Yn sgil buddugoliaeth Iwerddon yn erbyn Lloegr, roedd llygedyn o obaith i'r Cymry ennill y bencampwriaeth, petaent wedi sicrhau buddugoliaeth swmpus yn Stade de France.
Ond, diflannodd y gobaith yn sydyn iawn wrth i gamgymeriadau'r Cymry gyfrannu at ddau gais y clo, Lionel Nallet.
" Rwyf yn siomedig iawn, 'doedd y tîm ddim yn ddigon cryf yn feddyliol heddiw," meddai Gatland wrth y Â鶹Éç.
"Pan fo' tîm yn dangos cryfder meddyliol, mae'n fwy parod i gystadlu yn ardal y dacl, ac yn fwy ymosodol mewn meddiant. Ni ddigwyddodd hynny heddiw."
"Ildiwyd y bêl yn rhy hawdd, roedd gormod o giciau cosb, a'n camgymeriadau ni arweiniodd at y ddau gais cyntaf," meddai Gatland.
Amddiffyn blêr y Cymry arweiniodd at gais cyntaf Nallet.
Oherwydd eu hansicrwydd a'u harafwch yn ardal y dacl, cododd clo Ffrainc y bêl i fyny wedi sgarmes - a charlamu at y llinell.
Ar gyfer yr ail gais, cafodd gic James Hook ei tharo lawr gan Julien Pierre, cyn i Nallet oroesi dwy dacl, a chroesi am gais arall.
Roedd clo Cymru, Alun Wyn Jones, yn barod i dderbyn beirniadaeth yr hyfforddwr: "'D oedd yr awch ddim yno heddiw. Mae'n siomedig i ddarfod y bencampwriaeth efo perfformiad fel hyn, ac fel chwaraewyr, wnawn ni ddim esgusodion."
" Mae'r ystafell newid yn dawel, a phawb yn siomedig. Rydym yn anelu i fod ymhlith y tri ucha' yn y byd, ond 'd oedd y perfformiad ddim yno, heddiw - ac mae hynny'n brifo."
Awgrymodd y cefnwr, Lee Byrne, fo'r ffaith i'w gwrthwynebwyr brofi colled annisgwyl yn erbyn yr Eidal wythnos yng nghynt wedi ysbrydoli Ffrainc.
"Daeth y Ffrancwyr allan efo tân yn eu boliau. 'Ddaru ni'm troi fyny mewn gwirionedd, ac mae hynny'n siomedig ar ôl yr holl waith rydym wedi ei wneud," meddai Byrne.
" Mae'n rhaid disgwyl am gyfnod hir cyn cael cyfle i wisgo'r crys eto, a chywiro'r camgymeriadau. Rhaid gobeithio am well perfformiad y tro nesaf."
'D oes gan y tîm cenedlaethol gêm eto tan iddynt wynebu'r Barbariaid ar y 4ydd o Fehefin.
Cyfaddefodd y capten, Matthew Rees, mai ennill a cholli'r sgarmes oedd allwedd y gêm:
"Roedd Ffrainc wedi targedu'r sgarmes a'n herio ni yn yr ardal yma o'r gêm. Fe wnaethom ni nifer o gamgymeriadau, ac fe fanteisiwyd ar y camgymeriadau hynny."
"Roedd yna adegau pan eu bod yn dod i mewn o'r ochr, ond mae'n rhaid chwarae i'r chwiban, ac roeddynt yn ffodus i osgoi cael cosb."
" Er ein bod wedi cael tair buddugoliaeth yn y bencampwriaeth, rydym yn siomedig â chanlyniad y gêm hon. Mae gofyn i ni asesu'r perfformiad a dysgu'n gwersi."