Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Frizbee Gŵyl Maldwyn 2006
Gorffennaf 2006
Hanes gŵyl llwyddianus arall yn Maldwyn 2006.

"Mae 'na le i'r ŵyl yma, ddyn" oedd sylw treiddgar Arwyn Tŷ Isa, un o hoelion wyth diwylliant yr ardal, ar ddiwedd Gŵyl Maldwyn.

Yn anffodus, roedd 'na le i lot mwy o bobol yn y babell yn ogystal eleni. Pam hynny tybed? Oedd pris tocyn yn rhy ddrud i'r werin dlawd? Ddylai Frizbee fod yn perfformio'n hwyr y nos yn hytrach na ganol pnawn? Ddylai 'na rhywun o dan dri deg oed fod ar y pwyllgor? Ddylai'r babell fod yn nes fyth i Cian? Neu oedd y cant o bobol arhosodd yn Cian nos Sadwrn yn hytrach na mynd am y babell jyst yn uffernol o ddiog??

Oes, mae 'na bethe i edrych arnyn nhw wrth drefnu'r ŵyl nesa, ond bobol bech mi oedd 'na hwyl i gel yn y babell 'na 'leni!

Un o nifer o uchafbwyntie'r ŵyl i fi oedd slot Y Brodyr Jones nos Sul, yn enwedig pan gamodd un o enwogion sîn gerddorol Cymru ar y llwyfan i ganu efo nhw! Uchafbwynt arall oedd set wych Frizbee, ac un arall yn ddi-os oedd perfformiad Y Bardd Cwsg nos Wener! Roedd o'n lwcus o Iwan Llwyd i'w sadio a'i helpu i'r llwyfan!

Peth braf oedd gweld cymaint o bobol yn y babell i wrando ar yr ymryson. Rhoddodd Mei Mac y wobr gyntaf am yr arlunio i Emma Haf Morgan, Ysgol Llanerfyl, allan o ddwsine o luniau. Matilda, Ysgol Uwchradd Caereinion enillodd am farddoni, ac yn yr adran cynradd hŷn lestyn Davies, blwyddyn 5, Ysgol Dafydd Llwyd oedd yn fuddugol efo Aimee L.B, ac Ysgol Rhiwbechan yn fuddugol yn yr adran iau. Mae pwyllgor yr ŵyl yn addo fod y gwobre ar eu ffordd i chi'i gyd!

Tim y Cian a "feinciwyd" fel enillwyr yr ymryson. Diolch i Maurice Tŷ'n Rhos, Dolanog, am ei garedigrwydd yn rhoi'r hen fainc hynod yn rhodd i'r ŵyl. Hen fainc o Cae Eithin, Dolanog, yn wreiddiol. Diolch i Tycyr am ei staenio a'i phitshio! Da oedd gweld Pryderi yn yr ymryson, er iddo gael ei enllibio yn un o adroddiade d'wetha'r ŵyl yn y Plu.

I'r rhai oedd yn ddigon ffodus/hurt i fod ar ôl yn y babell tan dri o'r gloch nos Sadwrn/bore Sul, cafwyd perfformiad gwych gan Rhiain Bebb ar y delyn wrth y bar, yng nghwmni Geraint Lovgreen ac ambell dalent arall. Yno hefyd 'oedd rhyw impostyr oedd yn honni ei fod o'n dod o Lanuwchllyn, and gan nad oedd genno' gliw sut i ganu cerdd dant go brin ei fod o'n d'eud y gwir.

"Gwefreiddiol" oedd sylw un am berfformiad Linda a Lisa Healy, "Uchafbwynt yr ŵyl" oedd sylw un arall am berfformiad Arfon Gwilym. Pawb â'i broblem ddeda i!! Welwn ni chi fwyddyn nesa'.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý