麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod      Bro Ogwr

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • India a Phacistan yn arbrofi ag arfau niwcliar.
  • Monica Lewinsky yn datgelu iddi gael perthynas rywiol 芒 Bill Clinton, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ac yntau yn gwadu'r honiad.
  • Ffrainc yn ennill Cwpan P锚l-droed y byd am y tro cyntaf yn ei hanes.
  • Ron Davies yn penderfynu mai yng Nghaerdydd fyddai adeilad y cynulliad.
  • Ron Davies yn cael ei dderbyn i'r Orsedd fel 'Ron O Fachen'.
  • Ron Davies yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwladol wedi iddo fod mewn digwyddiad 'anffodus' ar Gomin Clapham.
  • Gobeithion am heddwch yng Ngogledd Iwerddon wedi i bleidiau o'r ddwy ochr gytuno ar gyfamod all arwain at ffyrfio cynulliad.
  • Tim rygbi Cymru yn cael eu trechu'n ddrwg gan Lloegr a Ffrainc a chwestiynau yn cael eu gofyn am barhad y gystadleuaeth pum gwlad a dyfodol y timau Celtaidd.
  • David Trimble a John Hume yn ennill y Wobr Heddwch Nobel am eu hymdrechion i ddod 芒 heddwch i Ogledd Iwerddon.
  • Frank Sinatra, Simon D. Evans, Robbie James, Kenneth Loveland, Gwyneth Morgan, Tom Hudson, Jimmy Scoular, Hugh Cudlipp, Jenny Eirian Davies, R.Tudur Jones, Sin Pyrs, T.Arfon Williams,Sonny Bono, Tammy Wynette a Ted Hughes yn marw.

Archdderwydd               Dafydd Rowlands

Y Gadair

Testun. Cerdd mewn cynghanedd gyflawn: 'Fflamau'
Enillydd: Neb yn deilwng
Beirniaid: Gerallt Lloyd Owen, Robat Powel, Gruffydd Aled Williams
Cerddi eraill: Gwenallt Llwyd Ifan, enillydd y Gadair flwyddyn yn ddiweddarach, oedd y gorau.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Y Goron

Testun. Dilyniant o Gerddi: 'Rhyddid'
Enillydd: Emyr Lewis
Beirniaid: Menna Elfyn, John Gruffydd Jones, Alan Llwyd
Cerddi eraill: Yr ail oedd Grahame Davies. Yn y gystadleuaeth hefyd yr oedd dau o Brifeirdd y gorffennol, Si么n Aled ac Elwyn Roberts, ac un o Brifeirdd y dyfodol, Ifor ap Glyn.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dilyniant rhagorol o gerddi ac Amser yn thema iddyn nhw. Dilyniant cyfoethog o ran ei ddelweddau a'i fynegiant yn s么n am yr 'amser arall', sef yr amser a warchodir drwy gyfrwng atgofion, dychymyg a
breuddwydion rhag rhaib amser gwirioneddol.

Y Fedal Ryddiaith

Cyfrol o ryddiaith gyda chefndir diwydiannol
Enillydd: Eirug Wyn (Blodyn Tatws)

Tlws y Ddrama

Diddymwyd y gystadleuaeth ym 1993
 
Tlws y Cerddor

Michael John Charnell-White
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy