I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Creadigaeth y brodyr Eurig ac Ynyr Roberts o ardal Eryri yw Brigyn.
Cymysgedd o gerddoriaeth werin fodern, samplau cerddorol a churiadau electronig sydd i'w glywed gan y brodyr.
Mae amrywiaeth eu dylanwadau cerddoroal yn helaeth - o sŵn electronig Bjork, i sŵn gwerinol Simon & Garfunkel ac i gyfansoddwyr clasurol yr ugeinfed ganrif.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf yn 2004 a'r ail yn 2005, bu'r ddau frawd yn teithio o amgylch San Fransisco ac Iwerddon.
Yn ystod 2006 fe ryddhaodd y brodyr gasgliad o ganeuon prin ar finyl ac ar iTunes. Yna yn 2007 rhyddhawyd eu halbwm Ailgylchu.
Yn ogystal â chyfnodau o deithio a pherfformio'n fyw (gan gynnwys llwyfan Gŵyl y Dyn Gwyrdd) bu'r ddau hefyd yn y stiwdio'n recordio eu trydydd albwm llawn.
Yna, ar ddiwedd 2008, wedi iddynt lwyddo i dderbyn caniatâd Leonard Cohen, rhyddhawyd fersiwn Cymraeg arbennig o'r gân fyd-enwog 'Hallelujah'.
Lansiwyd eu cynnyrch Saesneg cyntaf yn 2010 a hynny ar Fawrth y 1af gyda'i sengl 'One Way Streets'. Mae eu sengl newydd 'Home/ I Need All The Friends I Can Get' ar gael ym mis Rhagfyr.
Ffion Angharad Williams
Newyddion
CDs Newydd 2008
27 Mawrth 2008
Mae albyms newydd ar y ffordd gan Radio Luxembourg, Brigyn, Gai Toms ac Elin Fflur!
CDs Newydd 2008
27 Mawrth 2008
Mae albyms newydd ar y ffordd gan Radio Luxembourg, Brigyn, Gai Toms ac Elin Fflur!
Sesiynau
Caneuon Nadolig Sesiwn C2
Caneuon Nadoligaidd â recordiwyd yn arbennig i C2.
Brigyn '04
Tachwedd 2004
Brigyn
27 Mawrth 2005
Adolygiadau
Brigyn Adolygiad CD
9 Awst 2007
Erthyglau
Eisteddfod yr Urdd 2008
Nid corau, llefaru a dawnsio gwerin yn unig welwch chi yn Eisteddfod yr Urdd eleni - mae Magi Dodd a Glyn Wise yn crwydro'r maes!
Eraill
Sesiwn Unnos 4
Pan wnaethon ni gloi Ynyr Roberts o'r grŵp Brigyn, y bardd Mei Mac, a'r telynor arbrofol Rhodri Davies mewn stiwdio i geisio cyfansoddi, recordio, cymysgu a rhyddhau EP newydd mewn un noson, dyma oedd y canlyniad: "Sŵn Du"
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Â鶹Éç Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.