Ymateb a
sylwadau Alan Llwyd
Dyma awdl arall
sydd yn dangos y newidiadau cymdeithasol ac economaidd a gafwyd o fewn
hanner can mlynedd. 'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi
gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr
a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a
fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau
a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na
llawer ohonynt. 'Roedd y ffermwr bellach yn gorfod wynebu toriadau,
prisiau gwael, mynydd o ffurflenni, gwaharddiadau, a heintiau a grewyd
drwy i ddyn ymyrryd â natur. Dyna'r byd y mae'r awdl drist hon yn ei
adlewyrchu ac yn perthyn iddo.
Y Goron
Testun. Pryddest i
nifer o leisiau: 'Branwen'
Enillydd: Cen Williams
Beirniaid: Nesta Wyn Jones, Gwyn Thomas, John Roderick Rees
Cerddi eraill: I Ifor ap Glyn y dymunai John Roderick Rees roi'r Goron,
a byddai Nesta Wyn Jones wedi coroni Siân Northey oni bai am bryddest
Cen Williams. Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Ailadroddwyd
chwedl Branwen yn y Mabinogi yn grefftus iawn, gan roi i'r chwedl
arwyddocâd oesol. Y
Fedal Ryddiaith
Cyfrol o ryddiaith greadigol ar y thema 'Y Canol Llonydd'
Enillydd: Angharad Tomos (Wele'n Gwawrio)
Tlws y Ddrama
Diddymwyd y gystadleuaeth ym 1993
Tlws y Cerddor
Guto Pryderi Puw
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|