麻豆社

Huw Chiswell

Huw Chiswell

Ganed yng Nghwmtawe, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pant-Teg, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.

Yr oedd yn aelod o'r bandiau 'Y Crach' a'r anfarwol 'Trwynau Coch', ac mae wedi cael gyrfa ym myd teledu fel cyflwynydd, cynhyrchydd ac actor.

Ef a gyfansoddodd y g芒n elusen i Ethiopia 'Dwylo dros y m么r' (1985), a chrisialodd ei ymddangosiad fel Carlos yn y ffilm Ibiza Ibiza!' ei le yng nghalon merched Cymru fel un o heart throbs mwyaf Cymru yn yr wythdegau! Roedd ei albwm gyntaf 'Rhywbeth o'i le' (1986), yn cynnwys clasuron megis trac teitl yr albym, c芒n ddirdynnol am farwolaeth milwr yng ngogledd Iwerddon, 'Parti'r Ysbrydion', (efo'n gilydd - "bwbwgibwgibwbwgibwbwgibw(!)" a daeth 'Y Cwm', ei deyrnged i'r cwm lle'i magwyd, yn ffefryn i'w pherfformio ymysg corau meibion. Buan iawn y daeth yr albym yn gefndir i ddisgos Cymraeg ledled Cymru.

Fe'i dilynwyd gan 'Rhywun yn gadael' (1989) (bydd rhai ohonoch yn cofio'r anfawrol 'Tatws') a 'Cameo Man' (1993), recordiad preifat a ryddhawyd gan Huw yn bersonol, ac a ddosbarthwyd gan Sain. Roedd yn albwm a'i gwelai yn ymestyn ei adennydd i ganeuon 芒 thinciau jazz a ffync - albym hyfryd ac aeddfed sy'n haeddu cael ei hailwerthuso.

Ar 么l cryn seibiant o recordio, ryddhaodd 'Dere Nawr' (2003) ar label Sain, casgliad o ganeuon sy'n ochri at ganu gwlad o ran arddull, heb lithro i sentiment nodweddiadol y genre hwnnw. Ceir teyrngedau i hen gymeriadau ei gwm, a golwg ar ochr dywyll ei fywyd, gyda theimladau dwys ac anodd o edifeirwch ac hunan-ymchwil. Roedd yn fyd oddi wrth 'Chiz' seren bop yr 80au, ac efallai i'r casgliad ddod braidd yn syndod i'r rhai a oedd yn dal i'w gofio felly. Serch hynny, roedd yr hen elfennau yno, ei lais cadarn swynol, baledau 芒 threfniadau dychmygus, clust am alaw a geiriau syml a guddiai haenau o deimlad. Roedd yn taflu golwg newydd arno unwaith eto.

Mae'n parhau i berfformio a recordio ac mae Huw Chiswell hefyd wedi rhyddhau casgliad o'i oreuon erbyn hyn.

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

麻豆社 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.