麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Meini Meirionnydd
Miloedd o flynyddoedd cyn y Pyramidiau

  • Sylwadau Glyn Evans ar Meini Meirionnydd - Meini Hirion, Cylchoedd Cerrig a Chromlechi ym Meirionnydd gan Huw Dylan Owen a David Glyn Lewis. Lolfa. 拢9.95.
  • Cwpled gan Tecwyn Owen sy'n cyflwyno'r gyfrol, Meini Meirionnydd - casgliad o luniau a gwybodaeth am feini hirion, cylchoedd cerrig a chromlechi ym Meirionnydd:
    A daw o'r niwl gyda'r nos
    Hen hiraeth a fyn aros.

    Clawr y llyfr Er mor gyfarwydd yw rhywun 芒'r meini hyn mewn sawl rhan o'r wlad nid pawb sy'n sylweddoli pa mor hen yn union yw'r hiraeth hwnnw a fyn aros sy'n gysylltiedig 芒 hwy.

    "Pan oedd yr Eifftiaid yn creu masg marwolaeth i'r brenin o fachgen, Tutankhamun, yn 1323 cyn Crist, 'roedd rhai o'r cromlechi a'r meini hirion yma yng Nghymru eisoes yn dair mil o flynyddoedd oed!" meddai Huw Dylan Owen awdur geiriau'r gyfrol a luniodd gyda'r tynnwr lluniau David Glyn Lewis."

    "Ac maen nhw yma o hyd yn disgwyl cael eu canfod gennym ni, o hil a llinach y Brythoniaid," ychwanegodd wrth Llais Ll锚n.

    Ias ryfeddol
    Ac yn 么l Dylan yr ydym ni'r Cymry yn ddisgynyddion o'r bobl yr oedd y meini hyn yn golygu cymaint iddyn nhw.

    "Ni'r Cymry, neu'r gwir Frythoniaid, oedd yma chwe mil o flynyddoedd ynghynt yn codi cromlechi ac allorau, cig a gwaed ein cenedl ni a'u llafur cariad a greodd yr hyn welwn ni heddiw fel cofadeiliau rhyfedd," meddai.

    Ac ydi, mae yn codi rhyw ias ryfeddol; ein bod wrth gyffwrdd y cerrig hyn ym Mhentre Ifan ym Mhenfro, Bryn Celli Ddu ym M么n a lleoedd eraill ar hyd a lled Prydain yn cyffwrdd 芒'r un meini ag a gyffyrddwyd gan bobl oedd yn creu siambrau claddu a chodi cromlechi filoedd o flynyddoedd cyn codi pyramidiau'r Aifft!
    Tair pedair a phum mil o flynyddoedd cyn geni Crist oedd y Brythoniaid hyn wrth eu gwaith!

    Trysorau
    "Erys nifer helaeth o'r cerrig hyn ar hyd ucheldir Cymru ac ym Meirionnydd mae casgliad sylweddol i'w gweld ar hyd yr arfordir ac maen nhw yn drysorau sy'n rhan bwysig o etifeddiaeth y Cymry," meddai Huw Dylan Owen.

    Mae o a'r tynnwr lluniau, David Glyn Lewis, wedi ymweld 芒'r rhan fwyaf os nad y cyfan ohonyn nhw ac yn ogystal a lluniau ohonynt mae lleoliad map a gwybodaeth fuddiol yn ymwneud 芒'u hanes a'u chwedloniaeth.

    Mae Cromlech Gwerneinion yn Llanbedr, Harlech, (yn y llun cyntaf) yn un o'r rhai hynaf ym Mhrydain - ac wedi ei defnyddio yn rhan o wal gerrig gan ffermwr yn y ddeunawfed ganrif yn 么l y llyfr.

    "Yn ystod ein hymweliad roedd corff llwynog yn gorwedd yn gelain yn y gromlech a rhoddodd hynny flas i ni o'r oesau gynt, a'n hatgoffa hefyd fod y gromlech hon [a oedd yn fynedfa i hen siambr gladdu] yma ers, yn llythrennol, oes yr arth a'r blaidd," meddai'r llyfr.

    Hynny yw, chwe mil o flynyddoedd yn 么l!

    A diddorol gweld - wrth i'w pwrpas gwreiddiol fynd yn angof - sut y'u hymgorfforwyd gan bobl filoedd o flynyddoedd wedyn i bwrpas mor ymarferol a bod yn rhan o wal gerrig!

    Mwy o ddychymyg
    Weithiau dengys ymateb yr oesau fwy o ddychymyg trwy greu chwedlau i egluro'r meini.

    Mae dwy gromlech ar gyrion pentref Dyffryn Ardudwy yn cael eu hadnabod fel Coetan Arthur gan rai, Siambrau Claddu Dyffryn a Cherrig Arthur gan eraill.

    Coetan Arthur "Dywed un chwedl fod y Brenin Arthur wedi taflu'r goeten yma o ben mynydd Moelfre a cheir yr un math o chwedl a sawl 'Coetan Arthur' mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru," meddir.

    Ychwanegir mai dim ond yn Iwerddon, Cernyw, Ynys M么n ac yma ym Meirionnydd y ceir yr union fath yma o gromlech sy'n cael ei hadnabod fel 'beddrod porth' .

    "Credir mai dyma'r math cynharaf o siambr gladdu a godwyd ym Mhrydain," meddir.

    Codi awch
    Ydynt mae'r ddau awdur yn ddieithriad yn gwybod yn union pa friwsion o wybodaeth sy'n mynd i godi awch ar ddarllenydd i godi ei bac ac ymweld 芒'r lleoedd hyn ac ychwanegwyd sawl englyn gan Huw Dylan Owen i ychwanegu at y naws a chynyddu'r rhyfeddod.

    Dywed yr awduron iddynt ill dau gerdded at bob un o'r meini yn y llyfr ac i'r cyfan droi yn fath o bererindod iddynt.

    "Ein bwriad yw codi ymwybyddiaeth pobl Cymru o'u hetifeddiaeth gyfoethog a sicrhau fod Cymru, a Meirionnydd yn benodol, yn cael ei chydnabod yn gartref i ryfeddodau cyntefig," meddai Huw Dylan Owen.

    Mae'r gyfrol, sydd wedi ei sgrifennu yn amlwg gyda'r darllenydd cyffredin mewn golwg, yn sicr yn deffro diddordeb a thybed a allwn obeithio eu gweld yn ymestyn eu gweithgarwch i rannau eraill o Gymru? Byddai'n gasgliad difyr a gwerthfawr o lyfrau.

    Rhaid canmol Y Lolfa hefyd am bris rhesymol.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi'r awduron


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy