Ymateb a sylwadau Alan
Llwyd
Pan sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru ym
Mhwllheli ym 1925 symbylwyd ei sefydlwyr a'i harweinwyr gan safiad y Gwyddelod ym 1916. Adlewyrchir yr edmygedd
hwn o genedlaetholwyr Iwerddon yn Awdl Gwenallt. Cerdd alegorïol yw hon am
ddyfodiad y Mab Darogan i achub Cymru. Ymosodir ar Caradoc Evans, y llenor
Eingl-Gymreig, ynddi, a chlodforir H. R. Jones, prif sylfaenydd y Blaid Genedlaethol, a oedd newydd
farw. Awdl rymus yw 'Breuddwyd y Bardd'.
Y Goron
Testun. Pryddest: ' Y Dyrfa'
Enillydd: Cynan
Beirniaid: W. J. Gruffydd, Dyfnallt, J. E. Moelwyn Hughes
Cerddi eraill: Pryddest Dewi Emrys a ffafriai J. E. Moelwyn Hughes. Ymosododd yn hallt ar bryddest Cynan am ddefnyddio geiriau sathredig, a
gwrthododd ymddangos ar y llwyfan gyda'i ddau gyd-feirniad mewn protest yn
erbyn eu dyfarniad. Sarnicol oedd y trydydd i bob pwrpas, ac yr oedd gan
Amanwy, Gwilym R. Jones a Gwilym Myrddin, Prifardd coronog y flwyddyn flaenorol, bryddestau yn y gystadleuaeth.
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Ysbrydolwyd y gerdd hon gan genedlaetholdeb
hefyd, yn union fel yn achos awdl y Gadair, ond cenedlaethodeb y bêl yn
hytrach na chenedlaetholdeb y bleidlais oedd thema'r bryddest fuddugol. Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol
a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'.
Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi
wedi eu lled-Gymreigio. Bwriad Cynan, unwaith yn rhagor, oedd ymestyn ffiniau barddoniaeth Gymraeg, yn thematig ac o safbwynt geirfa. Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|