Mae Meinir Gwilym yn enw cyfarwydd iawn yng Nghymru, ac y mae hi bellach wedi sefydlu ei hun yn un o'r artistiaid fwyaf poblogaidd erioed yn y Gymraeg.
Rhoddodd Meinir gorau i'w gradd mewn Llenyddiaeth Gymraeg ac Athroniaeth yn 2004 er mwyn gallu canolbwyntio ar ei cherddoriaeth.
Bellach mae'r gantores boblogaidd o F么n yn ymddangos yn gyson ar lwyfannau prif wyliau Cymru ac fe'i hadnabyddir yn un o'r artistiaid gyda'r gwerthiant uchaf erioed yn y Gymraeg.
Gwead o gerddoriaeth acwstig, roc-gwerin a phop sydd i'w glywed gan Meinir Gwilym. Sm么cs, Coffi a Fodca Rhad (2002) oedd enw ei halbwm gyntaf a oedd yn gasgliad gwreiddiol o gerddoriaeth pop a roc-gwerin. Rhyddhawyd ei halbwm nesaf Tombola yn 2008.
Yn ogystal 芒 bod yn gantores boblogaidd mae Meinir hefyd yn gyfansoddwraig ac yn gyflwynwraig adnabyddus sydd bellach yn rhan o d卯m cyflwyno'r rhaglen Wedi 7 ar S4C.
Ffion Angharad Williams
Newyddion
CDs newydd
Tachwedd 24, 2005
Gwobre RAP 2005
Y diweddara....
Meinir yn gefn i Will
Mehefin 10, 2004
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
麻豆社 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.