Gyda Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol yn dyrchafu caneuon y West End, mae Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw wedi troi at waith sydd nid yn unig wedi'i gyfansoddi yng Nghymru ond sydd hefyd wedi'i wreiddio yn y profiad Cymreig.
Medd Gareth Ioan, awdur Clod y Cledd: "Mae digon o sioeau o Lundain ac Efrog Newydd wedi'u trosi i'r Gymraeg ar hyd y blynyddoedd. Ond yr hyn sy'n bwysig i barhad a thŵf ein diwylliant yw mynegiant o'r profiad Cymreig - ein golwg ni ar y byd, yn hytrach na chyfieithiad o brofiad pobol eraill.
"Yng Nghlod y Cledd, nid y geiriau yn unig sydd yn y Gymraeg ond yr holl synthesis o ddrama a cherddoriaeth Gymreig - y pethe hynny sy'n mynegi'n ffordd arbennig o fyw."
Comisiynwyd Clod y Cledd gan CIC! (Cwmni Ieuenctid Ceredigion), a pherfformiwyd hi gyntaf ym 1989. Gan ddefnyddio caneuon newydd gan Gerallt Lewis a Richard Jones ochr-yn-ochr ag emynau traddodiadol, grymus, mae'r sioe yn adrodd stori Gwilym, crwt di-dad sy'n ymateb yn frwdfrydig i'r cyfle y mae'r Ail Ryfel Byd yn ei gynnig iddo 'ehangu ei orwelion' a 'dianc' oddi wrth gefn gwlad Ceredigion.
Mae e'n troi clust byddar tuag at apêl daer ei fam er iddo sefyll gatre - nes i'r gwir y tu cefn i'w phryderon ddod i'r amlwg mewn modd poenus a dirdynnol.
Asgwrn cefn y sioe yw cyfraniad Côr Cardi-gân - côr pobol ifainc sydd â'i gartref yn Theatr Felin-fach ac sy'n canolbwyntio ar ddiddori cynulleidfaoedd ar hyd a lled cymdogaethau'r gorllewin.
Medd Rhian Dafydd, arweinydd y côr a Chyfarwyddwr Cerdd y sioe: "Mi o'n i'n rhan o'r cwmni a berfformiodd Clod y Cledd y tro cyntaf, ymron i 20 mlynedd yn ôl. Mae llawer oedd yn rhannu llwyfan â mi'r bryd hynny yn enwau cyfarwydd ledled Cymru bellach; pobol fel Ryland Teifi, Ioan Evans, Eleri a Meilyr Siôn a Lowri Steffan.
"Ond rhan o wefr y cynhyrchiad hwn i mi yw mai eraill o blith y cyn-aelodau yw'r tîm cynhyrchu bellach, gan gynnwys Dwynwen Lloyd Evans (y Cyfarwyddwr gwâdd) a'r gantores Caryl Glyn. Mae'r naill ffaith a'r llall yn arwyddocaol o bwysigrwydd y ddrama Gymraeg i barhad a datblygiad ein diwylliant cynhenid."
CLOD Y CLEDD - THEATR GYDWEITHREDOL TROED-Y-RHIW, MEWN CYDWEITHREDIAD Â THEATR FELIN-FACH A CHÔR CARDI-GÂN
LLWYFAN THEATR FELIN-FACH,
NOS IAU A NOS WENER, MAWRTH 30/31, 2006.
Cliciwch yma i ddarllen adolygiad o Clod y Cledd
|