麻豆社

Tyrfe Tawe 2007

Genod Droog

Adolygiad Alun Rhys Chivers o ?yl Tyrfe Tawe 2007 yn Abertawe.

Mae Alun Rhys Chivers yn un o drefnwyr Tyrfe Tawe - dyma'i argraff o'r ?yl eleni.

Lle a phryd

G?yl Tyrfe Tawe, Hydref 9-13 mewn lleoliadau ar hyd a lled Abertawe.

Y bandiau / perfformwyr

  • Nos Fawrth - Brigyn a Supergene
  • Bore Mercher - Heather Jones
  • Nos Iau - Noel James, Richard Bowen, Myfanwy Alexander, Dewi Fflint, Phil Evans
  • Nos Wener - Derwyddon Dr. Gonzo, Amledd, Gareth Phillips
  • Nos Sadwrn, Genod Droog, Derwyddon Dr. Gonzo, Fflur Dafydd a'r Barf, Mr. Huw, Lowri Evans, Tara Bethan

Enw'r Adolygydd

Alun Rhys Chivers

Awyrgylch a pherfformiadau

Nos Fawrth
Roedd hi wir yn 'Nos Fawrth yn Abertawe' a doedd dim lle gwell i fod na Cafe Mambo. Gyda'r lle'n llawn yn gynnar iawn yn y noson, roedd pawb yn edrych ymlaen at noson agoriadol y pedwerydd Tyrfe Tawe.

Roedd y goleuadau'n isel a'r llwyfan yn fach yng nghornel yr ystafell. Dyma awyrgylch oedd yn berffaith ar gyfer noson oedd i fod yn acwstig ei naws.

Cafwyd gwared ar y naws acwstig wrth i Supergene ddod i'r llwyfan gyda'u gitars trydan a'u drymiau i godi'r to. Roedd angerdd a brwdfrydedd yn eu perfformiad, a welwyd orau trwy eu caneuon 'Rhosneigr' a 'Jackie Jones'.

Roedd y lleoliad yn gweddu'n berffaith i'r s?n gitars ac organ a gafwyd gan Brigyn. Dyma ail ymweliad ag Abertawe ar nos Fawrth i'r bois o'r Gogledd, wedi iddyn nhw gamu i'r bwlch (a adawyd gan Frizbee) yn 'Roc Tawe Rock' yn y brifysgol nos Fawrth Hydref 2il. Unwaith eto, cafwyd perfformiad iasol o rai o'u caneuon gorau gan gynnwys 'Lleisiau yn y Gwynt' ac 'Angharad'.

Bore Mercher
T? Tawe oedd y lleoliad ar gyfer sesiwn ychydig yn wahanol i'r arfer, wrth i Heather Jones ddod i roi sgwrs am ei gyrfa a chanu ambell un o'i chlasuron. Prin iawn gellir ei galw'n set, ond roedd hi'n ddiddorol cael clywed am straeon o'r tu 么l i'r llenni, fel petai. Sesiwn yn arbennig i ddysgwyr oedd hon. Gorffennodd hi'r cyfan drwy gyfareddu'r gynulleidfa gyda 'Colli Iaith'.

Nos Iau
Am y tro cyntaf yn hanes Tyrfe Tawe, cynhaliwyd noson gomedi, a honno yn Theatr y Grand yng nghanol y ddinas. Noel James oedd prif ddigrifwr y noson, ac fe gyflwynodd e rai o ddigrifwyr gorau'r ardal hon, yn ogystal 芒 Dewi Fflint a Myfanwy Alexander o'r rhaglen 'The LL Files' ar Radio Wales, Richard Bowen a Phil Evans.

Roedd Noel James, cyflwynydd y noson, wedi diddanu'r dorf wrth iddo ddynwared ambell berson enwog gan gynnwys Mike Doyle a Stephen Hawking. Phil Evans oedd y perfformiwr cyntaf, ac fe lwyddodd e i gynhesu pawb gan dargedu unigolion yn y gynulleidfa oherwydd lliw gwallt a blew ar eu hwynebau.

Daeth Richard Bowen o Bontardawe i'r llwyfan am set o un j么c ar 么l y llall yn gyflym, a phawb yn eu dagrau o fewn eiliadau. Dewi Fflint oedd y mwyaf doniol o bawb o bell ffordd gyda'i hiwmor gogleddol a'i j么cs am dai haf.

Uchafbwynt y noson oedd gweld Myfanwy Alexander yn perfformio'n fyw. Roedd hi'n debyg i fod mewn Noson Lawen i raddau, a chanddi hithau droli Tesco yn gwmni iddi ar y llwyfan. O bawb, ei hiwmor hi oedd agosaf at yr asgwrn gydag ambell j么c am fachu dynion.

Dyma noson lwyddiannus a fydd, gobeithio, yn parhau yn ddigwyddiad ar galendr Tyrfe Tawe yn y dyfodol.

Nos Wener
Unwaith eto, daeth y Tyrfe i'r Adam & Eve am y nos Wener flynyddol. Doedd hi ddim yn byrlymu 芒 llawer o bobl ar ddechrau'r noson, nid bod hynny'n beth drwg o ystyried y problemau technegol a gafwyd yn ystod set Gareth Phillips.

Serch hynny, aeth y noson yn ei blaen yn wych wedi hynny heb fawr o drafferthion, a'r pwyllgor yn teimlo rhyddhad wedi'r panic. Roedd hi'n anodd clywed y canwr-cyfansoddwr o Gaerfyrddin o gefn yr ystafell ar adegau, a'r s?n yn ymylu ar fod yn hollol naturiol a heb system sain.

O edrych yn 么l mae'n bosib nad oedd y lleoliad yn addas ar ei gyfer e fel canwr acwstig. Byddai Cafe Mambo ar ddechrau'r ?yl, o bosib, wedi rhoi'r cyfle iddo ddangos ei ddoniau'n llawn.

Wrth i'r dorf fynd i'w hwyliau, daeth Amledd i'r llwyfan a'r system sain erbyn hyn yn llawer gwell. Roedd y band gwerin-drydan yn berffaith ar gyfer tafarn fach draddodiadol yng nghanol y ddinas, ac yn eu taflu eu hunain i ganol y dorf.

Roedd Billy Thompson yn rhyfeddol ar y ffidil, a phawb yn clapio i gyfeiliant y caneuon. Gyda'r noson werin yn un o'r digwyddiadau a roddwyd i'r neilltu eleni, dyma gyfle i blethu elfennau gwerinol i'r ?yl beth bynnag.

Amledd, i fi, oedd un o brif fandiau'r wythnos. Gyda'r dorf cyn y set yn gwneud tipyn o s?n wrth siarad, doedd dim llawer o ddewis ond gwrando ar y band hwn a dawnsio o amgylch yr ystafell.

Derwyddon Dr. Gonzo oedd prif fand y noson, a gyda'r dorf yn wyllt erbyn hyn, fe barhaodd y teimlad o barti gyda set o ganeuon bywiog gan un o fandiau mwyaf ecsentrig yr SRG [S卯n Roc Gymraeg].

Roedd hi'n rhyfedd gweld aelodau'r band yn gwisgo bob math o fygydau, gan gynnwys pen anifail a choron 'Burger King'. Dyma ddiweddglo gwych i noson o gerddoriaeth gymysg, a'r dorf yn ysu am ragor o fwynhad y diwrnod wedyn yn y Schooner.

Nos Sadwrn
Gyda chymaint o newidiadau munud olaf a orfodwyd ar y pwyllgor, roedd pawb yn gobeithio am y gorau yn y Schooner mewn ystafell gefn mewn tafarn a oedd yn ymddangos yn fach iawn o'r tu allan. Wrth fynd i mewn, fe ges i'r teimlad o fod mewn stiwdio recordio, gyda'r ystafell wedi ei rhannu'n ddwy - y llwyfan yn y blaen a'r bar yn y cefn.

Ychwanegwyd Tara Bethan i'r lein-yp yn hwyr iawn, ond fe gafwyd tipyn o berfformiad ganddi. Ar ddechrau'r set, roedd pawb yng nghefn yr ystafell yn gwrando'n dawel heb fawr o awyrgylch. Roedd ei set yn llawn caneuon gwlad gan gynnwys un oedd yn s么n am Indiaid Cochion a'i hanes hi fel merch i reslwr (Orig) oedd yn teithio tipyn pan oedd hi'n blentyn.

Roedd hi'n amlwg ar ddechrau'r g芒n nad oedd rhai pobl yn gyfarwydd 芒'r gan sy'n agor gyda dyfyniad o 'Gypsies, Tramps and Thieves'. Roedd rhai yn geg-agored wrth i'r llinell Saesneg atseinio o amgylch yr ystafell! Aeth y set yn ei blaen gan greu naws cyffrous ar gyfer gweddill y noson.

Cylch cyfan oedd hi i Lowri Evans yn noson olaf Tyrfe Tawe, wedi iddi berfformio yn lansiad yr ?yl ychydig fisoedd yn 么l. Erbyn iddi ddechrau, roedd y bobl leol yn dechrau treiddio i mewn o'r ystafell flaen a phawb yn mwynhau'r hyn oedd ganddi i'w gynnig.

Fel yr arfer, roedd ei llais unigryw wedi plesio'n fawr, yn enwedig ei ch芒n 'Merch y Myny'. Mae Lowri Evans yn enw cyfarwydd yn Abertawe gan iddi berfformio'n rheolaidd o amgylch y ddinas, a gobeithio y bydd hi'n enw fydd yn gysylltiedig 芒'r ?yl am flynyddoedd i ddod.

Dechreuodd y dawnsio wrth i Mr. Huw ddechrau ar ei set yntau. Y teimlad yn gyffredinol oedd ei fod e'n ychwanegu dimensiwn gwahanol i'r noson, ac roedd pawb wrth eu bodd gyda'i gyfuniad unigryw o git芒r a thraciau cefndir.

Un peth anarferol oedd nad oedd y band yn eu siwtiau gofod fel sydd wedi dod yn beth mor nodweddiadol o'r band. Cafwyd clasur o set ganddo gan gynnwys y ffefryn 'Morgi Mawr Gwyn' a 'Gwyneb Dod' gyda Mared Lenny (Swci Boscawen).

Braf oedd cael croesawu Fflur Dafydd a'r Barf i Tyrfe Tawe unwaith eto eleni. Cafwyd y cymysgedd arferol o'i hen ganeuon ac ychydig o ddeunydd newydd. Roedd hi'n boblogaidd gyda'r dorf, a gan fod y lle'n llawn, roedd hi'n anodd cyrraedd y fan orau yn yr ystafell i'w chlywed hi'n iawn.

Am yr ail noson yn olynol (gan fod Frizbee wedi tynnu allan), cafodd y dorf gyfle i fwynhau s?n rhyfeddol Derwyddon Dr. Gonzo. Y farn yn gyffredinol oedd eu bod nhw hyd yn oed yn well yn y Schooner nag oedden nhw yn yr Adam & Eve. Roedd y lle'n fwrlwm o ddawnsio a chanu erbyn iddyn nhw gyrraedd y llwyfan, ac roedd y lleoliad yn wych ar eu cyfer nhw.

Genod Droog oedd gwir uchafbwynt y penwythnos ar sawl lefel. Roedden nhw wedi diddanu'r dorf gyda'u rap cadarn, ac erbyn diwedd y set, fe ddaeth Ed Holden i ganol y llawr a dawnsio gyda rhai pobl yn y dorf. Roedd awyrgylch parti yn y dafarn, a hyd yn oed rhai o'r bobl leol yn y dafarn yn ymuno yn yr hwyl. Fel dywedodd Ed Holden, roedd y tyrfe i'w deimlo yn yr ystafell!

Trac yr ?yl

'Haleliwia' gan Brigyn (fersiwn Gymraeg o g芒n Leonard Cohen a ddefnyddiwyd yn y ffilm 'Shrek') - aeth ias i lawr fy nghefn drwy'r g芒n!

Uchafbwynt yr ?yl

Y ffaith bod yr ?yl wedi llwyddo denu pobl o bob cefndir yn y ddinas at yr SRG [S卯n Roc Gymraeg].

Y peth gwaethaf am yr ?yl

Y trafferthion sain a gafwyd ar nos Wener yn yr Adam & Eve - fe wnaeth hyn ddifetha set Gareth Phillips i raddau.

Achlysur Roc a R么l

Gweld Ed Holden o Genod Droog yn perfformio set o ganeuon rap yn gwisgo coron Burger King oedd yn amlwg wedi ei ddwyn oddi ar Derwyddon Dr. Gonzo. Clasur!

Beth sy'n aros yn y cof?

Crynodeb Aled, canwr Supergene o Tyrfe Tawe - "Pobl Cymraeg, Pobl Saesneg, Cafe Mambo, Brigyn, ff*!@拢& gret!"

Talent gorau'r ?yl

Amledd, ond Billy Thompson yn enwedig - athrylith!

Marciau allan o ddeg

9

Un gair am yr ?yl

Trydanol!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?

Roedd cymysgedd gwych o sesiynau yn ystod yr wythnos yn arwain i fyny at yr uchafbwynt nos Sadwrn. Roedd ymdeimlad o ?yl o'r dechrau i'r diwedd.

Er gwaethaf nifer o banics munud olaf (newid lleoliad, bandiau/artistiaid yn tynnu allan, a.y.b.) roedd yr ?yl yn llwyddiannus dros ben!

Gwnewch yn si?r eich bod chi'n clywed Derwyddon Dr. Gonzo yn y Ddawns Ryng-gol fis Tachwedd.

Cysylltiadau'r We

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.