Â鶹Éç

Euros Childs

Euros Childs

"Y Cerddor mwyaf aflonydd yng Nghymru..." (Jude Rogers, The Guardian).

Ffarwel i'r Gorkys's

Cerddor amryddawn o Freshwater East, Sir Benfro a anwyd yn 1975 ac a ddechreuodd ei yrfa fel Cerddor proffesiynol ac yn ran o'r band ifanc Gorky's Zygotic Mynci yn y Nawdegau cynnar.

Enillodd y Gorkys cryn lwyddiant yn y 1990gau ledled y DU. Hwy oedd y band Cymraeg cyntaf i gyrraedd brig y siartiau annibynol Prydeinig gyda'i albym 'Bwyd Time' yn 1995.

Ond yn y 2000au canol, daeth diwedd ar y band gyda dau aelod, Euros a Richard James yn datblygu eu gyrfaoedd fel Cerddorion unigol.

Ymddangosodd gerddoriaeth solo Euros yn gyntaf yn 2005 a'i sengl gyntaf, 'Donkey Island' ar label Wichita Recordings ym mis Tachwedd y flwyddyn yno. Yna aeth ar daith ledled y DU gyda'i gyd-gerddor o Gymru, Alun Tan Lan.

Rhyddhawyd ei albwm unigol gyntaf, 'Chops' ar label Wichita ym mis Chwefror 2006, yna'r ail sengl (yr un olaf o'r albwm hwn), 'Costa Rita'. Erbyn canol 2006 roedd y Gorky's wedi cyhoeddi eu bod wedi gwahanu.

Llwyddiant unigol

Rhyddhawyd albwm Euros, 'Bore Da' (oll yn yr iaith Gymraeg), ym mis Mawrth 2007. Dilynwyd hyn ym mis Awst yr un flwyddyn gyda'r drydedd, 'Miracle Inn'. Ac yn Hydref 2008 cafwyd 'Cheer Gone'.

Roedd yn dal i ddenu sylw gan y cyfryngau'n y DU gyda'r Guardian yn ei gyfweld yn 2007 am ei yrfa fel Cerddor unigol. Talodd y newyddiadurwr, Jud Rogers, deyrnged i waith arloesol Gorky's a gwaith newydd Euros.

Gellid ddadlau fod cerddoriaeth unigol Euros Childs yn fwy amrywiol o ran steil a naws na Gorky's hyd yn oed. Mae trac deitl, 'Miracle Inn' er enghraifft yn 'suite' chwe rhan am ei brofiadau yn ei arddegau ac yn eistedd yn gyfforddus wrth ochr, 'Over You', sy'n lythyr serch melodaidd. Mae 'Horseriding' yn fwy eofn ac yn dangos dylanwadau roc 'glam'. Mae'r ffaith iddo gyhoeddi tair albwm unigol o fewn cyfnod mor fyr yn dangos fod na ddigonedd o ysbrydoliaeth yn ei gyffroi i gyfansoddi a pherfformio o hyd.

Bant i Japan

Yn 2009, cyhoeddodd ei albwm nesaf, 'Son of Euro Child' oedd ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'i wefan. Ffurfiodd hefyd y ddeuawd, 'Jonny' gyda Norman Blake o fand adnabyddus, 'Teenage Fanclub.'

Mae Euros yn weithgar iawn o hyd ac yn dal i ryddhau cerddoriaeth yn cynnwys 'Face Dripping' (oedd yn bennaf yn offerynol ac yn dangos ei ddawn ar nifer o wahanol offerynau) ar ei label ei hun, 'National Elf'. Mae'r rhan helaeth o'r albwm ar gael ar ei wefan.

Mae gan Euros llawer o edmygwyr yn Japan. Nid yw hyn yn annisgwyl o ystyried fod Gorky's wedi bod yn boblogaidd iawn yno hefyd. Ar ddiwedd 2011 bydd Euros yn mynd i Tokyo gyda'i daith 'Piano' ddiweddaraf. Yna bydd y daith yn parhau trwy'r DU.

Rhyddhawyd ei albwm newydd, 'Ends' yn Nhachwedd 2011. Er wedi bod yn perfformio am agos i ugain mlynedd, mae'r chwant yn dal i ferwi yn ei waed a diolch am hynny. Fel Gorky's, mae ei gerddoriaeth yn wahanol i'r 'mainstream' canol-y-ffordd a phob amser yn llwyddo i ddiddanu ac i ysbrydoli.

Newyddion

Gwobrau Roc a Phop 2007

Chwefror 19, 2007

Albym newydd Euros

Ionawr 10, 2007

Albym newydd Euros

Ionawr 10, 2007

Sesiynau

Huw Stephens a Euros Childs

Sesiwn byw Euros Childs

28 Tachwedd 2011

Sesiwn byw gan Euros Childs yn arbennig i raglen C2 Huw Stephens.

Euros Childs '07

11 Mawrth, 2007

Euros Childs

Chwefror 21, 2006

Adolygiadau

Adolygiad CD Euros Childs - Cheer gone

14 Hydref 2008

Beth yw barn yr adolygwyr am Euros Childs - Cheer Gone ?

Erthyglau

Euros Childs ar C2

22 Medi 2008

Euros Childs ar raglen Huw Stephens - cyfle i glywed y sgwrs eto!

Euros Childs ar C2

22 Medi 2008

Euros Childs ar raglen Huw Stephens - cyfle i glywed y sgwrs eto!


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

Â鶹Éç Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.