Pam?
Wedi i ddosbarth yn yr ysgol wneud sgwrs gwasanaeth am yr elusen 'Teenage Cancer Trust', penderfynodd merched a bechgyn blwyddyn 10 Ysgol Gyfun Llambed chwarae gêm pêl-rwyd yn erbyn ei gilydd er mwyn codi arian i'r elusen.
Lle a phryd
Yn iard waelod yr ysgol tu fas y cantîn amser cinio ar y bumed ar hugain o Fai.
Y chwaraewyr Saethwraig: Natalie / Fiona (Bechgyn) Shaun Jacobs
Gôl ymosod: Elin Jones /Emma Sturley-Davies (Bechgyn) Trystan Lloyd /Owen Thomas
Asgell ymosod: Hedydd Wilson /Angharad Evans (Bechgyn) Donal Davis
Canolwraig: Rhian Thomas (Bechgyn) Trystan Lloyd /Owen Thomas
Asgell amddiffyn: Ffion Davies /Beca Lewis (Bechgyn) Johnathan Davies
Gôl amddiffyn: Gwawr Bowen (Bechgyn) Rhydian Davies
Gôl geidwad: Caryl Thomas (Bechgyn) Rhydian Watkins
Darparwr dŵr: Martin Theodorou
Ffotograffydd swyddogol: Lowri Jones / Carys Thomas Shaun Brown
Dyfarnwyr Miss Nerys Phillips Mrs Kay Morris
Awyrgylch
Daeth nifer o ddisgyblion ac athrawon a noddwyd y chwaraewyr i wylio'r gêm.
Diolchwn am eich cefnogaeth!
Gwisgoedd Rhaid sôn am wisgoedd y dau dîm. Gwisgodd y merched yn steil yr Indiaid Cochion ond defnyddiwyd rhubanau pinc yn lle coch! Hefyd gwisgwyd sanau hir streipïog - hosan wahanol ar bob coes! Thema gwisg y bechgyn oedd pêl-fasged steil Americanaidd.
Uchafbwynt y gêm
Gôl cyntaf Shaun- tipyn o gamp.
Beth sy'n aros yn y cof
Brwdfrydedd y dau dîm, braf oedd cael hwyl a sbri wrth godi arian at yr elusen.
Talent orau'r gêm I feddwl taw dyma tro cyntaf y bechgyn yn chwarae gêm pêl-rwyd rhaid eu gwobrwyo.
Synnodd Rhydian Davies ei gyd chwaraewyr efo'i sgiliau rhagorol, da iawn ti.
Sgôr y gêm
2 : 1 i'r bechgyn. Llongyfarchiadau bois!
Swm o arian a godwyd
Amcangyfrir ein bod wedi codi £150 mor belled
Gair bach i ddiolch
Gwyddwn fod yr ysgol wedi rhoi'n hael iawn at yr achos da hyn, felly hoffai tîm y merched a bechgyn ddiolch o galon i'r rhai a noddwyd ni am chwarae'r gêm. Gobeithiwn fod yr arian a godwyd yn mynd i wneud gwahaniaeth i blant yr un oedran a ni sy'n dioddef o gancr.
Gan: Natalie Moore
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|