|
|
Lleoliad yr Eisteddfod Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- Moslemiaid yn llosgi llyfr Salman Rushdie, The Satanic Verses, a'r Ayatollah Khomeini yn galw am ddienyddio Rushdie.
- Rupert Murdoch yn cychwyn gwasanaeth teledu Sky.
- Trychineb Hillsborough, 95 o ddilynwyr pêl-droed yn marw.
- Cannoedd o Tsieineaid yn cael eu lladd gan eu llywodraeth eu hunain, gan gynnwys myfyrwyr a chefnogwyr democratiaeth ar sgwâr Tianamen, Beijing.
- Streic gan weithwyr rheilffyrdd, trenau tanddaearol a dociau.
- Yr orymdaith wrth-apartheid fwyaf yn Cape Town ers 30 mlynedd.
- Mur Berlin yn cwympo. Adeiladwyd y Mur ym mis Awst 1961 ac amcangyfrifir fod o leiaf 75 wedi eu lladd wrth geisio'i groesi.
- Streic dynion ambiwlans, a'r Llywodraeth yn galw'r Fyddin a'r Llu Awyr i helpu.
- Is-etholiad Bro Morgannwg, a Llafur yn ennill sedd a oedd unwaith yn gadarnle'r Torïaid.
- Syr Anthony Meyer yn cystadlu yn erbyn Thatcher am arweinyddiaeth y Torïaid.
- Cau gwaith glo Oakdale, yr olaf yng Ngwent.
- Cau gwaith dur Felindre, Abertawe. Erbyn diwedd y degawd dim ond tua 17,000
oedd yn gweithio yn y gweithfeydd dur, a 4,000 yn y diwydiant glo.
- Y pumed Refferendwm ar agor tafarndai ar y Sul yn gadael Dwyfor yn unig yn parhau ar gau.
- Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd yn golygu ymestyn yr ^Wyl i chwe diwrnod.
- Salvador Dali, Daphne de Maurier, A. J. Ayer, Laurence Olivier, Herbert von Karajan, Georges Simenon, Irving Berlin, Bette Davis, Vladimir Horowitz, Samuel Beckett, John Ogdon, Hirohito, Ferdinand Marcos, Syr Peter Scott, Dolores Ibarruri (La Passionaria), Ayatollah Khomeini a Thomas Sopwith yn marw.
Archdderwydd
Emrys
Y Gadair
Testun. Awdl: 'Y Daith'
Enillydd: Idris Reynolds
Beirniaid: Gwilym R. Tilsley, Branwen Jarvis, Gwynn ap Gwilym
Cerddi eraill: Cyril Jones oedd yr ail, ac Einion Evans oedd y trydydd. Yr oedd cerdd gan Medwyn Jones, awdur Y Cleciadur, yn y gystadleuaeth hefyd. |
|
|
|
Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd
Awdl farwnad fedrus a chofiadwy i'w fam, Elizabeth Reynolds, ond mae marwolaeth y Gymraes ddiwylliedig hon, un o gynheiliaid y Pethe a'r hen ffordd Gymreig o fyw, yn gyfystyr â marwolaeth math arbennig o Gymru iddo.
Y Goron
Testun. Dilyniant
o Gerddi: 'Arwyr'
Enillydd: Selwyn Griffith
Beirniaid: Bedwyr Lewis Jones, Nesta Wyn Jones, John Gruffydd Jones Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd Nid oedd y gystadleuaeth hon yn gystadleuaeth gref. Nid oedd Nesta Wyn Jones o blaid coroni unrhyw un o'r cystadleuwyr. Y Fedal Ryddiaith
Nofel ar gyfer pobl ieuainc
Enillydd: Irma Chilton (Mochyn Gwydr)
Tlws y Ddrama
Drama hir
Enillydd: Neb yn deilwng
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|
|