Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Meinir Gwilym yn perfformio Gŵyl Tân Tanat
Roedd Llanrhaeadr ym Mochnant yn brysur iawn dros benwythnos Gŵyl Tan Tanat ar Fehefin 17 a 18, 2005.
Cynhaliwyd Gŵyl Tân Tanat 2007 ar benwythnos Mehefin 22 a 23. - cliciwch i ddarllen adolygiad.

Bwriad yr ŵyl oedd codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg yn yr ardal a bu'r tywydd braf yn help mawr i ddenu pobl i'r ŵyl ac i fwynhau'r gweithgareddau.

Ar nos Wener Mehefin 17 cafwyd cyngerdd yn y babell fawr ar faes y 'rec' gyda Meinir Gwilym a'r Band yn perfformio i dorf o dros 200. Yn cefnogi Meinir Gwilym roedd y gantores Lisa Pedrig a'r grŵp lleol o Lanerfyl, 'Strap the Button'.

Cynhaliwyd gweithgareddau ar gyfer y rhai iau yn ystod y bore canlynol. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys sioe bypedau gan 'Gwmni Cortyn'; castell gwynt; a gwybodaeth a chyngor ar sut i fagu plant yn ddwyieithog. Dilynwyd y sesiwn foreol gan ddarlleniadau barddonol gan y beirdd Iwan Llwyd a Mei Mac yng ngwesty'r Plough. Roedd y lle yn llawn dop o bobl o bob oed ac yn ôl pob sôn mae'r ddau fardd am ddod yn ôl i Lanrhaeadr yn y dyfodol agos! Parhawyd gyda'r hwyl yn hwyr i mewn i'r prynhawn gyda sesiwn jamio werinol dan ofalaeth cerddorion gwerin leol.

Daeth y digwyddiadau i ben ar y dydd Sadwrn gyda gŵyl roc yn y babell fawr. Ymysg y grwpiau oedd yn perfformio roedd grwpiau newydd lleol fel Gwiber, Vendetta a Blue Room yn ogystal ag enwau mwy adnabyddus fel Sibrydion a Kentucky AFC. Uchafbwyntiau cerddorol y noson oedd setiau Bootnic a Frizbee ac unwaith eto roedd dros 200 yn y gynulleidfa.

Mae'r trefnwyr yn hapus iawn gyda'r ymateb sydd wedi bod i'r ŵyl a'r gobaith nawr yw trefnu rhagor o ddigwyddiadau a nosweithiau Cymraeg yn yr ardal. Dywedodd un o'r trefnwyr Catherine Morris, "Mae trefnu'r ŵyl wedi golygu llawer o waith caled dros y chwe mis diwethaf ond erbyn y diwedd roedd llawer o'r trigolion lleol wedi helpu i wneud Tân Tanat yn llwyddiant tra ar yr un pryd, codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg yn yr ardal ac i gynulleidfa ehangach, a'r gobaith nawr yw parhau gyda'r gwaith yn y dyfodol".

Hoffai'r trefnwyr ddiolch i'r gymuned leol (yn enwedig y Plough, y Clwb Bowlio, y Clwb Pêl-Droed a phwyllgor y 'rec') am eu cefnogaeth dros y chwe mis diwethaf ac i PAVO (Cynllun Ysbryd 2, Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 2) am gefnogaeth ariannol.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Oeddech chi yno? Rhowch eich barn am y penwythnos yma.
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý