Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Canolfan y Mileniwm Caerdydd Starlight Express yn "anghredadwy"
Teithiodd Natalie Moore Davwen o Lambed i fae Caerdydd i weld y sioe Starlight Express yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a chafodd ei phlesio ...
Lle a phryd
Perfformiad yn cael ei lwyfannu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 11eg -29ain o Ebrill, 2006.

Yr actorion
Roedd Mykal Rand (yn chwarae 'Electra') yn dod â'r perfformiad yn fyw efo'i symudiadau robotaidd a thrydadol. Miria Parvin (yn chwarae 'Pearl') hudodd y gynulleidfa â'i llais melfedaidd. Oliver Thornton chwaraeodd 'Rusty', trên stem daeth i'r brig yn y ras derfynol. Tom Kanavan oedd yn chwarae 'Greaseball'; hync y noson! Roedd ei lais braidd fel un Elvis, 'sdim ryfedd fod 'Dinah the dining car' yn dwli arno! Rhaid sôn am Michael Samuels chwaraeodd 'Poppa', roedd ei lais dwfn yn berffaith am y caneuon blues.

Awyrgylch
Ro'dd 'na awyrgylch wych yn y Ganolfan yng Nghaerdydd efo pob sedd wedi'i chipio. Bu'r gynulleidfa yn ymateb yn dda i'r caneuon ac yn y mannau digri hefyd.

Cân orau'r noson
Rhaid dweud fod caneuon Andrew Lloyd Webber wedi cael eu canu'n broffesiynol iawn a bod y coriograffi gan Leyla Pellegrini a symudiadau sglefrio Andrew Millar wedi perffeithio perfformiad disglair y cast felly anodd yw coroni un gân. Gan fod deuawd 'Pearl' a 'Rusty' yn olygfa 'Only He' wedi dod â deigryn i'm llygaid, dyma'r un orau yn fy marn i.

Disgrifiad o'r perfformiad
Roedd awyrgylch egnïol ar y llwyfan efo'r holl fynd y sglefrwyr. Roedd brwdfrydedd y cast ynghyd â'r dawnsio yn edrych fel pe bai wedi cael ei animeiddio ac felly yn rhoi delwedd annynol i'r perfformiad.

Y Ffilm
Pan oedd 'na ras rhwng y trenau, roedd ffilm 3D yn ymddangos ar y llwyfan. Bu'n rhaid i'r gynulleidfa wisgo sbectol 3D i weld y ffilm yn dod yn fyw. (Bu ambell i sgrech i'w glywed pan ymddangosai fod gwrthrych yn dod amdanom!)

Y set, golau a'r gwisgoedd
Roedd y set yn symud yn gyson er mwyn caniatau lle i'r sglefrwyr wneud eu triciau. Gwnaeth Howard Eaton ddefnydd gwych o'r goleuadau llachar a fywiogodd y llwyfan. Gwisgoedd unigryw, llachar a deniadol oedd ar y cast oedd yn adlewyrchu eu cymeriadau.

Uchafbwynt y noson
Y diweddglo oedd yn crisialu'r noson efo'r cymysgwch o'r caneuon a'r dawnsiau orau.

Y peth gwaethaf am y noson
Y tocyn costus o £35 ond credaf fod y perfformiad yn haeddu pob ceiniog.

Beth sy'n aros yn y cof
Defnyddiwyd defnydd gwych o symudiadau sglefrio a lleisiau dawnus o bedwarawd y merched yn y gân 'Crazy'.

Talent orau'r perfformiad
Rhaid rhoi clod i 'Hip Hopper 1,2 a 3', roedd eu dawnsio modern o neidio dros y haul a'i triciau ar eu sglefrwyr yn synnu'r gynulleidfa; tipyn o gamp i ganu ar yr un pryd!

Marciau allan o ddeg
Deg!

Cyngor
Rwy'n eich cynghori i bwcio ticed mor gynted â fo'n bosib! Wedi cael ei berfformio yn yr West End ers hydoedd mae'r perfformiad yma'n ffres ac yn siŵr o'ch diddanu, pa bynnag oedran ydych chi.

Un gair am y perfformiad
Anghredadwy (gan fod yr holl beth yn fyw!)

Adolygiad gan Natalie Moore Davwen o Ysgol Gyfun Llanbed

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Ffion Evans o Gwmann!!
Da iawn Natalie. Fab!! x

Lisa Elin o Lambed
da iawn sis erthygl bendigedig :-)!!Roedd y sioe yn arbennig o dda ac yn haeddu'r deg allan o ddeg!!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý