Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pontrhydfendigaid
Y rhychwyr yn barod i waith! Atgyfodi Rhaw Aberaeron
Yn ogystal â dathlu diwylliant gwerin Cymru, bu Gŵyl Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro 2007 yn atgyfodi hen draddodiad diwydiannol gwerin.

Fel rhan o'r gweithgareddau, cynhaliwyd cystadleuaeth rhychio, gan ddefnyddio ar gyfer y gwaith, Raw Aberaeron.

Rhaw drionglog gyda choes hir oedd Rhaw Aberaeron ac fe'i cynhyrchid yn y dref ar arfordir de Ceredigion a'i hallforio ledled y byd o'r harbwr lleol. Safai'r efail lle'i cynhyrchid ar lan afon Aeron ger hen felin wlân, ac un o'r cynhyrchwyr enwocaf ganrif yn ôl oedd Dafydd Davies Y Gof. Cai'r rhofiau eu llunio drwy eu stampio allan o ddur gan y Mwrthwl Mowr (Morthwyl Mawr), a chlywid sŵn y taro drwy'r dref.

Daeth gwneuthuriad Rhaw Aberaeron i ben ganol y ganrif ddiwethaf ond parhawyd y gwaith ymlaen i'r saithdegau gan Griff Jenkins, gof o Gwrtnewydd. Mae'r offer gan Griff o hyd, ac ar gyfer yr Å´yl Gerdd Dant, er iddo fod wedi hen ymddeol, cytunodd i gynhyrchu deg rhaw. Cant eu gwerthu i godi arian ar gyfer yr Å´yl.

Cystadleuaeth rychio
Cafodd y rhaw ei defnyddio hefyd mewn cystadleuaeth rychio a drefnwyd yn Llanerchaeron, nid nepell o'r dref lle cynhyrchid y rhofiau. Cynigiwyd gwobr arbennig iawn i'r rhychiwr gorau sef model efydd o Raw Aberaeron wedi ei chastio mewn efydd a'i gosod i sefyll ar bren a fu'n rhan o Ywen Dafydd ap Gwilym yn Ystrad Fflur. A chan fod y fynachlog wedi bod yn ganolfan amaethyddol yn ogystal â bod yn ganolfan grefyddol, rhaid bod y mynachod lleyg eu hunain wedi bod yn rhychwyr o fri. Bydd y rhaw fechan yn wobr a gaiff wedyn ei chynnig yn flynyddol ar gyfer y gystadleuaeth.

Yr enillydd eleni allan o bedwar ar ddeg o gystadleuwyr oedd Tomi Griffiths o Benuwch, gydag Aeron Daveis, Dihewyd yn ail a John Giant Griffiths o Ledrod yn drydydd.

  • 'Rhychwyr Llanerchaeron' gan Gwyn Evans

  • Mwy am Å´yl Gerdd Dant 2007



  • Trefi
    Radio Cymru
    Bws Â鶹Éç Cymru
    Lluniau


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý