麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1900 - 1913

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Bae Colwyn

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Edward VII yn marw, Si么r V yn dod yn frenin.
  • Enwi David, mab Si么r V, yn Dywysog Cymru.
  • Y Rhyddfrydwyr yn colli eu mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol.
  • Gwrthdaro rhwng Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi wrth roi'r drafodaeth am annibyniaeth i Gymru a'r Alban o'r neilltu.
  • Swffragetiaid yn ymosod ar y Prif Weinidog, Asquith.
  • Cychwyn cyfnod yr 'Aflonyddwch Mawr', sef y don o anniddigrwydd a ddaeth yn ffenomen ryng-genedlaethol.
    Terfysgoedd Tonypandy a phlismyn a milwyr yn ceisio cadw trefn.
  • Oherwydd atgasedd y goludog ac adwaith Seisnig yn erbyn Lloyd George, pardduwyd y Cymry mewn cyfrolau fel Perfidious Welshman.
  • John Rhys a Brynmor Jones yn cyhoeddi The Welsh People.
  • Capten Scott yn hwylio o Gaerdydd i Begwn y De ar y Terra Nova.
  • Florence Nightingale, Mark Twain, Tolstoy a Henri Rousseau yn marw.

Archdderwydd              Dyfed

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Yr Haf'
Enillydd: R.Williams Parry
Beirniaid: Dyfed, Berw, Pedrog

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Er bod hwn yn gyfnod o wrthdaro ac o aniddiddigrwydd ymysg rhai merched a gweithwyr, 'roedd y gerdd hon yn adlewyrchu meddylfryd y cyfnod Edwardaidd: cyfnod o ffyniant a chyfnod o heddwch a hawddfyd. 'Roedd mwy o amser i hamddena ar 么l i'r undebau ymladd am lai o oriau gwaith ac ar 么l cyllideb chwyldroadol Lloyd George. Awdl 'Yr Haf' yw un o awdlau gorau'r ugeinfed ganrif hyd y dydd hwn. Cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd rhyw fath o anterth ym 1910. Awdl am Anfarwoldeb Serch, sef un o brif them芒u'r beirdd rhamantaidd, oedd 'Yr Haf', ac 'roedd yn drwm dan ddylanwad cyfieithiad John Morris-Jones o benillion Omar Khayy芒m, fel llawer o gerddi'r Rhamantwyr.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Ednyfed Fychan'
Enillydd: Crwys
Beirniaid: Cadfan, Gwynedd, Gwili
Cerddi eraill: daeth Alafon yn ail.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Pryddest arall ar destun hanesyddol, dull o ganu a oedd wedi hen chwythu ei blwc erbyn 1910. Pryddest anarbennig yw pryddest Crwys.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937

Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993

Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 

Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy