Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 22 Mehefin 2006
Croatia 2-2 Awstralia

Mae Awstralia drwodd i'r 16 olaf am y tro cyntaf yn eu hanes wedi gêm gyfartal gyffrous yn erbyn Croatia.

Harry Kewell

Harry Kewell sgoriodd gôl hwyr Awstralia mewn gêm gyffrous yng Ngrŵp F.

Roedd Darijo Srna wedi rhoi Croatia ar y blaen gyda chic rydd.

Ond daeth Awstralia yn gyfartal cyn yr egwyl. Craig Moore yn sgorio o'r smotyn wedi i Stjepan Tomas lawio croesiad.

Roedd Croatia yn ôl ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner gyda'r golwr Zeljko Kalac yn gwneud smonach wrth ildio ergyd Nico Kovac.

Sgoriodd Kewell gydag ychydig dros deg munud yn weddill, ond doedd y ddrama ddim ar ben.

Cafodd Dario Simic a Brett Emerton eu gyrru o'r maes yn ystod y deg munud olaf.

Yn y funud olaf gwelodd amddiffynnwr Croatia, Josip Simunic ei drydydd cerdyn melyn o'r noson.

Roedd y dyfarnwr Graham Poll wedi gwneud camgymeriad drwy beidio ei yrru o'r maes rhai munudau ynghynt.

PRIF DDIGWYDDIADAU

Sgôr terfynol - Croatia 2-2 Awstralia

90 mun: Cerdyn coch - Simunic (Croatia)

85 mun: Cerdyn coch - Brett Emerton (Awstralia)

84 mun: Cerdyn coch - Dario Simic (Croatia)

79 mun: Gôl - Croatia 2-2 Awstralia
Harry Kewell yn unioni'r sgôr, fyddai'n ddigon i sicrhau lle Awstralia yn yr 16 olaf.

56 mun: Gôl - Croatia 2-1 Awstralia
Golwr Awstralia, Zelko Kalac yn gwneud smonach o ergyd Kovac.

Hanner amser - Croatia 1-1 Awstralia

38 mun: Gôl - Croatia 1-1 Awstralia
Craig Moore yn sgorio o'r smotyn wedi Tomas lawio'r bêl.

2 mun: Gôl - Croatia 1-0 Awstralia
Darijo Srna yn sgorio gyda chic rydd.

TIMAU

Croatia: Pletikosa, Simic, Tudor, Tomas, Simunic, Srna, Nico Kovac, Babic, Kranjcar, Prso, Olic.
Eilyddion: Balaban, Bosnjak, Butina, Didulica, Klasnic, Ivan Leko, Jerko Leko, Modric, Seric, Tokic, Vranjes.

Awstralia: Kalac, Neill, Moore, Chipperfield, Emerton, Grella, Culina, Cahill, Sterjovski, Kewell, Viduka.
Eilyddion: Aloisi, Beauchamp, Bresciano, Covic, Kennedy, Lazaridis, Milligan, Popovic, Schwarzer, Skoko, Thompson, Wilkshire.

Dyfarnwr: Graham Poll (Lloegr)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý