Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Fflur Dafydd Bont yn Croesawu Fflur
Bydd y Pafiliwn newydd ym Mhontrhydfendigaid yn croesawu enillydd Medal Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, Fflur Dafydd, ar gyfer noson arbennig iawn o adloniant ar Nos Iau 26ain Hydref.
Mae'r aml-dalentog Fflur yn adnabyddus am ei gwaith llenyddol a cherddorol ers rhai blynyddoedd bellach, ond mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un fawr iddi gan ryddhau ei halbwm unigol cyntaf, 'Coch am Weddill fy Oes', ac yna ennill prif wobr lenyddol Cymru am ei nofel Atyniad. Bydd cyfle i'r gynulleidfa flasu ychydig o'r ddau dalent yn Bont wrth iddi berfformio set acwstig o'i chyfansoddiadau diweddaraf, yn ogystal â darllen detholiad o'i nofel buddugol.

Dyma fydd y cyntaf o'r nosweithiau misol 'Bontcwstig' a fydd yn cael eu cynnal ym Mar y Pafiliwn, a'r bwriad yn ôl y trefnwyr yw i ddarparu nosweithiau ysgafn o safon yn awyrgylch hamddenol yr ystafell.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Dewi Siôn Evans, "does dim digon o weithgareddau fel hyn yn digwydd yn yr ardal ar hyn o bryd, a does dim esgus erbyn hyn gyda'r adnodd gwych sydd gennym yn Bont. Wrth gwrs, mae croeso i unrhywun ymuno â ni i helpu trefnu'r digwyddiadau hyn."

Mae Rheolwr y Pafiliwn, Owain Schiavone yn gweld cynnal digwyddiadau bychain fel hyn yr un mor bwysig â denu rhai mawr i'r adnodd, meddai, "rydym yn awyddus iawn i weld pobl leol yn cymryd mantais o'r Pafiliwn trwy gynnal gweithgareddau amrywiol. Mae'n bwysig i bobl gymryd perchnogaeth o'r Pafiliwn a'i ddatblygu fel canolbwynt i'r gymuned."

Am fwy o fanylion ynglÅ·n a'r noson gallwch ffonio'r Pafiliwn ar 01974 831 635.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý