Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 12 Mehefin 2006
Awstralia 3-1 Siapan

Llwyddodd Awstralia i ddod yn ôl o fod gôl i lawr i ennill eu gêm gyntaf erioed yng Nghwpan y Byd â goliau hwyr gan Tim Cahill a John Aloisi.

Adroddiad i ddilyn
PRIF DDIGWYDDIADAU

Sgôr Terfynol: Awstralia 3-1 Siapan

90 +2mun: Gôl - Awstralia 3-1 Siapan
Llwyddodd John Aloisi i selio'r fuddugoliaeth wrth ddawnsio heibio Yuichi Komano cyn taro'r bêl i gornel isa'r rhwyd.

89 mun: Gôl - Awstralia 2-1 Siapan
Wedi dod ag Awstralia'n gyfartal pum munud yn ôl, rhwydod Tim Cahill ag ergyd hyfryd o ochr y cwrt cosbi i roi Awstralia ar y blaen.

84 mun: Gôl - Awstralia 1-1 Siapan
Methodd Siapan ag ymdopi â thafliad hir i'r cwrt cosbi a manteisiodd Tim Cahill i rwydo gôl gyntaf Astralia yng Nghwpan y Byd.

83 mun: Cafwyd arbediad campus arall wrth i John Aloisi grymanu cic rydd o amgylch y mur amddiffynol.

71 mun: Wrth i Awstralia bwyso, llwyddodd Hidetoshi Nakata i wrthymosod gan garlamu i lawer yr asgell dde, ond yn ffodus i Awsralia roedd ei bas i'r cwrt cosbi tua llathen tu ôl i Atsushi Yanagisawa.

67 mun: Wrth i Awstralia geisio am y gôl i ddod yn gyfartal, mae'n rhaid i Siapan amddiffyn am eu bywydau. Lloriwyd Josh Kenedy ar ochr y cwrt cosbi yn dilyn symudiad da gan y Socceroos ac roedd angen arbediad campus gan Yoshikatsu Kawaguchi o ergyd Mark Viduka.

60 mun: Mae Guus Hiddink wedi gyrru yr ymosodwr, Josh Kennedy, i'r maes yn lle yr amddiffynnwr, Craig Moore.

52 mun: Mae chwaraewr canol cae Everton, Tim Cahill, wedi dod i'r maes i'r Socceroos yn lle Marco Bresciano

Hanner Amser: Awstralia 0-1 Siapan

40 mun: Mae'r chwarae yn hedfan o un pen i'r maes i'r llall ac mae'n anodd credu bydd y gêm yn parhau i fod mor gyflym yn yr ail hanner.

Mae rheolwr Awstralia, Guus Hiddink, yn gandryll â'r penderfyniad i ganiatáu'r gôl ac ymddengys ei fod wedi cael dadl ffyrnig â'r pedwerydd a phumed swyddog.

33 mun: Dawnsiodd Atsushi Yanagisawa trwy amddiffyn Awstralia, ond yn anffodus i Siapan nid oedd ei ergyd hanner cystal â'i rediad.

27 mun: Ceisiodd Harry Kewell ymateb yn syth i Awstralia gan grymanu ergyd grafodd y trawst.

26 mun: Gôl - Awstralia 0-1 Siapan
Siapan yn mynd ar y blaen â gôl hynod ddadleuol wedi Shunsuke Nakamura daro ergyd hir i mewn i'r cwrt cosbi ac wrth i Naohiro Takahara neidio yn erbyn y golwr, Mark Schwarzer, adlamodd y bêl i gefn y rhwyd ac fe'i caniatawyd gan y dyfarnwr o'r Aifft.

24 mun: Crëwyd lle i Marco Bresciano ar ochr y cwrt cosbi â phas gelfydd gan Mark Viduka, ond llwyddodd Yoshikatsu Kawaguchi i arbed ergyd chwaraewr canol cae Parma

20 mun: Llwyddodd Alex i greu lle i Naohiro Takahara ar ochr y cwrt cosbi a tharodd ymosodwr Hamburg ergyd hyfryd fodfeddi heibio'r postyn.

14 mun: Mae Mark Viduka'n serenu i'r Soccroos wrth iddo ddawnsio heibio dau neu dri o amddiffynwyr Siapan ond tarodd ei ergyd yn erbyn Tsuneyasu Miyamoto.

11mun: Mae Awstralia'n profi eu bod yn mynd i roi her i brif dimau Asia nawr eu bod wedi ymuno â'r AFC wrth i Luke Wiltshire groesi'n hyfryd o'r asgell dde ond methodd Mark Viduka â chyrraedd y bêl.

5 mun: Bu rhaid i Yoshikatsu Kawaguchi fod ar ei orau i arbed dwy ergyd gan Mark Viduka ar ochr y cwrt bach.

1 mun: Cafodd Siapan gic rydd gynnar ond tarodd Shunsuke Nakamura ei ergyd yn syth i'r mur amddiffynnol.

TIMAU

Awstralia: Schwarzer, Neill, Moore, Culina, Wilkshire, Emerton, Grella, Bresciano, Chipperfield, Kewell, Viduka.

Eilyddion: Aloisi, Beauchamp, Cahill, Covic, Kalac, Kennedy, Lazaridis, Milligan, Popovic, Skoko, Sterjovski, Thompson.

Siapan: Kawaguchi, Komano, Miyamoto, Santos, Tsuboi, Nakazawa, Fukunishi, Hidetoshi Nakata, Nakamura, Takahara, Yanagisawa.

Eilyddion: Doi, Endo, Inamoto, Kaji, Maki, Moniwa, Koji Nakata, Narazaki, Ogasawara, Oguro, Ono, Tamada.

Dyfarnwr: Essam Abdel Fatah (Yr Aifft)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý