Chwa o awyr iach gydag arddull amrwd a chyflym, roedd Kentucky AFC yn un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru.
Aelodau
- Huw Owen: Bas a Llais
- Endaf Roberts: Gitâr a Llais
- Gethin Evans: Drymiau
Sefydlwyd Kentucky AFC yn 2001 wedi iddynt newid eu henw o Cacen Ŵy Experience. Roedd y band yn gwneud tipyn o sŵn a'u sain yn un ffres a newydd, wrth iddynt gyfuno melodïau, bachau a riffiau gyda strymio rhyfygus ar y gitâr.
Roedd y triawd yn gigio'n gyson - yn wythnosol ac weithiau'n ddyddiol! Byddai'r band yn perfformio mewn tafarndai, clybiau ac unrhyw leoliad arall ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Roedd ymroddiad a chariad y band tuag at eu crefft yn amlwg.
Yn 2003 recordiwyd y sengl hynod lwyddiannus Bodlon, a phrofodd hon i fod yn arwyddgan y band am flynyddoedd wedyn. Yn hwyrach y flwyddyn honno rhyddhawyd y sengl dwbl-A Outlaw/11. Dyma'r flwyddyn pan wnaeth llafurio'r band ddwyn ffrwyth.
Llwyddodd y Kentucky AFC i ennill pum gwobr yng ngwobrau RAP Radio Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys y Sesiwn Gorau, Newydd-ddyfodiad Gorau, Sengl Gorau (ar gyfer Outlaw/11 a recordiwyd gan gynhyrchydd Super Furry Animals, Gorwel Owen), Band Byw Gorau a Band y Flwyddyn.
Hefyd, enillodd y band ddwy wobr yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru am y record gorau yn yr iaith Gymraeg (Bodlon) a Newydd-ddyfodiad Gorau Cymraeg.
Derbyniodd eu halbwm hir disgwyliedig, Kentucky AFC a rhyddhawyd yn 2004 gan Boobytrap Records, adolygiadau gwych. Enwebwyd y band ymysg Goldie Lookin Chain, Lostprophets a Super Furry Animals yng ngwobrau'r Ffatri Bop am y Grŵp Orau o Gymru.
Daeth newyddion trist yn haf 2007. Ar ôl chwe blynedd o greu cerddoriaeth flaengar gyson, cymryd rhan mewn nifer o sesiynau gan gynnwys cyrraedd Last Ever Festive Fifty yr arwr John Peel, a llwyddo i lwyfannu sioeau byw tanllyd ac weithiau anrhagweladwy, cyhoeddodd Kentucky AFC eu bod nhw'n rhoi'r ffidl yn y to drwy ryddhau'r albwm Fnord a chynnal taith ffarwel. Crewyd ffilm am y daith olaf gan Angharad Griffiths sydd i'w weld ar y we.
Mae holl aelodau Kentucky AFC yn weithredol o hyd mewn amryw o brosiectau cerddorol eraill.
Bellach mae Huw Owen wedi sefydlu ei hun fel Mr Huw ac mae eisoes wedi rhyddhau dau albwm; mae Endaf Roberts yn perfformio fel Endaf Presli, ac aeth Gethin Evans ymlaen i fod yn aelod o'r band llwyddiannus hip hop Genod Droog a ddaeth i ben yn 2008.
Lynsey Anne
Newyddion
Taith Tafod 2006
Y Ffyrc, Kentucky AFC ag Amlder...
Oxjam 2006
16 Hydref 2006
Ffilm newydd Y Lleill
Tachwedd 10, 2005
Sesiynau
Kentucky AFC
11 Hydref 2007
Gwranda - a gwylia - sesiwn olaf erioed y grŵp, wedi recordio ar gyfer rhaglen Lisa Gwilym ar C2.
Kentucky AFC ac Alun Tan Lan
Medi 19, 2005
Kentucky AFC
Mai 21, 2003
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Â鶹Éç Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.