Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Coda Coda
Llwyddodd y band Coda gyrraedd trydydd rownd Brwydr y Bandiau ar ôl chwarae yng nghystadleuaeth C2 yn Llanidloes ar 17 Chwefror 2006. Dyma eich cyfle i gwrdd â'r band!

Gwybodaeth o

Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Cliciwch yma i ddarllen adolygiad o Cerdded

    "Pedwar bachgen ifanc o ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi a Llanbedr Pont Steffan sydd wedi dod ynghyd i greu band Roc a Rôl dwyieithog. Cewch ganeuon sydd yn croesi'r degawdau o Chuck Berry, Edward H. Dafis i Guns & Roses. Ond mae na fwy...

    Swnami oedd enw gwreiddiol y band ond oherwydd y drychineb a ddigwyddodd yn 2004 penderfynodd y band i newid yr enw i CODA. Chwaraeodd y band nifer o gigs llewyrchus nes mis Mehefin, ond yn anffodus gadawodd y gitarydd blaen oherwydd ei fod yn chwarae mewn band arall, hefyd roedd eisiau dilyn ei steil ei hun o gerddoriaeth. Aeth nifer o fisoedd heibio ond yna ymunodd Owain â Dafydd, Steff ac Aled. Dyma ffurfio'r band ar ei newydd wedd.

    Mae Dafydd, prif ganwr a chwaraewr yr allweddellau yn ysgrifennu ei ganeuon ei hun i'r band felly byddwch yn siŵr o gael gig gyda digon o amrywiaeth. Mae yna egni a brwdfrydedd yn y band yma gyda cherddoriaeth sy'n adlewyrchu hyn felly gallwch fod yn siŵr fod na noswaith o ddawnsio brwd a hwylus o'ch blaen.

    Cwrdd â'r Band

    Dafydd - canu, allweddellau a chyfansoddi

    Hoff grŵp - Coldplay, Stereophonics
    Hoff ganwr - Robbie Williams
    Hoff ddiddordebau - Drama a Cherddoriaeth, Pêl droed, Rygbi ac yn dilyn gêmau'r Scarlets a Lerpwl

    Mae Dafydd yn fachgen talentog ac yn cymryd rhan ym mhob math o weithgareddau. Aelod o sawl côr ac yn un o brif gymeriadau Panto Felinfach.

    Fe ddaeth cân Dafydd 'Ar noson fel hon' yn agos i'r brig yn 'Cân i Gymru'. Mae'r gân hon yn rhan annatod o ganeuon y band.

    Aled - "aelod mwya deinioadol y band"!

    Aled oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i ddechrau'r band gwreiddiol.

    Hoff grŵp - Stereophonics, Led Zepplin
    Hoff ganwr - Kelly Jones
    Hoff ddrymiwr - John Bonham
    Hoff ddiddordebau - Chwarae yn y band, Pêl droed, Rygbi ac yn dilyn gemau'r Scarlets a Chaerdydd gyda Barry John fel ei arwr mwyaf.

    Owain

    Hoff Gitâr - Gibson Les Paul (Slash Custom).

    Mae Owain wedi bod yn chwarae y gitâr ers pum mlynedd.

    Hoff grŵp - Guns N' Roses
    Hoff gitarydd - Slash a Eric Clapton
    Hoff ddiddordebau - Chwarae gitâ, Gemau ar y cyfrifiadur enwedig y PC, PS2 a nawr y PSP.

    Fe ddaeth Owain yn aelod o'r band ar ddiwedd mis Awst 2005 ar ôl i'w dad gwrdd â tad Dafydd a Steffan a dechrau siarad am ddiddordebau'r meibion.

    Steffan

    Hoff grŵp - Blink 182, The Killers
    Hoff ddiddordebau - Chwarae'r gitâr bâs, Pêl droed a Rygbi, gyda Ray Gravell fel ei arwr o oes Euraid Cymru. Ym myd Pêl droed Ryan Giggs yw ei hoff chwaraewr.
    Hoff gitarydd bâs - Dad "Fe ddysgodd popeth i fi ond nawr rwy'n well na fe. Hefyd rwy'n hoffi gwrando ar Mark Hoppus (Blink 182) a Mark Stoermer (The Killers) yn chwarae".

    Gwybodaeth o

    Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


  • Cyfrannwch

    Ceri
    Coda 10/10!!!!!!!!!

    Kelly Fleming o Machynlleth
    Waw!! bechgyn - dwi'n lyfio chi!! chi'n awsome!! dewch i neud gig yn mach tho! swsus mawr! Kel! xxx

    bois aberystwyth!
    class music bois! o chi amazing yn eisterfod! keep it up! ond newch mwy o gigs yn aberystwyth! :D

    Preseli
    Helo! Weles i ti Dafydd heddi yn fy ysgol a we ni'n meddwl bo t'n rili gwd-looking! Edrych mlan i'r gig yn Llandudoch nos Sadwrn!! Gobeitho y byddwch yn gwneud mwy o gigs yn ardal Crymych rhywbryd! xxx

    Megan - Preseli
    Da iawn am ennill Brwydr y Bandie! Chi'n rili dda! V d bod n cwpwl o gigs chi a d joio mas draw! Ma ishe chi neud un n Crymych rhywbryd! xxx

    'Sandwich' o Ysgol Llambed
    Llongyfarchiadau am enill brwydr y bandiau, chi'n amazing (especially y guitarist :D)...Pob Lwc am y dyfodol !!!

    heledd wyn-ysgol dyffryn teifi **
    chi'n imens..vn grondo i c2 nawr daf!! a ma da v'r ffon mas n barod!! pob lwc!! xxx

    Merched bl.10
    Chi'n fab!! cariad Hannah,Catrin,Angharad,keeva a Sarah


    Wyt ti 'di clywed Coda yn chwarae? Beth wyt ti'n feddwl o'r grŵp? Cyfrannwch isod neu os wyt ti'n aelod o band yn y canolbarth anfonwch eich manylion i'r safle yma.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý