Â鶹Éç

Breuddwyd Rhonabwy

Darluniau gan Jemima Lee

Pan oedd Rhonabwy ar un o'i ymgyrchoedd cafodd lety un noson mewn hen adeilad budr, myglyd, a'i lawr yn byllau tail, a bonion celyn ym mhobman. Roedd y llwyfannau cysgu yn llychlyd a noeth, a hen wrach yn gwarchod y tân; pan deimlai hi'n oer lluchiai lond côl o us am ben y fflamau nes bod y mwg a'r llwch yn drech na phawb.

Dychwelodd gŵr a gwraig y tŷ a pharatoi swper o fara haidd a chaws a llefrith glastwr i bawb. Cododd yn storm enbyd ac arhosodd Rhonabwy a'i ffrindiau yno dros nos. Dim ond gwellt byr, llychlyd, chweinllyd oedd yno i gysgu, a charthen lwytgoch, galed, dyllog drosto.

Ar ben y garthen roedd cwrlid carpiog, a gobennydd hanner gwag a'i gas yn fudr. Cysgodd ffrindiau Rhonabwy yng nghanol y chwain, ond ni allai Rhonabwy orffwys.

Aeth i gysgu ar groen melyn bustach ar lwyfan arall, a breuddwydio. Gwelodd ddyn ifanc ar farch melyn gyda choesau gwyrdd yn dod ato. Gwisgai'r marchog wisg sidan felen, a mantell fel blodau'r banadl a'i godreon yn wyrdd fel dail ffynidwydd.

Roedd golwg mor ffyrnig arno, fe gododd ofn ar Rhonabwy a'i ffrindiau a'u hanfon ar ffo. Ymlidiodd y marchog hwy, a phan anadlai ei farch allan fe chwythai'r gwÅ·r ymhell oddi wrtho, a phan dynnai ei anadl i mewn fe dynnai hwy at ei frest. Nid oedd ganddynt obaith ffoi, ac erfyniasant am drugaredd. Felly y bu.

Iddog oedd y marchog, sef yr un a wnaeth helynt rhwng y Brenin Arthur a Medrawd gan achosi Brwydr Camlan. Ond wedi gwneud saith mlynedd o benyd, cafodd faddeuant.

Marchogodd Iddog gyda Rhonabwy a'i ffrindiau, ac esbonio iddynt pwy oedd pob marchog a âi heibio, a phwy oedd arweinydd pob byddin.

Daethant at Arthur ac Owain. Roedd y ddau yn chwarae gwyddbwyll. Daeth sgwïer atynt a dweud wrth Owain fod milwyr Arthur yn ffraeo â'i gilydd cymaint nes eu bod yn tarfu ar frain Owain. Gofynnodd Owain i Arthur eu gwahardd, ond gwrthododd.

Daeth sgwïer arall i rybuddio Owain am ei frain, ond ni chymerodd Arthur sylw. Wedyn daeth dyn llidiog yn cario picell newydd ei hogi atynt a dweud wrth Owain fod ei frain gorau wedi eu lladd. Ond ni ddywedodd Arthur ddim.

Felly gofynnodd Owain i'r dyn llidiog godi baner lle'r oedd brwydr y brain ar ei hanterth. Wrth ddyrchafu'r faner codai'r brain i'r awyr yn ffyrnig. Disgynasant yn un haid am ben y gwÅ·r a fu'n aflonyddu arnynt.

Dygent bennau rhai, llygaid eraill, clustiau rhai, breichiau eraill a'u codi i'r awyr. Roedd y brain yn curo'u hadenydd ac yn crawcian yn wyllt, a'r gwŷr yn sgrechian wrth gael eu clwyfo a'u lladd. Ond er i Arthur ofyn i Owain wahardd y brain ni wnâi.

Daeth marchog a helm aur ar ei ben a cherrig saffir ynddi at Arthur a dweud bod ei filwyr i gyd wedi'u lladd gan y brain. Ni chymerodd Owain sylw. Daeth marchog arall gyda'r un neges, ond nid oedd Owain yn gwrando.

Gwylltiodd Arthur a gwasgu'r darnau gwyddbwyll yn llwch. O'r diwedd, gorchmynnodd Owain i'r faner gael ei gostwng, ac ar unwaith daeth tangnefedd dros y wlad.

Yna daeth marchogion i geisio heddwch ag Arthur, a beirdd i ganu cerddi mawl iddo. Ni ddeallai neb y beirdd oni bai am Cadriaith. Cyrhaeddodd pedwar ar hugain o asynnod a phaciau o aur ac arian ar eu cefnau gydag anrhegion i Arthur.

Gwnaethant gymaint o sŵn, deffrôdd Rhonabwy, a dyna lle'r oedd yn dal i orwedd ar groen melyn yr anner, wedi bod yn cysgu am dri diwrnod a thair noson.


Llyfrnodi gyda:

Chwedlau Myrddin

Morgana

Straeon a gemau

Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.

Dysgu

Celtiaid

Celtiaid

Straeon a ffeithiau difyr am fyd y Celtiaid o Oes yr Haearn yng Nghymru.

Ysgolion

Darlun o Cromwell yn diddymu'r Senedd Hir

Help Hanes

Erthyglau defnyddiol am hanes Cymru drwy'r oesau ar gyfer disgyblion ysgol.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.