Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Fflur Dafydd Noson Fflur Dafydd
Adolygiad o noson o adloniant gyda Fflur Dafydd ym Mar Pafiliwn Bont.

Nos Iau oer ar ddiwedd mis Hydref a beth well i dwymo'r galon na diod fach a noson o adloniant ysgafn yng nghwmni un o bobl ifanc mwyaf talentog Cymru, Fflur Dafydd.

Mae Fflur yn adnabyddus ers blynyddoedd fel bardd a llenor llawn potensial, ond yn ddiweddar mae wedi ymddangos fwy fwy ar lwyfannau cerddorol Cymru a thu hwnt gyda'i band 'y Barf'. Wedi dweud hynny, ei gwaith fel awdur a gipiodd y penawdau yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe eleni wrth iddi ennill y Fedal Lenyddiaeth. Roedd felly'n argoeli'n noson ddifyr wrth iddi gyfuno'r holl dalentau hyn ym Mhontrhydfendigaid.

Cyn dechrau perfformio eglurodd Fflur mai ond y dim a llwyddo i'w gwneud hi i'r Bont a wnaeth gan ei bod wedi dioddef o 'donsilitis' yn ystod y dydd. Ymddiheurodd o flaen llaw am safon ei llais o ganlyniad i hyn, ond wrth iddi daro'r nodau cyntaf o'i set daeth yn amlwg fod dim ganddi i boeni amdano yn hynny o beth. Dechreuodd gyda chwpl o ganeuon o'i halbwm llwyddiannus Coch Am Weddill fy Oes ac er mai cynulleidfa fach oedd yno roeddent yn rhoi gwrandawiad da iddi.

Yna penderfynodd amrywio pethau rhywfaint gan ddarllen cerdd a ysgrifennwyd ganddi rhai blynyddoedd ynghynt. Darn o nofel fuddugol y Fedal Lenyddiaeth, Atyniad, oedd i ddod nesaf, ond cyn hynny rhoddodd beth o gefndir yr ysgogiad i ysgrifennu'r gwaith, yn cynnwys y cyfnod y treuliodd ar Ynys Enlli fel bardd preswyl.

Er bod y darlleniadau llenyddol yn cael eu gwerthfawrogi, roedd yn amlwg mai'r ochr gerddorol i'r noson yr oedd y gynulleidfa'n ei fwynhau fwyaf. Cafwyd cymysgedd o ganeuon o'i halbwm cyntaf, yn cynnwys yr hyfryd Gwir am Gelwydd, ac hefyd rhai o'i caneuon cynharaf nad oedd yn ôl Fflur 'cweit yn ddigon da i gael lle ar yr albwm', ond a oedd hi yn fwy ffond ohonyn nhw o ganlyniad.

Penderfynodd ddarllen darn doniol arall o Atyniad gan roi cipolwg i fewn i feddyliau rhai o'r cymeriadau. Gyda'r llais i'w weld yn para'n dda, roedd rhaid cael cân i orffen y noson, a Wordrob Gefn ddaeth a'r adloniant i derfyn a'r gynulleidfa'n amlwg wedi eu plesio'n fawr.

Hon oedd y gyntaf o'r nosweithiau Bontcwstig fydd yn cael eu cynnal ym Mar y Pafiliwn bob mis, gyda'r canwr-gyfansoddwr Ryan Kifft a 'Pictiwrs yn y Pub' yn diddanu ym mis Tachwedd.

Gyda rhywfaint o lwc bydd y gair wedi lledu am safon yr adloniant gyda Fflur Dafydd a bydd cynulleidfa fwy yno'n y dyfodol.

Owain Schiavone

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

  • Mwy am Bafiliwn Bont yma


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý