Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dafydd Iwan yn perfformio yn Eisteddfod yr Urdd Rhuthun 2006 Goreuon Dafydd Iwan
Gorffennaf 2006.
Adolygiad o'r albwm 'Goreuon Dafydd Iwan' gan Dylan Davies.
Wedi i mam glywed bod C.D. gan Dafydd Iwan yn cyrraedd y siopau roedd rhaid mynd y funud honno i'w phrynu. Dyma 'r genedl a fyddai'n arfer dilyn perfformwyr Canu Pop cynta Cymru , pobl fel Huw Jones, Hogiau'r Wyddfa , a Hogiau Llandegai. Yn fy marn i nid yw canu pop Cymraeg wedi symud ymlaen rhyw lawer ers y dyddiau cynnar yma.

Yn groes i'r graen rhaid oedd eistedd i wrando arni . Nid wyf i'n rhy hoff o wrando ar y math yma o ganu.

Rydym fel cenedl yn ymwybodol o gyfraniad Dafydd Iwan i'r canu ysgafn a chanu protest yng Nghymru ers pedwar degawd a'i ddylanwad ar yr iaith Gymraeg.

Y peth cyntaf a'm trawodd wrth edrych ar glawr y C.D. mor syml ydoedd, sef llun o'r canwr a'i enw wedi ei lofnodi ganddo yn ei lawysgrifen. Prawf nad oes rhaid wrth unrhyw gimig i werthu unrhyw C.D. gan Dafydd Iwan.

Agor y cas a gweld nodiadau ar y caneuon yn Saesneg. Mae hyn yn rhywbeth newydd a fedrai annog y di Gymraeg i brynu recordiau Cymraeg.

Wrth wrando ar y caneuon sylwais nad yw yr arddull, ar wahan i offerynnau ychwanegol gael ei adio at y gitâr ac ambell i gân yn cymryd tempo cyflymach wedi newid o gwbwl ers imi glywed rhai o recordiau cyntaf gan mam rai blynyddoedd yn ôl.

Un peth sy'n amlwg, mae Dafydd Iwan yn medru canu mewn tiwn trwy gydol y caneuon. Mae ganddo neges yn ei ganeuon nid gweiddi, neidio a sgrechian dros y llwyfan fel a welwn gan rai o'r grwpiau pop ein hoes ni.

Rydym yn cymharu Dafydd Iwan gyda chymreictod. Daw hyn i'r amlwg yn y gân "Wrth feddwl am fy Nghymru". Cân a gyfansoddwyd ganddo yn y 1960au. Mae ei ganeuon bob amser yn amserol ac yn oesol er engraifft 'Hawl i Fyw' sy'n delio â thlodi yn y Trydydd Byd. Ac er i'r lluniau ar y sgrin ein cyffroi i roi'n dwylo yn ein pocedi, dros dro yn unig mae'n haelioni'n para. Yr un yw hawl plentyn ym mhob rhan o'r byd, ond er gwaetha pawb a phopeth bydd hwn yn broblem sy gyda ni, ac a fydd gyda ni tra pery dynoliaeth.

Wrth wrando ar y caneuon gwelaf fod llawer o'r caneon yn deyrnged i bobl sy'n meddwl llawer iddo, pobl fel D.J., Mandela a Saunders Lewis .. Cenedlaetholwyr bob un.

Dim ond un beirniadaeth sy gennyf, mae'n drueni na fyddai wedi cynnwys rhai o ganeuon megis "gee geffyl bach" neu "cân Mrs. Thatcher" rhywbeth efallai i ysgafnhau'r gwrando.

Wrth ddod at ddiwedd gwrandawiad y C.D. rhaid imi gyfadde fy mod wedi cael fy hudo gan Dafydd Iwan ac yn medru gweld pam fod mam yn gymaint o ffan. Mae'n gas gennyf orfod cyfadde nad oes gennym ni, yr oes heddiw, neb a ddaw i esgidiau Dafydd Iwan. Trueni na fyddai'n trefnu taith er mwyn hyrwyddo'r C.D.

Tybed a fydd rhagor o "Oreuon Dafydd Iwan " yn gweld golau dydd cyn bo hir?

Adolygiad gan Dylan Davies

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


Cyfrannwch

Kate Marland o Fflint/Cymru
Rydyn wedi bod yn dysgu y gân hawl i fyw yn ein wersi cor yn ein hysgol (Maes Garmon yr wyddgrug) ac wnaeth o wneud i fy ffrind crio, rwyn hoffi y can n fawr iawn ac mae'n rhaid canu o ar ben ein hun gwers nesa!!

Caryl a Gwen o ardal fynyddig ger Llanrwst
Hoff iawn o'r gân "hawl i fyw". Ei chanu mewn parti merched. Pawb wedi dotio. Ymateb trist ond eto hapus. Diolch D.I!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý