Race Horses (Radio Luxembourg gynt) yw un o fandiau mwyaf llwyddiannus y sîn roc Gymraeg cyfoes. Maent yn gewri o felodïau gwyrthiol yn ogystal â chrysau seicadelig. Maen nhw'n dilyn trywydd pop arbrofol seicadelig ac yn feistri ar greu harmonïau lleisiol.
Aelodau
- Meilyr Jones: Llais a bâs
- Alun Gaffey: Gitar
- Dylan Hughes: Allweddellau 
- Gwion Llewelyn: Drymiwr
Sefydlwyd Radio Luxembourg yn 2005 gan rai o gyn aelodau Mozz. Roedd y gerddoriaeth yn ddatblygiad gwahanol i Mozz wrth iddynt ddilyn trywydd pop arbrofol seicadelig. Roedd dylanwad Euros Childs o'r Gorkys yn amlwg i ddechrau a gynhyrchodd senglau ac EPs y gr?p gan hefyd gynnig i rai o'r aelodau i berfformio yn ei fand, Euros Childs, am sbel.
Gwnaeth llafurio'r band ddwyn ffrwyth ar ôl rhyddhad ei sengl P?er Y Fflwer/Lisa Magic a Porva, a brofodd yn arwyddgan i'r band am rai blynyddoedd. Cafodd yr ail sengl, Os Chi'n Lladd Cindy, ei ryddhau ar finyl 7 modfedd a rhoddodd dimensiwn newydd a gwobr RAP Â鶹Éç Radio Cymru am Sengl y Flwyddyn.
Nesaf, rhyddhawyd yr EP anhygoel Diwrnod Efo'r Anifeiliaid. Roedd hi'n amlwg o'r foment hon fod y band am fynd yn ei blaen yn y byd cerddorol. Roedd harmonïau'n llifo dros felodïau hapus ac roedd gwaith celf yr EP, gan Ruth Jen, yn denu sylw ac yn dangos proffesiynoldeb y band.
Wedi hyn roedd cyfnod prysur yn disgwyl y band wrth iddynt (cymrwch anadl) perfformio yn Glastonbury, cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn Proms Trydanol y Â鶹Éç, rhyddhau'r EP Where is Dennis?/Cartoon Cariad, cymryd rhan mewn taith Brydeinig Â鶹Éç Introducing a theithio o amgylch Cymru mewn taith a drefnwyd gan MaesB yn ogystal â pherfformio mewn nifer o wyliau a gigiau eraill yng Nghymru, Lloegr ac Efrog Newydd.
Ar ôl arwyddo i label yn Hydref 2008, daeth i'r amlwg yn 2009 nad oedd hi bellach yn bosib defnyddio'r enw Radio Luxembourg oherwydd y posibilrwydd o broblem gyfreithiol wrth rannu'r enw gyda gorsaf radio enwog ac felly penderfynwyd newid eu henw i Race Horses. Dathlwyd ei henw newydd gyda drymiwr newydd a rhyddhad ei sengl dwy ochr A hir ddisgwyliedig yn Ebrill 2009.
Rhyddhaodd y band sawl sengl yn 2011 yn cynnwys, Pony, Marged wedi Blino,Grangetown a Benidorm. Maent yn ffynnu yn fyw ac yn berfformwyr o radd flaenaf.
Newyddion
Sengl newydd 'Race Horses'
1 Mehefin 2009
Daeth Dyl a Mei o'r Race Horses i fewn i gael sgwrs gyda Magi am y sengl newydd.
Sengl newydd 'Race Horses'
1 Mehefin 2009
Daeth Dyl a Mei o'r Race Horses i fewn i gael sgwrs gyda Magi am y sengl newydd.
Adolygiadau
ICA, Llundain
6 Mawrth 2008
Gig yn Llundain gyda Radio Luxembourg, Genod Droog, MC Mabon, Mr Huw a mwy.
Sion Llwyd yn adolygu gig 'Stafell fyw
31 Ionawr 2008
Y cerddor Sion Llwyd yn adolygu y cyntaf mewn cyfres o gigs gan Gymdeithas yr Iaith a Siarc Marw.
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Â鶹Éç Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.