Popeth fydd angen i chi wybod am dîmÌýUnol Daliaethau AmericaÌýar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp E: v Y Weriniaeth Siec 12 Mehefin 1700 BST,ÌýGelsinkirchen
v Yr Eidal 17 Mehefin 1700 BST, Kaiserslautern
v Ghana 22 Mehefin 1500 BST, Nuremberg
O gofio nad yw pêl-droed yn boblogaidd iawn yn y wlad, mae'n anodd credu bodÌýAmerica wedi gwneud eu marc yn ôl yng Nghwpan y Byd 1930 wrth gyrraedd y rownd gynderfynol.
A llwyddodd Bet Patanaude i dorri ei enw yn y llyfrau hanes wrth sgorio'r hat-trick cyntaf yn hanes y gystadleuaeth yn erbyn Paragwái yn ystod y grŵp agoriadol.
Ond daeth eu hawr fawr ym mrasil ym 1950 wrth i America drechu Lloegr, oedd yn cael eu hystyried fel tîm gorau'r byd ar y pryd,Ìý1-0 yn Belo Horizonte.
Capten America ar gyfer y gêm â Lloegr oedd Ed McIlvenny, Albanwr chwaraeodd saith gêm dros Wrecsam ym 1949, cyn symud i chwarae i'r Philadelphia Nationals.
Cyrhaeddodd yr Americanwyr yr ail rownd pan gynhaliwyd y bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain ym 1994 a chawsant eu llwyddiant mwyaf o'r oes fodern wrth gyrraedd rownd yr wyth olaf yn 2002.
Sêr y tîm: Bydd profiad y capten, Claudio Reyna, yn gaffaeliad i America wrth iddo chwarae yn ei bedwaredd pencampwriaeth. Llwyddodd amddiffynnwr Manchester City i gael ei enwebu'n rhan o dîm y bencampwriaeth yn 2002.
Landon Donovan yw'r chwaraewr gorau i chwarae yn yr MLS yn y blynyddoedd diwethaf gan ennill y bencampwriaeth dair gwaith gyda'r San Jose Earthquakes a'r Los Angeles Galaxy. Mae hefyd wedi cael profiad o chwarae yn Yr Almaen wedi dau gyfnod â Bayer Leverkusen.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd:
|