Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Hiwmor Y Cardi Llyfr i Gardi
Hiwmor oedd y nod a hiwmor, yn wir, oedd naws noson lansio llyfr newydd Emyr Llewelyn - Hiwmor y Cardi ar y 3ydd o Ebrill, 2006.
Roedd y Llew Du yn Llambed yn fwrlwm o bobl wedi troi allan i fod yn rhan o lansiad swyddogol y llyfr digrifwch hwn. Pan gyrhaeddais roedd criw S4C yn brysur yn ffilmio Emyr Llewelyn ar gyfer y rhaglen Wedi 7. Rhoddwyd cyfle, tra'r oedd hyn yn cymryd lle, i bobl ymgasglu wrth y bar cyn cymryd eu seddau am noson o adloniant heb ei ail ymysg rhai o ddigrifwyr amlycaf Cymru.

Croesawyd y gynulleidfa gan Alun Jones o Bow Street cyn i Emyr Llewelyn gymryd yr awenau a chyflwyno artist cyntaf y noson - John Meirion Jones. Aeth John ati'n syth i gael y gynulleidfa i ganu cyn mynd ymlaen i'n diddanu â straeon o'r cyfnod pan fu'n athro. Cyflwynwyd yr awenau wedyn i Betty Davies a Gareth Davies o Dalsarn a fu'n difyrru gyda phenillion a jôcs.

Bu bron i mi fethu sefyll ar fy sedd am chwerthin wrth i'r noson fynd yn ei blaen gyda Garnon Davies o Ffostrasol yn adrodd jôcs. Roedd hi'n amlwg mai dyma oedd naws y noson i weddill y gynulleidfa hefyd. Aethpwyd ymlaen i'n difyrru wedyn gan Gret Jenkins, Mair Garnon James, Lyn Ebenezer a Hywel Lloyd - pob un ohonynt yn amlwg yn feistr ar ddawn y cyfarwydd.

Clowyd y noson gan sgets a'i cyflwynwyd gan bobl leol o ardal Y Gambo yn bennaf. Roedd hon eto yn werth ei gweld ac erbyn i Emyr Llewelyn orffen diolch i bob un o'r artistiaid a chloi'r noson roeddwn i'n dal i fod yn chwerthin.

Nid wyf wedi cael cyfle i roi cipolwg ar Hiwmor y Cardi eto ond os yw unrhyw beth yn debyg i'r hiwmor a gafwyd ar y noson lansio (ac rwy'n siŵr ei fod) yna prynwch ar unwaith! Rwy'n siŵr y bydd unrhyw gardi gwerth ei halen yn fodlon talu £4.95 am y trysor bach hwn.

Adolygiad gan Heilin Thomas.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý