|
Newidiwyd diwethaf:
07
Ebrill
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am Yr Ariannin ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp C: v Cote d'Ivoire 10 Mehefin 2000 BST, Hamburg v Serbia a Montenegro 16 Mehefin 1400 BST, Gelsenkirchen v Yr Iseldiroedd 21 Mehefin 2000 BST, Frankfurt
Er iddynt fethu â chamu heibio'r rownd gyntaf yng Nghwpan y Byd 2002 yn Siapan a Chorea, mae holl gefnogwyr Yr Ariannin yn ffyddiog gall eu tîm serennu yn Yr Almaen.
Ond ni chrëwyd argraff ffafriol gan yr Albicelestes yn ystod eu tair gêm olaf o'r grŵp rhagbrofol.
Wedi colli 1-0 oddi cartref ym Mharaguay, roedd angen cic o'r smotyn a gôl hwyr trwy eu rhwyd ei hunain i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Peru cyn iddynt golli 1-0 oddi cartref yn erbyn Uruguay.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Mae'r Ariannin yn un o gewri'r byd pêl-droed ac maent wedi ennill Cwpan y Byd ddwywaith - ym 1978 a 1986 - ac wedi colli yn y rownd derfynol ddwywaith - ym 1930 a 1990.
Sêr y tîm: Amddiffynnwr Villareal, Juan Pablo Sorin, ydi calon y tîm ac mae'n ddewis naturiol i arwain y tîm. Sorin oedd capten tîm dan-20 Yr Ariannin enillodd Cwpan y Byd dan-20 ym 1995.
Tra bo Sorin yn arwain y tîm, ei gyd chwaraewr â Villareal, Juan Roman Riquelme, sydd yn gyfrifol am greu'r symudiadau â'i basio treiddgar o ganol cae.
Efallai mai unig wendid Yr Ariannin yw eu gorddibyniaeth ar Riquelme.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Nid yw'r Ariannin wedi camu heibio rownd yr wyth olaf ers i Diego Maradonna ymddeol, ac mae posibilrwydd bydd rhaid iddynt wynebu'r Almaen yn rownd yr wyth olaf eleni.
Ond os yw Riquelme yn serennu ac ymosodwr Barcelona, Lionel Messi, yn gwireddu ei botensial, fe all Yr Ariannin gipio'r tlws am y trydydd tro.
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|