|
Meini Meirionnydd - holi'r awduron Holi awduron Meini Meirionnydd
Enw:
David Glyn Lewis
(ffotograffydd Meini Meirionnydd) Huw Dylan Owen
(awdur Meini Meirionnydd) Beth yw eich gwaith? David: Gweithiwr Cymdeithasol yn asesu, hyfforddi a recriwtio gofalwyr maeth. Huw Dylan: Cyd-Drefnydd Gofal Canolradd yn Shir G芒r.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? David: Dwi wedi gweithio fel gweinydd gorsaf betrol, tu 么l i f芒r, gweithiwr cymdeithasol preswyl, gyrrwr bysus, a gweithiwr cymdeithasol gyda phlant ac oedolion ag anableddau. Huw Dylan: Llawer!
Gweinydd gorsaf betrol. Marsiandwr Losin/Fferins. Swyddog Datblygu'r Urdd. Gweinyddwr Canolfan Bowlio Deg. Myrdd o swyddi gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gwasanaeth Iechyd, Therapydd Galwedigaethol.
O ble'r ydych chi'n dod? David: Ces i fy ngeni yn Coventry a symudais i Ddolgellau gyda fy nheulu pan oeddwn i'n tua 18 mis oed. Huw Dylan: Fe'm ganwyd yn Crewe (Sir Gaer), magwyd yn Nolgellau (Meirionnydd), addysgwyd ym Mhontypridd, Caerdydd a Chaerwysg.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? David: Gellilydan, Gwynedd.
Huw Dylan: Treforys, Abertawe.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? David: Dim i ddweud y gwir. Mwynheais hanes a daearyddiaeth, ond ystyriais y pynciau eraill fel 'hassle'. Serch hynny, mi wnes fwynhau gwneud y cymhwyster gwaith cymdeithasol; mae'n debyg oherwydd ei fod yn rhywbeth y dewisais ei wneud.
Huw Dylan: 'Roedd f'addysg ysgol ar y cyfan yn amherthnasol (Dwi,n dal yn ansicr o'r hen sin cos a tan, ond yn ymarfer yn feunyddiol!). 'Roedd mwynhad y coleg yn amherthnasol i'r addysg!
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. David: Bu diddordeb gen i mewn hanes erioed, yn enwedig hanes hynafol. Cefais gyfle i gyfuno hyn gyda fy nghariad at ffotograffiaeth i helpu Dylan i gynhyrchu llyfr sydd, rydyn ni'n gobeithio, yn codi ymwybyddiaeth pobl Cymru o'r hanes sydd o'u cwmpas.
Mae hi'n rhyfeddol meddwl fod gennym ni yma yng Nghymru hanes sydd cyn hyned, os nad yn hynach, na'r hanes 'clasurol' a ddysgir yn yr ysgolion.
Ar lefel hollol hunanol mae'n ffordd o adael rhywbeth ar fy 么l a dweud wrth y byd "Bum i yma!".
Huw Dylan: Tra 'roedd yr Eifftiaid yn creu masg marwolaeth i'r brenin o fachgen, Tutankhamun, yn 1323 cyn Crist 'roedd rhai o'r cromlechi a'r meini hirion yma yng Nghymru eisoes yn dair mil o flynyddoedd oed! Ac maen nhw yma o hyd yn disgwyl cael eu canfod gennym ni, o hil a llinach y Brythoniaid.
Pan aeth yr Athro Bryan Sykes ati rai blynyddoedd yn 么l i wneud arolwg DNA 'mitocondrial' yng Ngheredigion, canolbwyntiodd ar blant ysgol yn Llanbedr Pont Steffan. Casglodd samplau DNA gan ddisgyblion oedd yn siarad Cymraeg, plant a oedd hefyd gyda mam-gu yn byw yn yr un ardal. Profwyd fod 34% ohonynt yn perthyn i linach y Brythoniaid a adeiladodd Bentre Ifan, cromlech ger Abergwaun, ond nad oedd dim tebygrwydd rhwng DNA'r ieuenctid hyn a DNA ieuenctid Celtiaid Canol Ewrop.
'Roedd darllen am waith ymchwil Bryan Sykes yn ysgubol i mi. Rhoddodd olwg newydd ar y genedl Gymreig a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg i'r genedl honno. Ni'r Cymry, neu'r gwir Frythoniaid, oedd yma chwe mil o flynyddoedd ynghynt yn codi cromlechi ac allorau, cig a gwaed ein cenedl ni a'u llafur cariad greodd yr hyn welwn ni heddiw fel cofadeiliau rhyfedd. Sylweddolais hefyd nad oedd gan hipis Saesneg y 'New Age' a welwn yn gwerthu'u crisialau yn yr Ynys Wydrin, (Glastonbury), a lleoedd tebyg, ddim syniad am gylchoedd cerrig a henebion cyffelyb mewn gwirionedd. 'Roedd hi'n bryd i ni'r Cymry roi ein stamp yn 么l ar feini hirion Cymru.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
David: Pan oeddwn yn ifanc iawn mwynheais lyfrau Tomos y Tanc.
Huw Dylan: Llyfrau Asterix Cymraeg - cyfieithiadau athrylithgar.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
David: Dwi'n dal i fwynhau'r cyfle/esgus i'w darllen i unrhyw blant.
Huw Dylan: Yn achlysurol iawn, iawn, ond wrth ganfod y nofel graffeg am Iddewon yr Ail Ryfel Byd, Maus, bu ailgynnau ar fy niddordeb mewn llyfrau cyffelyb ar gyfer oedolion.
Pwy yw eich hoff awdur?
David: Bernard Cornwell. Terry Pratchett
Huw Dylan: Eluned Morgan (Cymraeg), Emlyn Gomer (Cymraeg), Byron Rogers (Saesneg), Bernard Cornwell (Saesneg).
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? David: Bury My Heart at Wounded Knee,
No One Here Gets Out Alive (Biography of Jim Morrison). Efengyl Jiwdas.
Huw Dylan: Mae nifer:The Ragged Trousered Philanthropist (Robert Tressel), Cysgod Tryweryn (Owain Williams), The Merthyr Rising (Gwyn A. Williams), Bury My Heart at Wounded Knee (Dee Brown), To Dream of Freedom (Roy Clews), Rhwng Dau Fyd - Y Swagman o Geredigion (Bethan Phillips).
Pwy yw eich hoff fardd?
David: Jim Morrison. William Blake. Dylan Thomas.
Huw Dylan: Mae hi rhwng Donald Evans a Gerallt Lloyd Owen.
Pa un yw eich hoff gerdd?
David: Do Not Go Gentle Into That Good Night - Dylan Thomas.
Huw Dylan: Dychwelyd - T.H.Parry Williams.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
David: `Twas brillig, and the slithy toves
Did gyre and gimble in the wabe:' - Jabberwocky gan
Lewis Carroll.
Huw Dylan: Liwgar deg lygredigaeth--gwywa'r haf,
Gwrid darfodedigaeth,
Tywyn 么l y tan a aeth,
Amryliw wisg marwolaeth.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
David: Ffilm: Last Days of Dolwyn.
Teledu: The Simpsons. Huw Dylan: Dwy ffilm - Remains of the Day a Groundhog Day.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
David: Hoff - Derfel - yn nhriawd Arthur Bernard Cornwell.
Cas - neb. Huw Dylan: Hoff - Gwylan yn Cysgod y Cryman (Islwyn Ffowc Ellis)
Cas - Crass yn y Ragged Trousered Philanthropist.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
David: A bird in the hand is worth a stitch in time.
Huw Dylan: Yn araf bach a bob yn dipyn mae hwpo bys lan tin gwybedyn.
Pa un yw eich hoff air?
David: Ie.
Huw Dylan: Darfodedigaeth.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? David: Gyrru fel Michael Schumacher
Huw Dylan: Tynnu llun.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
David: Gwryw; Gwyn; Oedolyn.
Huw Dylan: Lolyn; Cymro; Rhy rydd fy marn.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
David: Fy oedran, dwi eisiau bod yn iau.
Huw Dylan: Gormodiaith.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
David: Isambard Kingdom Brunel - Credu'n llwyr ynddo'i hun heb boeni am ei feirniaid.
Huw Dylan: Dwi'n si诺r y byddai noson allan gyda Richard Lewis (Dic Penderyn) wedi bod yn ddifyr iawn. G诺r ifanc fu'n brwydro dros hawliau'r gweithiwr ymhell cyn digwyddiadau gwyllt Merthyr.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
David: Apollo 11 a'r glaniad cyntaf ar y lleuad.
Huw Dylan: Gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
David: I诺l Cesar, byddai gennyf gymaint o barchedig ofn fel y byddwn, mae'n si诺r, yn anghofio fy nghwestiynau i gyd.
Huw Dylan: Byddwn yn ymbilio ar Michael D Jones a'i debyg i beidio arwain y Cymry o'u cartref.
Pa un yw eich hoff daith a pham?
David: Y daith i Fryn Cader Faner. Mae'r olygfa o'r heneb ysblennydd hwn ar y gorwel bob amser yn ddramatig beth bynnag fo'r tywydd.
Huw Dylan: Y daith gartref gyda'r hwyr drwy'r glaw a'r gwynt oer ac at aelwyd olau, sych a chynnes.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
David: St锚c - glas (bron yn amrwd) gyda colcannon a beetroot.
Huw Dylan: Tatw pum munud (sy'n cymeryd oriau i'w coginio!)
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
David: Cerdded
Teithio.
Huw Dylan: Chwarae cerddoriaeth mewn sesiwn werin.
Pa un yw eich hoff liw?
David: Coch.
Huw Dylan: Du.
Pa liw yw eich byd?
David: Dibynnu os ydw i'n gwisgo sbectol haul neu beidio..
Huw Dylan: Coch.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
David: Byddwn yn cyflwyno deddf fyddai'n sicrhau fod gan bawb fynediad i Ferrari bob penwythnos.
Huw Dylan: Trafnidiaeth Gyhoeddus am Ddim ac Ymhobman gan gynnwys tr锚n o Fangor i Gaerdydd gyda dim ond tri stop!
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
David: Oes.
Huw Dylan: Oes.
Cysylltiadau Perthnasol
Sylwadau am y gyfrol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|