Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Wedi i'w gefnder, R. Williams Parry, ennill
gyda'i awdl ' Yr Haf' ym Mae Colwyn ddwy flynedd ynghynt, dyma un arall o'r
to ifanc cyffrous newydd yn ennill ei gadair gyntaf ac yn creu hanes. Ceir yn yr awdl
enghraifft gynnar o un o themâu mawr Parry-Williams, sef ymlyniad wrth fro.
Y Goron Testun. Pryddest: ' Gerallt Gymro'
Enillydd: T. H. Parry-Williams
Beirniaid: Ben Davies, yr Athro Syr Edward Anwyl, Gwili
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
Buddugoliaeth fawr ac
Eisteddfod gofiadwy i aelod arall o'r to ifanc o'r beirdd academaidd a
rhamantaidd, pobl fel T. Gwynn Jones, R. Silyn Roberts, W. J. Gruffydd ac R. Williams Parry. Pryddest yn y
traddodiad cofiannol yw hon eto, ond daeth Parry-Williams ag elfen bersonol i mewn iddi, oherwydd wrth ganu am hiraeth Gerallt am Gymru
o Baris yr oedd yn canu ei hiraeth ei hun. Yr oedd yn fyfyriwr yn Freiburg, Yr Almaen, ar y pryd.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|