Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 11 Mehefin 2006
Mecsico 3-1 Iran

Grŵp D
Nuremberg
Dydd Sul, 11 Mehefin
Cic Gyntaf: 1700 BST

Sgôr Terfynol - Mecsico 3-1 Iran

86 mun: Luis Perez yn cwympo yn y cwrt cosbi - ond y dyfarnwr o'r Eidal yn ei anwybyddu.

79 mun: Gôl - Mecsico 3-1 Iran
Antonio Zinha yr eilydd yn rhoi Mecsico ymhellach ar y blaen gyda peniad, yn dilyn croesiad Mendez. Zinha ddechreuodd a gorffennodd y symudiad.

76 mun: Gôl - Mecsico 2-1 Iran
Omar Bravo yw'r arwr unwaith yn rhagor gan roi Mecsico ar y blaen am yr eildro.

62 mun: Iran yn eilyddio wrth i Mehrzad Madanchi ddod ymlaen i'r maes yn lle Ali Karimi.

62 mun: Mehdi Mahdavikia yn ergydio dros y trawst, pan oedd nifer o'i gyd chwaraewyr mewn safleoedd gwell yn y cwrt cosbi.

57 mun: Mecsico yn hawlio cic o'r smotyn wedi i Marquez gael ei lorio yn ddisymwth gan Golmohammadi yn y cwrt cosbi - ond y dyfarnwr yn ei anwybyddu.

55 mun: Mahdavikia yn ergydio o bell, ond ei ergyd ddim yn trafferthu'r golwr Sanchez.

50 mun: Mecsico yn gorfod gwneud newid arall i'w tîm gyda Jared Borgetti yn gorfod gadael y maes oherwydd anaf. Jose Fonsenca ddaw i'r maes yn ei le.

46 mun: Ricardo La Volpe yn gwneud dau newid i dîm Mecsico gyda Luis Perez a Antonio Zinha yn dod ymlaen i'r maes yn lle Torrado a Franco.

Hanner amser - Mecsico 1-1 Iran

36 mun: Gôl - Mecsico 1-1 Iran
Y golwr Oswaldo Sanchez yn methu delio gyda chic gornel a manteisiodd Yahya Golmohammadi ar y bêl rhydd gan daro'r bêl i do'r rhwyd o chwe llath.

28 mun: Gôl - Mecsico 1-0 Iran
O gic rhydd Pavel Pardo, Guilermo Franco yn penio fewn i'r cwrt bach ac Omar Bravo yn rhwydo i roi Mecsico ar y blaen.

23 mun: O gic gornel Pardo, Marquex yn penio dros y trawst.

13 mun: Peniad gwan Franco i Fecsico ddim yn poeni Mirzapour rhyw lawer.

10 mun: Hashemian yn dod yn agos i roi Iran ar y blaen ddwywaith mewn mater o eiliadau. Y tro cyntaf yn methu cysylltu wedi croesiad o'r asgell dde, ac yna ei beniad yn cael ei arbed gan Sanchez.

3 mun: Ergyd o 25 llath gan Mahdavikia o Iran yn mynd heibio'r postyn.

TIMAU
Mecsico: Sanchez, Salcido, Mendez, Osorio, Pineda, Marquez, Torrado, Pardo, Franco, Borgetti, Bravo.

Eilyddion: Arellano, Castro, Corona, Fonseca, Garcia, Guardado, Morales, Ochoa, Perez, Rodriguez, Suarez, Zinha.

Iran: Mirzapour, Golmohammadi, Rezaei, Kaabi, Nosrati, Mahdavikia, Nekounam, Karimi, Teymourian, Hashemian, Daei.

Eilyddion: Bakhtiarizadeh, Borhani, Enayati, Kazemeian, Khatibi, Madanchi, Roudbarian, Sadeqi, Shojaei, Talebloo, Zandi.

Dyfarnwr: Roberto Rosetti (Yr Eidal)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý