|
Newidiwyd diwethaf:
17
Mai
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Sbaen ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp H: v Wcrain 14 Mehefin 1400 BST, Leipzig
v Tunisia 19 Mehefin 2000 BST, Stuttgart
v Saudi Arabia 23 Mehefin 1500 BST, Kaiserslautern
Er fod y wlad wedi cynhyrchu llu o chwaraewyr talentog dros y blynyddoedd, mae Sbaen yn llwyddo i tangyflawni ym mhob cystadleuaeth.
A bu rhaid i ŵyr Luis Aragones chwarae gêm ail gyfle yn erbyn Slofenia i sicrhau eu lle yn Yr Almaen wedi iddynt orffen yn ail yng Ngrŵp Saith tu ôl i Serbia a Montenegro.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Maen Sbaen wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ar dri achlysur, ym 1986, 1994 a 2002, ond bydd nifer yn credu dylai'r tîm fod wedi mynd cam ymhellach yn 2002.
Cafodd y Sbaenwyr dair gôl wedi eu gwrthod cyn colli'n ddadleuol ar giciau o'r smotyn yn erbyn y tîm cartref, Corea.
Sêr y tîm: Mae gan y tîm asgwrn cefn cryf iawn gyda'r golwr Iker Casillas, yr amddiffynnwr canol, Carlos Puyol, a'r ymosodwr, Raul yn brofiadol tu hwnt.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Un dydd, mae Sbaen yn mynd i gyflawni eu potensial a serennu ar y llwyfan rhyngwladol, ond gyda'r posibilrwydd o wynebu Brasil yn rownd yr wyth olaf, mae'n debyg nad 2006 fydd y flwyddyn!
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|