greu o.

"Mae natur yn rhwybeth na allwch chi ddim ei ddal i lawr na ellid byth ei ddal yn ôl Mae'n fwy na'r un ohonon ni . Ella bod pobl yn trio deall gormod ohono fo," meddai.

Beti: "Ond dyda chi ddim yn credu mewn rhywbeth fel Duw"

"O na , na, na."

Bydd Russell Jones a'r rhaglen yn dychwelyd i S4C nos Iau, 4 Mehefin 4, 2009 am 8.25pm.

  • Cliciwch Yma i ddarllen mwy am Russell Jones




  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý