Â鶹Éç

Santes Dwynwen

Ynys Llanddwyn - ynys Dwynwen.

gan Bethan Mair
Bore Gwener Ionawr 22 2010

Fel rhan o wasanaeth cyhoeddus y Â鶹Éç, dyma eich hatgoffa ei bod hi'n ddiwrnod Santes Dwynwen ddydd Llun.

Nawr, nid y fi fydd yn dweud ei dweud y bore hwnnw, felly alla i ddim addo y cewch chi eich atgoffa bryd hynny!

Ond i'r rheiny ohonoch sy wedi codi'n gynnar heddiw, dyma roi cyfle ichi achub y blaen ar eich cymar.

Cerdyn neu weithred

Cofiwch feddwl am gerdyn neu ychydig o flodau, pryd neis o fwyd neu rhyw weithred ramantus - paned yn y bore, cyflawni rhyw waith tÅ· diflas heb i neb ofyn ichi wneud - yn wir unrhyw beth sy'n dangos eich bod chi'n gwerthfawrogi cwmpeini eich cariad bob dydd o'r flwyddyn ond eich bod yn ei nodi'n arbennig ar ddiwrnod nawddsant y cariadon, y pumed ar hugain o Ionawr.

Pam unwaith y flwyddyn?

Ond pam fod yn rhaid gwneud y pethau hyn ond unwaith y flwyddyn?

Ie, dyna gwestiwn da. Os yw gweithredoedd fel hyn yn arwydd o serch a chariad, oni ddylen nhw fod yn rhan o'n bywydau bob dydd ni?

Wel, wrth gwrs, mewn byd perffaith, fe ddylen nhw fod, rwy'n cytuno. Ond pwy ohonon ni sy'n byw mewn byd perffaith?

Pwy ohonon ni all ddweud â'n llaw ar ein calon nad ydyn ni wedi bod yn rhy brysur i roi cusan i'r gŵr cyn rhuthro mas o'r tŷ, neu wedi esgeuluso dweud, "Ti yw trysor penna fy mywyd," wrth ei wraig?

Mwy na sbort

Falle taw ychydig bach o hwyl yw Diwrnod Santes Dwynwen, ond mae'r syniad o gael diwrnod i aros a meddwl am gariad yn llawer pwysicach na bach o sbort.

Ac nid yn unig am serch a rhamant y gallwn ni bendroni, nage? Onid cariad yw elfen bwysicaf ein hymwneud â'n gilydd?

Cerwch eich gilydd fel y cerais i chwi, meddai Iesu. Nawr, dyna her.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.