Â鶹Éç

Ffa Coffi Pawb

Ffa Coffi Pawb

Ffa Coffi Pawb oedd y labordy cerddorol a fu'n rhan allweddol o'r twf aruthrol mewn grwpiau pop yn y 1990au yng Nghymru.

Aelodau

  • Gruff Rhys: Llais, gitar, offerynnau
  • Rhodri Puw: Gitar
  • Dewi Emlyn: Bas
  • Dafydd Ieuan: Drymiau

"O'n i isio bod mewn band ers o'n i'n bum mlwydd oed!" meddai Gruff Rhys nôl yn 1998. Dyna'r unig ffaith sy wir rhaid gwybod am ein prif artist pop, sydd bellach yn brifleisydd y Super Furry Animals.

Ffa Coffi Pawb oedd y grŵp cyntaf i gyflwyno ei ddoniau arbennig i'r gynulleidfa Gymraeg nol yn 1986. Furfiwyd Ffa Coffi Pawb gan ddau fachgen ysgol o Fethesda - Gruff a Rhodri Puw - wedi eu hysbrydoli gan grwpiau Dyffryn Ogwen fel Maffia a bandiau o'r dyffryn nesaf fel Y Cyrff o Lanrwst, Dyffryn Conwy.

Yn ôl Huw Gwyn (pennaeth label cynta'r grwp - Casetiau Huw), roedd y band "yn shambolig, yn perfformio'n chwil... rhyw fath o Jesus and Mary Chain Cymraeg, yn defnyddio drils ar lwyfan i greu sŵn llawn ffidbac, law yn llaw ag agwedd gwrthdrawiadol oedd yn synnu cynulleidfa oedd yn eu gweld nhw".

Mae casetiau cynnar y grwp - Marwolaeth (1986), Valium (1987) a Dalec Peilon (1988) yn sicr yn adleisio arddull y Mary Chain, ond hefyd mae dawn Gruff i ysgrifennu caneuon melodig, bachog, 'poppy' a chlyfar, i'w glywed yn glir.

Ar y pryd roedd Ffa Coffi yn ymddangos fel grwp a oedd yn hapusach yn arbrofi ac ymestyn eu hunain yn gerddorol yn hytrach na cheisio datblygu neu blesio unrhyw griw o ffans penodol neu creu gyrfa saff a llewyrchus yn y diwydiant cerddoriaeth.

Roedd parodrwydd y band i gynnwys y synnau diweddara o'r sîn bop Brydeinig ar gyfer eu cerddoriaeth eu hunain yn hollbwysig - adlewyrchiad pendant o'r ffaith bod y grŵp mewn cariad gyda diwylliant cerddoriaeth bop o bob lliw a llun, heb snobyddiaeth am gerddoriaeth masnachol.

Wrth i'r grŵp sefydlogi, ac ychwanegu doniau cerddorol Dafydd Ieuan a Dewi Emlyn tra'n creu perthynas agos iawn efo prif gynhychydd y cyfnod - Gorwel Owen - llwyddon nhw i greu synthesis oedd yn cwmpasu elfennau roc clasurol y chwedegau law yn llaw â'r sîn ddawns a Baggy, gitâr ecstatig Bowie, a rhyddmau'r oes Glam, yn ogystal ag elfennau mwy tanddaearol fel Tecno, House, a hyd yn oed roc canol y ffordd.

Mae egni a dyfeisgarwch eu cynnyrch mewn albyms fel Clymhalio (1991), Hei Vidal (1992) a senglau 12" fel Allan o'i Phen (1990) a Cymryd y Pys (1991) i label Ankst yn dangos dawn creu cerddoriaeth bop gwbl unigryw ag ysbrydoledig yn y Gymraeg.

Er i'r grŵp chwalu yn 1993 heb lwyddo i greu fawr o enw tu allan i Gymru, mae'r casgliad o oreuon - Ffa Coffi Pawb Am Byth (2004) - a ryddhawyd yn sgil llwyddiant y Super Furries, wedi sicrhau bod cerddoriaeth y grŵp yn cael ei mwynhau a'i chlodfori ar draws y byd o'r diwedd.

Emyr Williams


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

Â鶹Éç Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.