Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Geiriau Be' chi'n weud?
Dyma restr o eirfa sy'n nodweddiadol i ganolbarth Cymru. Ysgrifennwch aton ni i ychwanegu eich geirfa chi at y rhestr hon! Llenwch y ffurflen ar waelod y dudalen hon.

Trafodaeth am dafodiaith Llanarth ar raglen Geraint Lloyd

Trafodaeth am dafodiaith Llanbed ar raglen Geraint Lloyd

Altro - newid

Bachan - bachgen

Bagio - sefyll ar rywbeth

Bech - bach

µþê³Ù - tamaid o fwyd

Bigitan - poeni / bod yn boendod

Bigits - digs, fel yn 'gad dy figits'

Blaid - beudy

Blino'n swps - blino'n lân / wedi ymlâdd

Bobi un / Bobo un - un yr un

Bracso - trio rhywfodd rhywfodd fel yn 'bracso drwyddi'

Brat - ffedog

Bubus / Bibis - "mae'r babi yn fubus - llefain o hyd"; cwynfanllyd

Browlan - siarad / hel clecs

Browlan fel cawl pys/fel ffatri bupur - siarad yn ddi-stop

Byti/ bythti - bron

cacs - cacennau

Cachgu bwm - bumble bee

Ca' sgwâr - gwely

Ca' nos gwely

Cerbyd - car

Cered -cerdded

Cial - cael

Cieth - cath

°ä¾±²Ô±ð²úê²Ô²õ - kidney beans

Clatsho - ymladd

Cleme - neud cleme (Neud siapse)

Clemio - Eisiau bwyd yn ofnadwy

Clipsen - bonclust

Clotchen - "turf"

'Clowt / clowten / clowts - clatshen / "gei di gwpwl o glowts os na watchi di" !

Clwbin - rhywun sy'n dwp

Clwtyn - cadach/ lliain/ 'cloth' - clwtyn golchi llestri/ clwtyn sychu llestri/ clwtyn llawr

Cog, cogie - bachgen, bechgyn

Conan - cwyno

Conen - menyw sy'n cwyno'n gyson

Cosi - crafu

Crasfa - ffeit

Cusus - losin

Cwato - cuddio

Cwdyn plastig - bag plastig

Cwter - ffos

Danto - cael llond bol/ rhoi fyny

Deche - yn iawn, cymeradwy (job ddeche, bachgen deche; lle deche)

Dim llefeleth - dim syniad

Drib drab - bob yn dipyn (mar pethe'n dod drib drab)

Drotshen - math o glawdd

Drycha' - yn lle edrycha

Dwgyn/ dwgyd - to steal

Dwyno - to dirty

Feddw whîls / Feddw gocls - yn feddw gocls

Fel Crafu - poendod

Fel heddi a fori - yn araf

Fel rhaca / Whitwat - di ddal

Fel soga - fel 'drip'

Ffald - rhywbeth tebyg i 'clos'

Ffardel - parsel bach o rywbeth neis

Ffest - cyflym

Ffili - methu

¹ó´Ú±ôŵ°ù - blawd pobi. (Blawd = bwyd anifail)

Ffyle - ceffylau

Garetch - moron

Garetshin / carotsen - moronen

Geneth - merch

Gepian - dylyfu gên

Glei - ydw glei

Grefi - Grêfi

Gwenwyno - cwyno

Gwenwn - hwyliau gwael fel yn 'ma gwenwn ar rywun'

Gwenwnllyd - y stâd o fod â gwenwn

Gwenwngast - merch gwynfanllyd

Harin - casau

Harten -cael sioc

Heddiw - fel ag yn "Heddiw'r bore" / "Heddiw'r pnawn" yn hytrach na bore heddiw, pnawn heddiw. "Mi awn ni yno fory'r bore."

Hemad - bwrw rhywun

Hen gogie - llafnau ifainc

Hen Sgrafell - menyw annifyr

Hongian, shilts, - feddw ofnadw

Hwnco Fynco - hwnna draw fan yna

Iet - 'gate'

Iou - iau ("mae hi'n iou na fe" - mae hi yn ifancach nag e)

Jiawl - diawl

Jibinc - menyw wedi gwisgo'n smart

Jibs/ Shapse - gwneud stumiau, yn enwedig plentyn bach

Lapan - hel clecs. "Mae lap arni" (mae'r ddynes yn un am hel clecs.

Lib-lab - yn ddibaid. "Mae'n siarad lib-lab."

Lletwad - 'ladle'

Llywethyr - darn o gorden i atal dafad rhag mynd yn rhy gloi oddi wrth yr oen

Lodes - merch

Macyn poced - hances boced

Matryd - Newid o ddillad dydd i ddillad nos i fynd i'r gwely

Mentyg / mencyd - 'to borrow'

Moelyd - troi drosodd fel yn 'moelyd y car'

Molead - meddwad

Mofyn - eisiau, ymofyn. "Mae'n moyn cweir."

Moyn - 'fetch'

Moilyd - troi drosodd

Mor dwp â stêm- yn dwp iawn.

'Mroi - neud rhywbeth ar bwrpas

Mynd i'r cyhudd - mynd i gysgod yr haul

Myntei - medde hi

Panni - Pan fydd dilledyn gwlân wedu mynd mas o shâp

Panso - trio'n galed

Piffgwn / piffgwnen - picwn

Pinco - ymbincio / coluro

Pipo - edrych

Pipo glaw - glaw mân

Pipo yn y glass - edrych yn y drych

Pisho - gwneud dŵr

Prifio - tyfu

Propor - tlws derbyniol (lodes bropor; mae'n edrych yn bropor)

Pwdel - mwd

Rip-rap - yr un peth na'r llall. Chwit chwat.

Rowtiau - olion olwyn cert

Rwto mâs -chwilio am rywbeth / dod o hyd i rywbeth. "Rwy wedi rwto fe mâs.

Sarnu - dau ystyr 1.sbwylio rhywbeth fel yn 'sarnu'r nosweth' 2. bwrw rhywbeth drosodd fel yn 'sarnu llaeth ar y carped'

Sbriws - bywiog

Sbrogian - 'rummage'

Scrwb - pam mae'r cyhyrau yn dost ar ôl gwneud rhywfaint o ymarfer corff.

Sgiffin - haen denau o eira

Shiffalaffs - tato 'di ffrio (hynny yw gweddillion cinio Dydd Sul i swper)

Shirobyn-aderyn (Roedd e'n dipyn o shirobyn = tipyn o dderyn)

³§¾±»åê³Ù - ychydig bach yn well na'i gilydd

Sidro - ystyried (o cysidro)

Sietin - gwrych

Socsen - dau ystyr, 1. hosan 2. 'punch' fel yn 'rhoi socsen i rywun'

Swclyn - Ebol

Swigw - Menyw gas

³§·Éî³Ù²õ - losin

Switsen - un losiynen

Swmpo - e.e. 'Ma'n rhaid swmpo cad'er buwch cyn ei phrynu'

Stingoedd - gwrychoedd

Syco - rhoi

Sycar - anifail sy'n sugno

Syri - mewn cyfarchiad, "Sut mae hi Syri?"

Tacle - bois drwg

Tato - tatws

Tecil - tegell

°Õê»å - tad

°Õê²Ô - tân

Tew fel mwt - yn dew iawn

Trangwls - rhyw bethau sy'n hongian (yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r hyn sydd gan ddyn hefyd!)

Trigo - wedi marw

Tropas - huddygl (soot)

Twei-twei-twei (galw gwartheg) - cyfraniad gan Rosemary Tudor o Aberystwyth.

uffernol - ofnadwy

wado -bwrw

Wap - yn y man - 'fyddai 'na wap'

Wban - llefain

Wedi 'laru - wedi cael llond bol

Wel y myn yffarn i! - Wel y jiw jiw!

Wes - oes

Whelpen - to whollop

Wheret / hergwd/wad - 'punch'

Whilber - berfa

Whilibowan - 'to dilly dally'

Whitho - chwitho

'Whys drabŵd/'whys domen/'whys stecs - chwyslyd iawn

Wiced - giât fach, llidiart.

Wmed - wyneb

Wtra - ffordd gul

Cyfrannwch i arolwg eang sy'n casglu geiriau tafodieithoedd y Gymraeg.


Cyfrannwch

Rhodri Lewis o Ddyffryn Aeron
...yr yffarn, e.e "golwg yr yffarn" - edrych yn wael.
Thu Feb 5 17:22:12 2009

Robert Lewis gynt o Rhaeadr Gwy
Wnt-twrch daearSgythyn-haenan o eira
Sun Feb 1 13:59:23 2009

tecwyn owen dolgellau - gynt o Sir Fôn
Cymydog yn galw yng nghartre fy mhriod (Eurwen Glynaeron Talsarn)yn Nyffryn Aeron ac wrth iddo ymadael yn hwyr y nos yn edrych yn syn arnaf wrth imi ei ddanfon at y drws ac wrth ffarwelio yn dweud "Wel, hwre rwan". Yr oedd yn amlwg nad oedd yn gyfarwydd â'r modd yma o ffarwelio!Cofiaf hefyd fod perthynas o bell i'm priod wrth fy nhyfarch yn fuan iawn wedi i mi briodi ac yn dymuno'n dda imi gyda'r geiriau "Priodas dda ichi a llawer ohonyn nhw".!!
Sat Jan 24 12:33:33 2009

Glenys Morgan, Penrhyncoch
Tatw yn ardal TregaronTato yn ardal Llanbed12 milltir rhyngddynt !!
Wed Dec 24 11:26:02 2008

Brynach Parri, Tregynter, Brycheiniog
Cwro - gwneud, paratoi: cwro bwyd i rywun, cwro'r gwely
Fri Oct 31 16:16:10 2008

Brynach Parri, Tregynter, Brycheiniog
Sglemo: cath yn dwyn bwydo o'r ford - Odi'ch cath chi'n sglemo?Tolet - Dowlod/croglofftAshglod - sglodion prenBwrw slap - bwrw eirlaw/odlawLlywa - Ymagor, ionanMotriwilen - madfallMynaren - MaharenSgrin - ArchTraeth - pwll bas o ddwr ar ben mynyddStilen - clorianOci - dwr yfed, a llys enw dyn y llaethSenser - gold yr ydSgimbren -lle mae'r ieir yn clwydo dros nosCroes - llwybr tarw
Fri Oct 31 16:10:25 2008

Wyn Davies o Langynnwr, ger Caerfyrddin
Gair gan mam sy'n byw yn Nyffryn AeronClambar - "mae'n ormod o glambar" - sef yn rhy fawr.
Sun Jul 20 22:18:50 2008

Joyce Magor nawr o Lundain
Saeson yn aros dros nos yn ty fy ewyrth Alcwyn.Dim ond fe oedd yn y ty a dim rhyw lawer o siap arno.Rhoi cwpaned o de i'r ymwelwyr a anghofio y llwye a dweud" To turn your tea with"a rhoi strainer blawd i gael gwared ar y dail te. BillBailey oedd yr enw ar y rhain ar dop y cwpan.Roedd na ddyn yn byw yn y pentre or enw ac yr oedd ganddo globen o fwstash!
Tue Jul 1 09:43:41 2008

Gwyneth o Landysul
panso - cymeryd gofal i wneud rhywbeth
cleren/clatshen jub - pwdi
cwato - chwarae cuddio
cinabens - runner beans
bigitian - poeni yn ddi-ddiwedd
clwtyn llestri/llawr - cloth
aeth yn ei hyd
moyn - yn eisiau rhywbeth

Wed Apr 30 18:21:53 2008

G. Price o Lanwrtyd
"Hyd y twret" = llawn i'r top
"Hyd y styden" = wedi meddwi'n gaib

Mon Apr 28 16:30:24 2008

Gwyneth o Landysul
yn feddw shils
trontol - dolen cwpan neu jwg
lletwad - llwy i godi cawl
bracso - rhoi traed yn dwr y mor

Fri Apr 18 16:40:10 2008

Lynwen Roberts, Llangadfan
Ceth fech les yn y glew!!!
Tue Jan 29 10:38:57 2008

Beryl Davies, Llanddewi Brefi
'Roedd Tad-cu Cwrt-Y-Cadno yn saer coed ar ystâd Dolaucothi, a Syr Hills Lloyd Johnes yn gofyn iddo, "What happened to your hand William?" Gallwch ddychmygu beth oedd cyfieithiad tad-cu am CACHGU BWM (yn ôl ei gydweithwyr) pan atebodd - "A Boom S--t pricked me Sir!"
Wed Jan 16 01:35:38 2008

Delyth. Yn wreiddiol o Rhydlewis
Sdim ots - Dim bwys
Wed Aug 29 15:41:28 2007

Glenys Evans o Fydroilyn
Swch - y rhan o'r wyneb o gwmpas y ceg a'r gên. Byddai Mam wastad yn dweud "Sych dy swch!"
Mon Jun 25 14:22:41 2007

Aled jones o Benrhiw-Pâl
sgyrnigo - to winge
waildamsgen - i droedio ar rywbeth
tishal - i disian
chimo - 'chi'n gwybod'
clime - 'cleme', 'gwneud ystumiau'
mynd yn fagle i gyd - mynd a'i wynt yn ei ddwrn
yn feddw caib, yn dablen (c)hwil,yn gorlacs,yn shils,yn gaib, yn feddw dwll glatsh
rhywbeth 'clammy'

Tue Jun 19 17:13:25 2007

Catrin Jones o Bwlch Llan
Roedden ni fel teulu hefyd yn dweud matryd neu matri am newid cyn mynd i'r gwely!
Mon Apr 30 21:20:15 2007

Ffion o Lambed
Gair i fi wastad yn defnyddio yw "stecs" -as in "lib stecs" (yn wlyb stecs - soaking wet)!
Wed Dec 20 21:50:30 2006

Mererid Williams o Dalybont
Dwi a fy nheulu yn defnyddio'r gair "moyn" gan feddwl "eisiau", yn ogystal a "fetch". h.y "fi rili moyn y ffrog 'na".
Wed Dec 20 18:11:28 2006

Lowri Jones o Synod
'mynd yn i hyd' - rhywyn yn cwympo
'hyd y twret' - bod rhywbeth yn llawn i'r top

Tue Oct 31 16:23:33 2006

Natalie Moore o Lambed
Fi wastad yn dweud 'twmo' sy'n fyr am 'ti'n gwbod'! A hefyd 'Sai Mo' am 'Dw i ddim yn gwybod'!
Fri May 5 19:18:35 2006

John Davies, nawr o Gaerdydd
Ar Fynydd Bach, y gair am wasp yw piffgu
Thu Mar 23 17:03:55 2006

Dafydd Lewis, Aberystwyth
Dod yn wreiddiol o Ddyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn. Ein gair ni am bet oedd baet. Hefyd roedd gennym air am fodryb nad yw wedi ei gynnwys yn rhestr y canolbarth sef 'Bodo' 'Ffebrins' wedyn oedd ein gair am Eirin Mair.
Thu Mar 23 16:52:10 2006

Elin yn wreiddiol o Geredigion
Matryd - newid i fynd i'r gwely, hynny yw newid i ddillad nos o ddillad dydd.
Oes unrhyw un arall yn defnyddio'r gair yma? Dw i ddim wedi clywed neb heblaw am fy nheulu yn ei ddefnyddio erioed!

Wed Aug 17 10:50:04 2005

Iwan Llywelyn o Aberaeron
Pipo glan - Glaw man
Thu Jul 14 14:32:12 2005

Yvonne o Geredigion
pipo yn y glass = edrych yn y drych;

tropas = huddygl ('soot' e.e yn y simdde)


Sat May 14 14:33:39 2005

Garmon Ceiro o Dole, Bowstreet
Harin = casau
Thu Mar 24 13:38:03 2005

Nia Evans o Geredigion
Panso – trio’n galed; Wheret/Hergwd/wad – ‘punch’; Crasfa/hemad – ffeit; Whilibowan – to dilly dally; Bigitan – poeni/bod yn boendod; Bigits – digs, fel yn ‘gad dy figits’; Garetshin/carotsen - moronen; Socsen –dau ystyr 1. hosan 2. punch fel yn ‘rhoi socsen i rywun’; Pinco – ymbincio/coluro; Clwtyn – cadach/lliain/‘cloth’ – clwtyn golchi llestri/clwtyn sychu llestri/clwtyn llawr; Macyn - hances; Iet – ‘gate’; Danto – cael llond bol/rhoi fyny; Wedi ‘laru – wedi cael llond bol; Byti/bythti – bron; Blino’n swps – blino’n lan/ wedi ymlâdd; Mwrc/Mycnabs; Dwyno – to dirty; Bracso – trio rhywfodd rhywfodd fel yn ‘bracso drwyddi’; Mentyg/mencyd – to borrow; Browlan – siarad/hel clecs; Browlan fel cawl pys/fel ffatri bupur - siarad yn ddi-stop; ³§¾±»åê³Ù – ychydig bach yn well na’i gilydd; Sarnu – dau ystyr 1. sbwylio rhywbeth fel yn ‘sarnu’r nosweth’ 2. bwrw rhywbeth drosodd fel yn ‘sarnu llaeth ar y carped’; Lapan – hel clecs; Moelyd – troi drosodd fel yn ‘moelyd y car’; Moelad - meddwad; Fel Crafu - poendod; Wap – yn y man - ‘fyddai ‘na wap’; Conan - cwyno; Conen – menyw sy’n cwyno’n gyson; Jibs/ Shapse – gwneud stumiau, yn enwedig plentyn bach; Drotshen – math o glawdd; Gwenwyno - cwyno; Gwenwn – hwyliau gwael fel yn ‘ma gwenwn ar rywun’; Gwenwnllyd – y stâd o fod â gwenwn; Gwenwngast – merch gwynfanllyd; Bibis - cwynfanllyd; Dwgyn/dwgyd – to steal; Fel rhaca - di ddal; Whitwhat – di ddal; Ca’ nos - gwely; Lletwad – ‘ladle’; ‘whys drabwd/’whys domen/’whys stecs – chwyslyd iawn.
Tue Feb 15 16:13:15 2005

Elin o ddyffryn Aeron
Garlibwns - 'cwmpo yn garlibwns' yw 'syrthio bendramwnwgl'; ffrwcs - e.e. mae lot o ffrwcs ar dy ddillad di (darnau o fflwff etc)
Thu Jan 27 16:56:07 2005

Gwyneth o Landysul
scrwb - pan fydd y cyhyrau yn dost ar ol gwneud rhywfaint o ymarfer corff
Tue Jan 25 13:07:57 2005

Wini Davies, Aberystwyth
de Meirionnydd: prifio am tyfu (mae'r cog bech wedi prifio'n ofnadwy).
Mon Jan 24 14:19:39 2005

E. Davies, Llanbedr Pont Steffan
³§·Éî³Ù²õ - losin Switsen - un losin
Fri Jan 21 15:46:49 2005

N. Jones
Ffardel - parsel bach o rhywbeth neis; Hen Sgrafell - menyw annifyr; Roedd e’n dipyn o shirobyn - tipyn o dderyn; Mynd i’r cyhudd - mynd i gysgod yr haul; Cusus - losin; Plentyn yn fubus - yn llefain o hyd; Llywethyr - darn o gorden i atal dafad rhag mynd yn rhy gloi oddi wrth yr oen; Trangwls - rhyw bethau sy’n hongian – yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r hyn sydd gan ddyn hefyd!; Dim llefeleth - dim syniad;
Thu Jan 20 12:01:04 2005

Wini Davies o Aberystwyth
Byddai nain (o Lanwrin ger Machynlleth) yn dweud macyn poced am hances boced a moyn am 'fetch'. Geirau dwi ddim wedi eu clywed ers blynyddoedd ydy bagio (sefyll ar rywbeth) a sbrogian ('rummage'). Dwi ddim yn gwybod ble clywais i'r geirau yna gyntaf gan fy mod wedi byw yn Llanfairfechan, Llanarmon (ger Pwllheli) a Harlech dros y blynyddoedd, cyn symud yma
Wed Jan 19 14:59:55 2005

Tom Thirgood o Dal y Bont ar Wysg
"Clwbin" - rhywun sy'n dwp
Wed Jan 19 14:13:47 2005

Eluned o Dregaron
Swigw - Menyw gas, Swclyn - Ebol, Clotchen - "turf", Fel heddi a fori - yn araf, Fel soga - fel "drip", Panni - Pan fydd dilledyn gwlân wedu mynd mas o shâp, Clemio - Eisiau bwyd yn ofnadwy.
Wed Nov 10 11:46:51 2004

Hal o Ledrod
wado-bwrw, clatsho-ymladd, cered-cerdded, syco-rhoi,
Fri Oct 22 14:50:22 2004

Rhian Jones o Dregaron
Cwato - cuddio. hongian, shilts, - feddw ofnadw. uffernol - ofnadwy
Sat Sep 4 15:31:03 2004

Meriel Ralphs o Benrhyn-coch
clipsen - bonclust whelpen- to whollop jibinc- menyw wedi gwisgo'n smart (female equivalent of a male dandy) harten-cael sioc Hoffem dynnu sylw at cinebens, sef 'kidney beans' neu 'broad beans' yn y Saesneg nid 'runner beans'
Wed Jun 23 16:40:11 2004

Ieuan Evans o Gwm Cou
Rydym ni fel teulu wastad wedi defnyddio'r gair 'shiffalaffs' am dato 'di ffrio (hynny yw. gweddillion cinio Dydd Sul i swper).
Fri Jun 18 15:31:48 2004


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý