Ac mae'r canlyniad yn golygu bod Lloegr yn sicrhau eu lle yn yr ail rownd.
Ond petai Sweden yn trechu Lloegr ddydd Mawrth, nhw ac nid Lloegr fydd yn ennill Grŵp B, ond fe all buddugoliaeth i Loegr weld Trinidad a Tobago drwodd.
Mewn gêm gymharol ddi-fflach, tarodd Zlatan Ibrahimovic ergyd wan at golwr Paragwai a gwelodd Marcus Allback gynnig yn cael ei glirio oddi ar y llinell cyn i Ljungberg rwydo'r gôl holl bwysig.
TIMAU
Sweden: Isaksson, Lucic, Mellberg, Linderoth, Edman, Ljungberg, Alexandersson, Kallstrom (Elmander 86), Wilhelmsson (Jonson 68), Ibrahimovic (Allback 45), Larsson.
Eilyddion: Alvbage, Andersson, Hansson, Nilsson, Rosenberg, Shaaban, Stenman, Anders Svensson, Karl Svensson.
Paragwai: Bobadilla, Gamarra, Nunez, Caceres, Caniza, Bonet (Barreto 81), Acuna, Paredes, Riveros (Dos Santos 62), Santa Cruz (Lopez 63), Valdez.
Eilyddion: Cabanas, Cuevas, Da Silva, Gavilan, Gomez, Manzur, Montiel, Toledo, Villar.
Dyfarnwr: Lubos Michel (Slovacia).